主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

尝濒锚苍
Bethan Gwanas
Bethan Gwanas

Magwyd: Dolgellau

Addysg: Ysgol y Gader, Dolgellau


Awdures, cyflwynwraig ac enillydd Gwobr Tir na n-Og.

Er mai fel awdur mae Bethan Gwanas yn enwog bellach, mae wedi gwneud sawl swydd cyn setlo i lawr i ysgrifennu yn llawn amser.

Ymddeolodd o'i swydd fel hyrwyddwr llenyddiaeth i Gyngor Gwynedd yn 2003 er mwyn canolbwyntio ar ei gyrfa ysgrifennu.

Cyn hynny, bu'n athrawes Ffrangeg, yn dysgu Saesneg yn Nigeria, yn ddirprwy bennaeth Gwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn ac yn gynhyrchydd i Radio Cymru.

Cafodd ei magu yn ferch fferm yn y Brithdir ger Dolgellau, Meirionnydd, a hynny i s诺n canu ei thad, yr enillydd Rhuban Glas, Tom Gwanas - er ei bod hi ei hun yn cyfaddef nad ydi hi wedi etifeddu ei ddawn leisiol!

Yn ogystal 芒'r nofel am hynt a helynt t卯m rygbi merched, Amdani!, a wnaed yn gyfres deledu boblogaidd ac yn ddrama lwyfan, ymysg ei chyhoeddiadau eraill mae Dyddiadur Gbara; Cyfres Blodwen Jones ar gyfer dysgwyr; Llinyn Tr么ns; Sg么r, nofel i'r arddegau; Byd Bethan, a'r nofel fentrus, Gwrach y Gwyllt.

Mae wedi ennill gwobr Tir na n-Og, sy'n anrhydeddu gwaith awduron llyfrau plant, ddwywaith - y tro cyntaf yn 2001 am Llinyn Tr么ns a'r ail yn 2003 am y nofel Sg么r a gyd-ysgrifennodd gyda chriw o ddisgyblion ysgol.

Cyrhaeddodd ei nofel Hi yw Fy Ffrind restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2005.

Dywed mai ei hoff lyfr pan yn blentyn oedd Brownie Tales gan Enid Blyton. Erbyn hyn ei hoff awduron yn y Gymraeg ydy Islwyn Ffowc Elis a Geraint V Jones, ac yn Saesneg Roddy Doyle, Isabelle Allende, JK Rowling a Barbara Kingsolver.

Mae hi bellach yn byw yn 么l yn ei hardal enedigol yn Rhydymain ac mae'n gystadleuydd brwd ar y Talwrn ac mewn stompiau barddonol ar hyd a lled y wlad yn ogystal 芒 bod yn wyneb cyfarwydd ar y teledu.

Bethan GwanasFideo: Holi Bethan
Bethan yn ateb cwestiynau gan blant Ysgol Gyfunm Llangefni ar gamera.


Cyfrannwch

Menna Morris, Y drenewydd
Bethan. Dw i newydd ddarganfod dy lyfrau di a mae nhw yn ffantastig. Dw i wedi darllen 4 yn barod ac yn torri bol i ddarllen mwy! Roll on y gwyliau Haf pan mae gen i amser i ddarllwn yn yr ardd!

sara(13 oed)
newydd orffan darllen pen dafad ac roedd yn arbennig. y merch yn tigr arbennig gyda (twist). roedd yn ardderchog. rwyf yn rhoid 10 allan o 10 iddo da iwan

Laura o Pwllheli
Da ni newydd fod yn darllen y Llyfr "SGOR" yn fy nosbarth Cymraeg ac mae wedi apelio ataf yn arw. Dwi mond isho deud fod y llyfr yn rili da i ddarllen ag mae o wedi tynu lot o fy sylw. ella fysa y diwedd wedi bod yn well efo dipyn o newid reoddwn eishiau gweubod beth oedd am ddigwydd ar ol i Sion fynd nol i Bangor i fyw ag os oddo yn gadw cysylltiad efo Taleri yn diwadd ond fel arall oddon Dda iawn..Diolch!

Eirian o Gefneithin
Newydd ddarllen Hi yw fy FFrind a Hi oedd fy FFrind, Gwrach y Gwyllt nesa, bron a gorffen Martha, Jac a Sianco gan Caryl Lewis rwyn siwr bod ti wedi ei ddarllen, Os mets yn aros wrth ochor y gwely hefyd!Mwynhau bob tudalen mas draw, pob un yn rhwydd i ddarllen. Rhaid mynd i chwilio am y rhai eraill ti wedi ysgrifennu wedyn Mwynhau mas draw a diolch yn fawr iawn i ti. Eirian.

Rachel Thomas Cydweli
Rwy'n gwneud cyfweliad ar awdur ar y lyfr Llinyn Trons gyda'r ysgol. A oeddech wedi mynhau ysgrifennu y llyfr ???? Roedd on llyfr gret !!!!! :)w

Bethan Gwanas
Ddrwg iawn gen i Mair, wedi holi cwmni Telesgop, a na, dim cynlluniau i werthu DVDs Ar y Lein. Ond maen nhw'n siwr o gael eu hailddarledu hyd at syrffed!Lli - diolch am dy sylw. Os wyt ti'n ddigon hen i'w darllen, mae na elfen o'r hyn ti'n ofyn amdano yn Amdani! a Gwrach y Gwyllt!

Mair Davies
Hoff iawn o waith Bethan Gwanas teledu a llyfrau Oes posib cael prynu dvd or rhaglenni ar y lein diolch

Lli
Mae'r llyfrau yn wych! Dwi di darllen nhw trosodd a throsodd a dwi methu stopio fy hun. Plis newch chi sgwennu llyfr arall, ond di o'n bosib cal rywyn hoyw ynddo?

sian griffiths o gwalchmai
hoffi edrych ar y rhaglen ar y lein. gwych -dalier ati bethan.

Rhian Davies, Drenewydd.
Mae Bethan Gwanas yn ffab! Dwi yng nghanol darllan Hi Yw Fy Ffrind, ac mae'n anhygoel! Mae Non yn fy atgoffa i o sut oeddwn i pan oeddwn i'n ifanc, ac mae Nia yn union fel fy ffrind gora i pan oedden ni'n ifanc. Llyfr gret! Hefyd Llinyn Trons oedd y llyfr Cymraeg gynta i mi ei fwynhau ers Teulu Peg. Haha! xxx

Llion
Helo. Fi di Lli o'r bala a dwin caru darllen llyfrau . Chi ydir nofelydd gorau erioed.

Ysgol y Creuddyn
Rwyf yn disgybl yn ysgol y creuddyn a rwyf yn medddwl fod y llyf Llinyn trons yn FFFFFFFFFFFFFAAAAAAAAAAABBBBBBBBBB!!!!!Am llyfr Gret maen ddoniol yn apelio yn syth at plant fy oed fi 16..... ond mae mor ddda nad rwyf eish rhoir llyfr i lawr!!! maen BRILL!

Bethan Gwanas
Ddrwg iawn gen i, ond nagoes, does 'na ddim Llinyn Tr么ns 2 ar y ffordd, na Sg么r 2. Dwi'n gweithio ar 4 llyfr ar yr un pryd rwan, a dim un o'r rheiny yn eu mysg, sori. Ond fydd 'na ddim mwy o gyfresi Ar y Lein chwaith, felly bosib y cai fwy o amser i sgwennu mwy (yn cynnwys rhywbeth i'r arddegau) yn ystod 2008. Ond mi fydd dyddiadur 3 Ar y Lein allan flwyddyn nesa...A dwi newydd fod yn Ysgol y Creuddyn!

Pwyll o Llanuwchllyn
Oes ne llinyn trons 2 ar ei ffordd? dwi di bod yn awen meirion yn y bala yn reolaidd i weld os mae na un allan ond ddim hyd yn hyn. plliissss gwnewch chi llinyn trons 2! os gwnewch chi bydd o'n brill! hefyd roedd y nofelau hi oedd/yw fy ffrind yn gret. emosionol, ond yn ffantastic! diolch bethan!

Bae Penrhyn
Mae o'n dda iawn y llyfr Pen Dafad ond byswn yn hoffi i ti ddod i Ysgol y Creuddyn i gael gair efo ni.

Dosbarth 9c Llanfyllin
Den ni wedi darllen Sgor yn y dosbarth - roedd pawb wedi ei mwynhau hyd yn oed Iwan! Roedd y darn pan ddaeth Teleri i dy Sion a f'yntau'n sal yn wych a'r darn lle roedd Jason wedi cuddio'r rid. Allwch chi ddod i Lanfyllin a sgwennu sgor 2 gyda ni?

kate evans bedwas
rydw i just wedi gorffen llyfr pen dafad yn yr ysgol ac roeddwn i'n meddwl fod e'n ddoniol ac yn arbennig o dda - hoffwn i ddarllen mwy o lyfrau ti ac rydw i'n siwr byddaf yn mwynhau nhw yr un faint a pen dafad

Sian o Bontypridd
Fel un o'th gyfoedion yn Neuadd Pantycelyn, diolch am atgyfodi'r atgofion melys a hwyliog o'r amser gwych gawson ni yno fel myfyrwyr. Mei God am bwy wyt ti'n son dwed!!Plis gawn ni ragor o hanes Nia a Non.Gyda llaw, llys-enw un o ffrindiau'r mab yw Trons-llongyfarchiadau am ddenu bechgyn yn ei harddegau i ddarllen!

Val Davies Llandysul
Yn edrych ymlaen at ddarllen y dyddiaduron teithio. Wedi mwynhau'r rhaglenni "Ar y Lein" yn fawr iawn. Diolch.

Carol o Benllyn
Bethan, Wedi mwynhau "hi yw fy ffrind" yn ofnadwy!! Edrych ymlaen nawr i "hi oedd fy ffrind", gwneud i rhywun gofio 'r amseroedd da (a rhai ddin mor dda) yr adeg hynny. Da Iawn.Mwy Plis.

Helen o Blaenau Ffestiniog
Darllenais i y llyfr sgor yn yr ysgol a roeddwn i yn meddwl bod roedd o yn fantastig ond yn rhy fyr a yn gwneud i mi chwerthin gyda rhannau ohono

pwyll o lanuwchllyn
rwyn hoff iawn o llinyn trons er na llinyn trons ydwyf fi yn y bon. Oes llinyn trons 2 ar y ffordd yn y blynyddoedd nesaf. Diolch yn fawr am y llyfrau yn y presennol ag edrychaf ymlaen yn aeddgar at y llyfr efo'r bachgen yn troi'n ddafad. hwyl xxx

Rebecca o Bala
Wedi mwynhau eich llyfrau i gyd (Rheiny dwi wedi darllen hynny yw!) ac fedrai'm aros i ddarllen mwy.

Mared Davies
Llyfrau ffab!

Bethan Gwanas
Ddrwg iawn gen i Sharon JW, ond nagoes, dim bwriad i sgwennu 3ydd cyfrol yn dilyn Hi Oedd Fy Ffrind. Nid am flynyddoedd beth bynnag. Roedd yr ola'n lladdfa i'w sgwennu ac mae gen i gomisiynau eraill i'w gwneud cyn hyd yn oed meddwl am fynd yn 么l at Nia/Non. Heb s么n am ddod 芒 Nia'n 么l yn fyw!

Gruffudd o Lanuwchllyn
Helo Bethan. Rwyn meddwl eich bod yn ddynes cwl iawn ac yn edrych ymlaen i glywed am rhagor o lyfrau gennych. x

mary o Dyffryn
dwi yn hoffi llinyn tron

Kim o Rhuthun
Newydd orffen Gwrach y Gwyllt wedi ei fwynhau yn fawr methu ei rhoi i lawr, rwyf hefyd wedi darllen Hi yw fy ffrind a Hi oedd fy ffrind gwych! Edrych ymlaen i ddarllen mwy o dy lyfrau ddifyr.

Ynys Mon
Gai' dim ond diolch i ti am wneud i mi godi copi o dy lyfr Hi yw fy ffrind, mi ddarllenais i o hyd at 2.30 y bore ma ac mi oedd rhaid i mi nol Hi oedd fy ffrind yn syth, rhois i'r llyfr i lawr tua 4.30. Dwi di blino yn lan ond dim ots gen i dwi yn edrych ymlaen i weld os oes yna gyfrol arall i'r stori yma?? Mi wyt ti wedi gwneud rhywbeth na fedrodd un athro/athrawes wneud i mi wneud rhag cywilydd i mi sef darllen llyfr cymraeg na dau lyfr cymraeg un ar ol y llall!! Diolch yn fawr iawn i ti Sharon J-W

Richard Lewis o Lanfyllin
Dwi wedi darllen y llyfr sgor a mae'n ffantastic.Fy hoff ddarn yw'r 'crash'.

Bethan Gwanas
Diolch, Tony! Mae'n bosib y bydd 'na gyfrol arall o golofnau Herald allan ymhen blwyddyn neu ddwy (neu dair) - ond mae'n rhaid i'r ail gyfrol -'Mwy o Fyd Bethan' werthu mwy yn gynta. Mae'r gyntaf wedi gwerthu allan yn llwyr ond digon o hon ar 么l. Mynna bod dy ffrindiau yn prynu copi neu rywbeth!

Tony o Ogledd Cymru
Bethan, sut ar y ddaear dach chi'n ffeindio'r amser i wneud cymaint? Rhwng pob dim rhaid bod chi'n gweithio 24/7! Wnes i fwynhau "Hi oedd fy ffrind" yn fawr. Syniad gwych i sgwennu o safbwynt Nia yn y dilyniant. Gyda llaw, oes 'na gynllun ar droed i gyhoeddi mwy o erthyglau o'r Herald ryw ddiwrnod? (h.y. Byd Bethan 3)

Ali o Penyffordd (Wrexham ish)
Sut mae? Oeddwn i'n darllen Llinyn Tr么ns Blwyddyn neu dwy yn ol, llyfr gret! Mae Bethan yn ymweld a ni Dydd iau. Edrych ymlaen i gweld hi! x x x x

Marian, Dolgellau
newydd ddarllen Hi oedd yn ffrind - gret o lyfr, methu ei rhoi lawr fel bob un llyfr arall gan Bethan - 4 o'r gloch bore arnai'n mynd i gysgu! Edrych mlaen at y llyfr nesaf!

Nia Morgan o Llangefni
Dwi wedi darllen y llyfr "Hi yw fy ffrind". Mi nes i fwynhau y llyfr yn fawr iawn!

Cara Thomas o Llangefni
Mae'r llyfr Pen Dafad yn gret! Mae o'n ddoniol ac mi wnes i hoffi yn fawr iawn!

Angharad Evans o Cernyw
Wedi darllen hi oedd fy ffrind. Gwych, ond wedi clywed mai llyfr ola y cyfres fu hi! Mi fysan ddiddorol weld os, gyda help, fysa Nia yn newid?

Bethan Gwanas
Yr un gair yn Saesneg! Telepen. Sef y 'bensel' electroneg sy'n cael ei defnyddio gan llyfrgellwyr i farcio llyfrau sy'n cael eu benthyg. Pob lwc gyda'r dysgu.

Barbara Rees o Glyn Ebwy, De Cymru
Dw i'n dysgu cymraeg. Dych chi'n gallu helpu fi. BLODWYN JONES A'R ADERYN PRIN. Tudalen 10: "Roedd Gwen yn flin a doedd fy nhelepen i ddim yn gweithio" Beth yw'r gair Saesneg am telepen

Bethan Gwanas
Dylai 'Hi oedd Fy Ffrind' fod yn y siopau erbyn canol/diwedd Medi. Wel...dyna'r bwriad o leia!

Antoinette de Kleijn o Langamarch
Dwi wedi darllen pob llyfr ti wedi ysgrifenni ac wedi mwynhau pob un. Dechreais i gyda 'Blodwen Jones' ac nawr dwi'n gallu darllen llyfrau fel 'Gwrach y gwyllt'. Fydd ail llyfr i 'Hi yw fy ffrind' cyn bo hir?

chilli a nia o llanhari
llinyn trons yn dda iawn!!!!!!!!!!!

Dosbarth 10-A2 Ysgol Gyfun Gwyr
Ar fin dechrau darllen Llinyn Trons... Yr adolygiadau yn gwneud i'r llyfr swnio'n gyffrous iawn. Gobeithio na chawn ni'n siomi ;o) Ar ol i ni orffen y llyfr, byddwn yn rhoi'n barn!

Cynthia Francis Llanfair
Darllenais 'Sgor' ac roedd o'n arbennig! Roedd o'n llawer o hwyl ac roedd o'n gwneud i mi chwerthyn o dechra i ddiwedd! Dwi ddim yn hoffi llyfrau Cymraeg fel arfer ond roed hun yn bendigennig!

Nia o Lanelwy
Mae Bethan yn wych mae ei llyfrau yn arddechog. Hi yw fy hoff awdures. fy hoff lyfrau yw pen dafad a blodwen jones. Mae nhw'n fendigedig!

Bethan Gwanas
Diolch! Dwi bron a gorffen drafft cyntaf y dilyniant: 'Hi oedd fy Ffrind' ond mae'n debyg na fydd yn y siopau tan tua Hydref/Tachwedd. Mi fydd 'na sawl drafft arall yn gyntaf mae'n siwr...

Lisa o Rhuthun
mi odd hi yw fy ffrind yn wych. edrych 'mlaen yn fawr at y llyfr dilynol

Ceri Jones o Brynrefail
Darllenais Llinyn Tr么ns yn y dosbarth, a dwi'n meddwl ei fod yn ffab!! Gorfod gwneud Gwaith Cwrs arno nawr, ail ddrafft, ond angen help arno. Beth sy'n digwydd gyda ffrae rhwng nobi a gags?? diolch.

Ffion Wright o Gaerdydd
Dwi wedi darllen 'Llinyn Trons' Yn yr ysgol ac mae'n WYCH!!! Dwi wedi dweud wrth fy ffrindiau ac mae nhw yn dweud ei bod yn wych hefyd!

Elinor o Caerdydd
Darllenais i y llyfr Sgor fel lyfr dosbarth, roedd e'n gret! Mae yn ardderchog am pobl yn eu harddegau. Gobeithio bydd na fwy o lyfrau fel Sgor i'w ddarllen.

Lisa Evans o Abertawe
Fe wnes i fwynhau ddarllen sgor yn fawr yn fy nosbarth cymraeg. Roedd y cymeiriadau yn wych!

Rhys
Rydw i yn disgybl mewn YGBM ac mae Bethan Gwanas yn dod i weld ni.

Josua
Rydw i'n disgybl yn Ysgol Gufyn Bro Morgannwg a bydd Bethan Gwanas yn ymweld a ni mewn dipyn - bydd yn hwyl i weld hi!

Mari Owen, Llandudno
Haia, cofio fi? Chwaer Fflur sef Ffion ar Rownd A Rownd? Jesd isho deud fy mod yn hoff iawn o dy lyfra, newydd berfformio y ddrama lwyfan Amdani yma yng Ngholeg Y Drindod, Cerfyrddin ac wrth fy modd! Diolch am y llyfra ffab!

Athro o F么n
Sg么r a Llinyn Tr么ns yn wych. Yr holl ddisgyblion wrth eu bodd! Y rhegfeydd sy'n 'i gneud hi dwi'n ama!

Sioned o'r mynydd
Diolch am bywyd Blodwen Jones, rydw i'n cymraig ond hon ydi'r llyfr cymraeg cyntaf rydw i erioed wedi darllen tudalen i tudalen, diolch!!!xxx

Kim Jones o Caerdydd
Mi ddarllenais i Llinyn Trons yn yr ysgol ac o i'n hoff iawn o fo. Fo yw fy hoff lyfr Gymraeg.

Meirion Lloyd o Chichester
Un yn wreiddol o Ddolgellau ydw i, ac yn falch o ddarllen amdanoch, Bethan. Rydw i wedi cael gwyliau yn nhai Caerynwch yn y gorffennol.

Owen Jones o Machynlleth
Dwi yn fach ond yn hoffi darllen eich llyfrau. Mae nhw yn gret, yn enwedig Sgor. Beth sydd yn mynd i ddigwydd nesaf yn Sgor 2?

Tom Bebb o Pen y Glog
Da iawn, wedi joio mas draw de! Gorfod gwneud gwaith cwrs arno fo, damio!

Bethan Gwanas
Helo o Madrid (ar y ffordd i Begwn y De ac wedi colli麓r awyren). Diolch i chi am eich sylwadau - gwneud i mi fod isio sgwennu mwy! I ateb cwestiwn Jed: dwi bron yn siwr ei fod o麓n aros efo Sian Tal, ond does wybod. Dim cynlluniau i sgwennu Sgor 2 na Llinyn Trons 2 ar hyn o bryd - rhy brysur am o leia 2 flynedd, sori. Ond llyfr am fachgen sy麓n troi麓n ddafad ar y ffordd!

Rhywyn o Rhywle arall
Rydw i'n gorfod gwneud gwaith cwrs ar y ddau lyfr Llinyn Trons a Sgor hefyd i athro Cymraeg a sgen i ddim syniad!!!!! Ond mae Sgor a Llinyn Trons yn wych!!

Heledd o'r Trallwng
Ddaru ni ddarllen y novel yma yn ein gwersi Gymraeg ac mae o yn dda iawn, heblaw am y diwedd. Dwi yn licio y novel yma oherwydd mae eisiau i ti ddarllen mwy, dipyn fel 'cliffhanger'. Mae rhai rhannau o'r stori angen cael ei wella. Falle yn y diwedd byddai Teleri yn gallu marw neu gall Jimbob a mam Sion symyd i'r Amerig?

Steph o'r Trallwng.
Darllenais i a fy ffrindiau sg么r yn ein gwersi Gymraeg. Rydym ni 'gyd yn cytuno fod o'n llyfr arbennig o dda. Fy hoff darn yw pan mae'r clyweliadau Penbwl ymlaen ag mae Lara yn canu ag Ashley yn chwarae ei horn-ffrenig. Roedden ni gyd yn chwerthin ein peniau ffwrdd! Ond roedden ni gyd eisiau Teleri marw ag wedyn Sian-Tal yn cofleudio Sion ag wedyn mae nhw'n surthio mewn cariad! Rydym ni gyd eisiau sg么r cael ei troi mewn i ffilm!

Sian o'r Trallwng
Dwi wedi darllen y llyfr Sgor a mae'n wych. Dyla ti sgweny mwy o llyfra. Fy hoff darn oedd pan ddaru Sion chwarae y sax ar y llwyfan i Penbwl, a mae fy ffrindiau yn hoff iawn o fo hefyd. Roedden yn chwerthin a siarad amdano yn y dosbarth.

Jed o'r Trallwng
Darllenais i Sgor yn y dosbarth a dwi'n meddwl mae o'n llyfr gret ond mae o'n rhy byr. Dwi eisio gwybod beth oedd yn digwydd i Sion. Oedd o yn mynd yn ol i'r gogledd neu aros efo Sian tal? Beth oedd yn digwydd i mam - a roedd hi aros gyda Jimbob?


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy