主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Bethan Gwanas -
Sgwrs arlein 2005

Sgwrs arlein Bethan Gwanas, Diwrnod y Llyfr 2005.
Mae holl gwestiynau ac atebion sgwrs Bethan Gwanas i ddathlu Diwrnod y Llyfr 2005 i'w gweld yma.

Disgybl o Ysgol Penweddig: Beth sy'n eich ysbrydoli chi fel awdur?

Bethan: Ymm... dw i di mwynhau darllen llyfrau ers yn ifanc iawn iawn felly llyfrau pobl eraill, ffilmiau, fy mhrofiadau fy hun a phrofiadau pobl eraill.

Branwen: A oes yn well gennych ysgrifennu neu bod yn gyflwynwraig deledu?

Yn awdures, yn bendant! Pan ti'n awdures, ti'n cael gwneud beth ti ishio'i neud (o fewn rheswm) pan ti'n cyflwyno teledu, dio'm yr un fath o gwbwl, a bod yn onest, dwi ddim yn mwynhau cyflwyno o gwbwl! Mae'n waith caled, yn enwedig holi pobl.

Beth ydi eich hoff nofel / nofelau / awdur Saesneg? Fy hoff i ydi J K Rowling yn ysgrifennu Harry Potter.

Bethan: Dw i'n hoffi JK Rowling hefyd, ond mae'n well gen i lyfrau Philip Pullman, Northen Lights ac yn y blaen. Maen nhw'n debyg i JK Rowling, ond yn fwy cymhleth a maen nhw'n ffantastig. Fy hoff lyfr i oedolion ar hyn o bryd ydy The Poisonwood Bible , gan Barbra Kingsolver.

Bethan GwanasDisgybl o Ysgol Penweddig: A yw hi'n haws ysgrifennu mewn tafodiaith ogleddol neu ddeheuol?

Bethan: I mi, gogleddol. Dw i'n gorfod gwirio'r stwff deheuol gyda ffrindiau o'r de cyn cyhoeddi!

Disgybl: A oes yna unrhyw nofel rydych wedi ysgrifennu, wedi cael ei seilio arnoch chi neu rhywun sydd yn agos atoch fel ffrind?

Bethan: Oes!!! Ond dw i ddim yn deud pa rai! I ddweud y gwir, Blodwen Jones ydy'r cymeriad tebycaf i mi. Oc锚, a dw i'n gymysgedd o Si芒n Caerberllan, Menna a Beryl (o Amdani)

EJ: Fel cyn fyfyriwr o Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth, a wnaethoch chi fwynhau bod yn siaradwraig yn y Cinio Nadolig tua 5 mlynedd yn 么l? Chi oedd un o'r siaradwyr gorau dw i'n eu cofio!

Bethan: Mae'n rhaid dy fod di wedi meddwi! Dyma un o'r nosweithiau mwya' brawychus fy mywyd hyd yma. R'on i wedi paratoi araith, deg tudalen, ond pan welais i pa mor feddw oeddech chi i gyd, aeth yr araith drwy'r ffenest a phan yn Rhufain ...

Ffion: Pryd mae dilyniant y llyfr Hi yw fy ffrind yn cael ei lansio?

Bethan: What?! Dw i ddim di dechrau sgwennu fo eto, heb s么n am ei lansio, dyro gyfle i fi anadlu m锚t! Mae'n si诺r o gymryd blwyddyn.

Ffion: I ba gymeriad ydych chi'n debyg iddi yn y llyfr Hi yw fy ffrind, Non neu Nia?

Bethan: 'Chydig o'r ddwy, ond r'on i'n mynd ati i beidio gwneud y nofel yn hunangofiannol. Felly dw i ddim byd tebyg chwaith!

Ffion: Cafoch chi hwyl yn ysgrifennu Byd Bethan. Oedd yna lawer o atgofion yn dod n么l i'ch meddwl?

Bethan: Byd Bethan ydy colofnau'r Herald dw i'n eu sgwennu nhw ers pum mlynedd, ac er fod y t芒l yn anobeithiol dw i wrth fy modd yn eu sgwennu nhw. Mae o fel rhyw fath o gatharsis wythnosol, ond mae o hefyd yn gwneud i mi feddwl o ddifri yngl欧n a phethau. Mae'n fy atgoffa o'r hyn ddwedodd rywun rhywbryd: "How do i know what i think, until i see what i say."

Ashley Ferguson: O'r holl nofelau rydych wedi ysgrifennu, pwy yw eich hoff gymeriad a pham?

Bethan: Mae'n agos rhwng Blodwen Jones a Siwsi Fach y Gwyllt. Blodwen oherwydd ei bod mor hoffus a Siwsi achos pan o'n i'n sgwennu Gwrach Y Gwyllt, mi gymerodd cymeriad Siwsi drosodd. Roedd hi'n gwneud pethau doeddwn i ddim di bwriadu eu sgwennu.

Kayleigh Hughes: Ife'r llyfr Brigette Jones' Diary wnaeth ysbrydoli chi i ysgrifennu cyfres Blodwen Jones?

Bethan: Ymm.. dyna roddodd y teitl i mi. Ond cwrs yn Nh欧 Newydd oedd yr ysbrydoliaeth fwya'. Ges i gomisiwn ar y cwrs i sgwennu nofel ar gyfer oedolion oedd yn dysgu Cymraeg, a ges i sioc o weld pa mor anodd oedd hynny. Hefyd, wnes i sylwi fod na DDIM hiwmor mewn llyfrau ar gyfer dysgwyr cyn hynny.

Terwyn: Sut wnaeth Bethan fwynhau ei thrip diweddar o gwmpas y byd?

Bethan: Dw i dal yn jet lagged! Wnes i ddeffro am 4 y bore 'ma, sori os dw i'n cwympo i gysgu yng nghanol hwn!
Hyd yma mae'r daith di bod yn anhygoel, roedd teithio drwy Sbaen, Moroco a Mali yn fythgofiadwy. Dw i newydd ddod yn 么l o cruise tair wythnos yn yr Antarctig, efo'r pengwins a'r killer whales, oedd yn brofiad arbennig iawn. A phythefnos yn Seland Newydd ac wythnos yn Fiji. Os ydych chi eisio'r hanes yn fanwl, darllenwch yr Herald sy'n y Daily Post bob dydd Mercher!

Terwyn: A sut mae'r camera erbyn hyn?
Bethan:Pwy sydd fynna?! Mae fy nghamera yn ! I egluro, fe golles i lond potel o dd诺r yn fy mag, mewn g锚m polo, a boddwyd fy nghamera!

Disgybl: A oes gwell gennych ysgrifennu nofelau i bobl h欧n fel Gwrach y Gwyllt, neu i blant ieuengach fel Hi yw Fy Ffrind a Llinyn Tr么ns?

Bethan Oi! Ar gyfer oedolion mae Hi Yw Fy Ffrind - mae o'n r诺d!! Mae'n llawer haws sgwennu ar gyfer pobl iau, mae oedolion yn fwy ffysi o lawer, ac mae plant a phobl ifanc yn ymateb yn well ac yn fwy parod i ddweud beth maen nhw'n feddwl yn onest.

Rhiannon: A oes gwirionedd yn y straeon sydd yn cael eu hadrodd yn Gwrach y Gwyllt?

Bethan: Fel beth dwad? Wyt ti'n trio awgrymu fy mod i'n bwyta dynion?! Naddo erioed! GYG ydy'r nofel fwya' dychmygol i mi ei sgwennu erioed. Bethan Gwanas

DJ: O'r holl lefydd rydych chi wedi ymweld 芒 nhw yn y byd, ble mae eich hoff le neu hoff wlad?

Bethan:Swn i'n gallu byw yn Seland Newydd, mae'r bobl yna mor fywiog a ffit a iach. Dw i'n bendant am fynd yn 么l i fanno. Roedd Rwsia yn le hudolus, arbennig efo dynion gorjys a dw i eisio dysgu Rwsieg r诺an! Roedd yr Antarctig yn brofiad unwaith mewn bywyd, nad anghofia i byth, ond dw i'n meddwl mai yn Iwerddon y gesh i'r laff mwya.

Terwyn: Rhannwch y stori gyda ni Bethan amdanoch chi a'r ras feics yn Seland Newydd.

Bethan: Roedd na gystadleuaeth 'pedal-shearing', r'on i'n gorfod pedlo beic oedd yn gyrru peiriant cneifio .. a'r ras oedd, oedd o'n gymhleth - roedd y boi ma'n cneifio dafad, a'r enillwyr oedd y rhai oedd yn cneifio'r ddafad gyflyma', roedd g锚rs y beic wedi eu gosod fel pe baech yn mynd fyny mynydd, a diolch i'n cluniau cryfion i, fe ddoes i'n ail a churo deuddeg dyn dros 30! Ac r'on i ar y newyddion cenedlaethol y noson wedyn!

Disgybl: A oes gwell gennych ysgrifennu nofel neu hunangofiant?

Dw i heb sgwennu hunangofiant eto (neb wedi gofyn) ond mae colofnau'r Herlad a Byd Bethan a dyddiaduron Ar y Lein, a Dyddiadur Gbara yn hunangofiannol, ac ydyn maen nhw'n llawer llawer haws i'w sgwennu na ffuglen. Ti'm yn gorfod meddwl cweit cymaint.

James: Beth yw'r llyfr mwyaf doniol i chi ei ddarllen?

Bethan:Yn Gymraeg - Un Peth Di Priodi, Peth Arall 'Di Byw gan Dafydd Huws, y tro cynta' i mi sylweddoli bod modd chwerthin drwy ddarllen llyfrau Cymraeg. Yn Saesneg, llyfrau JT Donleavy. Mae Ben Elton yn un hefyd, a Willy Russell -The Wrong Boy. A sori dw i'n methu cofio mwy ar hyn o bryd - dw i'n jet lagged!

Disgybl: A yw'r llyfr Hi yw fy Ffrind yn adlewyrchu eich plentyntod?

Bethan: Ydy i raddau, ond mi fues i'n holi pobl eraill am eu plentyndod nhw yn yr un cyfnod, fel fy mod i ddim yn ei wneud i fod fy mhlentyndod i. Wedi dweud hynny, mae o'n uffernol o debyg. Ond wnes i erioed chware priodi!

Bethan GwanasGwenllian: Oes gennych ddiddordeb mewn gwrachyddiaeth eich hun?

Bethan:Oes a nacoes! Diddordeb yn yr hanes ac yn y pwnc, ond erioed wedi meddwl gwneud swynion fy hun, er alla i feddwl am ambell berson y byswn yn licio eu tro yn froga!

Si芒n: Fel pwy?

Bethan: Ymm, rhaid bod yn ofalus fan hyn! Ambell foi dw i'n nabod o'r gorffennol, (mae gen i gof fel eliffant) a pobol ddi-hiwmor.

Si芒n: Beth ydych chi'n ei wneud heddiw i ddathlu Diwrnod y Llyfr?

Bethan: Siarad ar y we, ond dw i hefyd yn siarad mewn ysgolion ac yn Llyfrgell Wrecsam. Dw i'n byw yn beryglus, achos mae tax disc y car di darfod ers Ionawr 31! Dw i di bod i ffwrdd o'r wlad!

Gair olaf Bethan: Dw i wedi mwynhau hyn, ond i gloi dw i jyst ishio dweud, cofiwch mai dim ond rhyw 10% o bris llyfr mae awdur yn ei gael - felly rhowch y gorau i fenthyg cop茂au pobl eraill, y diawliaid tynn, a phrynwch gopi eich hun!! Efo'r llyfrgell, mae'r awdur yn cael .0027 ceiniog am bob benthyciad. Hefyd os ti'n benthyg o'r llyfrgell, ti'n gwbod faint sy'n darllen dy lyfrau di ac mae hynny yn dy ysbrydoli i sgwennu mwy.

Diolch i bawb a ofynnodd y cwestiynau - heblaw am Terwyn!

Terwyn: Hei Hei!

Bethan: Darllen llyfr da ydy'r pleser mwya' yn y byd - bron! Mwynhewch Ddiwrnod y Llyfr a PHRYNWCH o leia' chwe chyfrol heddiw! (Yn cynnwys o leia un o fy rhai i os gwelwch yn dda!)

Cysylltiadau Perthnasol



cyfannwch

Elen Griffiths
Rydym just am ddweud bo ni wedi darllen y lyfr Sgor yn yr ysgol! Roedd e'n gret! Wir i chi! Roeddwn i yn edrych ymlaen i fy ngwersi cymraeg creda fe neu beidio! Rwy'n credu rydych chi'n talentog iawn i ysgrifennu nofel mor dda! Oes yna stori ddilyniant oherwydd rydw i eisiau digwydd beth digwyddodd i Sion?

Iolo ap Gwilym, Capten Llong
Wedi mwynhau yn fawr dy sgwrs efo HG ar 主播大秀 bore ddoe. Wedi teithio cymaint fy hunan, yn deall yn dda dy holl emosiynnau am hiraeth a dod adre ar berthynas ar tirlun ag ati. Dal ati i hybu unigoliaeth y Cymru



Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy