主播大秀

Cyflwyniad i Faesteg a Chwm Llynfi

top
Neuadd y Dref, Maesteg

Lleolir tref Maesteg yng nghalon Cwm Llynfi, tua naw milltir o Ben-y-bont ar Ogwr a thua 34 milltir o Gaerdydd, yn yr hen sir Forgannwg. Rhai o bentrefi'r cwm ydy Tondu, Goetre-hen, Llangynwyd, Cwmfelin, Garth, Nantyffyllon a Chaerau.

Dyma gyflwyniad i Faesteg a'r pentrefi cyfagos. Roedd Cwm Llynfi - cwm lletaf de Cymru - yn fwrlwm yn adeg y chwyldro diwydiannol ar ddechrau'r ugeinfed ganrif ond mae wedi gweld newidiadau mawr ar hyd y blynyddoedd. Gyda diwydiannau trwm megis gweithfeydd haearn a phyllau glo wedi cau a ffatr茂oedd gweithgynhyrchu wedi cymryd eu lle, mae'r ardal wedi gweld cynnydd sylweddol mewn poblogaeth.

Maesteg


Datblygodd y dref, fel cynifer o drefi eraill yr ardal, o ganlyniad i waith haearn a'r pyllau glo yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif. Hyd at ddechrau'r 1800au, pentref bach gwledig oedd Maesteg, ond tyfodd wrth i ddatblygiadau technolegol ffynnu yn ne Cymru. Agorodd gweithfeydd haearn yn y cwm yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a defnyddiwyd glo o'r ardal i weithredu'r gweithfeydd hynny. Cludwyd yr haearn ar y rheilffordd o Faesteg i Borthcawl (a agorodd yn 1860) ac oddi yno dros y m么r i weddill y byd. Erbyn 1886 daeth y gwaith haearn i ben ym Maesteg, ac oherwydd hynny a dirwasgiad ar ddiwedd y 19eg ganrif, fe fu'n gyfnod anodd yn hanes y dref a'r ardal.

Cloc ar Neuadd y Dref, MaestegYn dominyddu canol y dref ers 1881, mae Neuadd y Dref a'r cloc sydd i'w weld uwchben doeau'r adeiladau. Heddiw, mae'n gartref i'r farchnad dan do a pherfformir dram芒u a chynhelir cyngherddau a chiniawau yn y neuadd hon.

Nantyffyllon


Arferai fod yn bentref diwydiannol. Erbyn hyn mae pwll glo Coegnant wedi ei adfer a gwelir cofeb i'r glowyr a gollodd eu bywydau yn y pwll.

Caerau


Mae'r pentref hwn ar ochr ogleddol y cwm gyda golygfeydd yn edrych i lawr ar bentrefi Cwm Llynfi. Adeiladwyd y rhan fwyaf o'r tai yn y pentref hwn ar droad yr Ugeinfed ganrif i gartrefi gweithwyr y diwydiannau. I gludo'r glo o'r pyllau, adeiladwyd rheilffordd yn 1877 ac agorwyd orsaf drenau yn y pentref ym 1901, sydd bellach wedi cau.

Garth


Wedi ei leoli i'r de o Faesteg, datblygodd y pentref, fel cynifer o drefi a phentrefi de Cymru o ganlyniad i ffyniant pyllau glo lleol. Ar 么l i bwll glo Garth gau, adferwyd y safle a chr毛wyd ardal brydferth.

Pentref hanesyddol Llangynwyd


Eglwys Sant CynwydUn o'r llefydd sydd o ddiddordeb yn yr ardal yw pentref hanesyddol Llangynwyd. Ac yn arbennig Eglwys Sant Cynwyd yng nghanol y pentref. Yn 么l yr hanes, darganfuwyd yr Eglwys yn y 6ed ganrif gan Sant Cynwyd, a dywedir mai mab Cynfelin ydoedd. Ychydig o'r adeilad gwreiddiol sydd ar 么l, fe ail adeiladwyd yr Eglwys yn y 13eg ganrif ac mae wedi cael ei adfer ar sawl achlysur wedi hynny. Gellir gofyn i gael gweld cofrestr y plwyf sy'n dyddio'n 么l i 1725, lle mae nodyn am briodas Ann, y ferch o Gefn Ydfa ynddo.

Yng nghanol y pentref ceir cofeb sy'n cofio Ann Thomas "y ferch o Gefn Ydfa", Wil Hopcyn "ef a ganodd Gwenith Gwyn" a Brinli - Archdderwydd Cymru o 1972 - 1975.

Saif Tafarn Yr Hendy yng nghanol y pentref, gyda llun o'r Fari Lwyd, atgof mai yma yn 么l yr hanes, y dechreuodd yr arferiad hwn adeg y Calan.

Golwg ar ddiwydiant yr ardal


Gwelwyd y cynnydd diwydiannol yn cychwyn tua 1800, glo a mwynglawdd haearn oedd y deunydd crai gwerthfawr. Erbyn 1825 cychwynnodd 'Maesteg Iron Works Company', ym 1929 roedd y ffwrnais cyntaf wedi dechrau gwneud haearn a chwblhawyd l么n dram cai ei dynnu 芒 cheffyl yn uno Maesteg 芒 Phorthcawl.

Yn 1860, disodlwyd y l么n dram oedd yn cysylltu'r lle 芒 Phorthcawl ac agorwyd rheilffordd yn ei lle a ai i'r gogledd, am bentref Caerau.

Cynyddodd y galw am lo - i wresogi tai ac i wneud nwy a st锚m. Roedd y rheilffordd yn agor yr ardal i farchnadoedd newydd ac felly roedd angen am byllau glo dyfnach i ateb y galw - roedd y diwydiant glo yn ei anterth rhwng 1881 a 1914 a gwelodd yr ardal gynnydd mawr o'r herwydd.

Ym 1897 agorwyd rheilffordd Port Talbot ddaeth 芒 mwy o fusnes i Faesteg o ddyffryn Garw, adeiladwyd siopau newydd ar hyd Stryd Talbot i gyd fynd 芒'r rhai ar Stryd Commercial a fodolai eisoes.

Mewn 10 mlynedd roedd y boblogaeth wedi cynyddu tua 6,000, ac erbyn 1911 roedd y poblogaeth Maesteg yn agos i 25,000.

Dirywiad Glo 1920 - 1945


Tan 1927 cynhyrchwyd dros filiwn tunnell o lo y flwyddyn yna daeth dirwasgiad economaidd a barodd am ddegawd wedyn. Caewyd pyllau Maesteg, Oakwood, Garth a rhif 9 a chyda hynny daeth diweithdra. Caewyd y gweithiau brics a ffyrnau golosg yn yr ardal hefyd. Roedd dynion Cwm Llynfi yn teithio i Gwm Afan a Chwm Nedd a Dulais i weithio ac allfudodd llawer o'r trigolion lleol i chwilio am waith mewn ardaloedd pellach a gwelwyd gostyngiad ym mhoblogaeth yr ardal.

Wedi blynyddoedd yr Ail Ryfel Byd, adeiladwyd ffatr茂oedd yn yr ardal a gyflogai ferched i wneud deunydd cosmetig a dillad ac roedd Maesteg yn datblygu i fod yn ardal gweithgynhyrchu diwydiannau meddal. Yn y 1960au tirluniwyd llawer ar y cwm a phlannwyd laswellt lle bu rhai o'r pyllau glo.


Cerdded

Canolfan y Mileniwm

Bae Caerdydd

Lleoliadau Doctor Who a Torchwood, adeiladau'r Senedd a Chanolfan y Mileniwm.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Diwydiant

Heddlu a streiciwr

Streic y Glowyr

Hanes y streic chwerw a rwygodd gymunedau glofaol Cymru am byth.

Arferion yr Wyl

Y Fari Lwyd

Y Fari Lwyd

Un o draddodiadau hynotaf yr hen Nadolig a'r Calan Cymreig ydy'r Fari Lwyd.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.