主播大秀

Hanes Abergwaun a'r Fro-parhad

top
Arfordir Penfro

Pwysigrwydd yr harbwr, hanesion ymwelwyr hanesyddol nodedig i'r ardal a dylanwad y Normaniaid.

Harbwr Abergwaun

Goleudy Abergwaun
Goleudy Abergwaun

Erbyn heddiw yn Wdig mae'r porthladd ac oddi yno y mae'r llongau'n teithio yn 么l ac ymlaen i borthladd Rosslare yn Iwerddon. Ond er mai yn Wdig y mae'r porthladd, Harbwr Abergwaun yw ei enw swyddogol. Bu'n rhaid ffrwydro'r creigiau i greu'r harbwr newydd ar ddechrau'r 20fed ganrif.

Fel heddiw, roedd Abergwaun yn borthladd pwysig ar ddechrau'r 20g. Y llong fawr gyntaf i lanio yno oedd y Mauretania. Rhaid cofio fodd bynnag fod y Lusitania yn galw yr un mor amal 芒'r Mauretania, ac felly yn haeddu'r un clod. 'Does dim dwy waith fod llongau Cunard wedi chwarae rhan bwysig iawn yn natblygiad yr harbwr a'r adnoddau yn Abergwaun. Hon oedd y cwmni llongau gyda'r statws uchaf ym Mhrydain Fawr ar y pryd.

Cofiwn hefyd bod pentref Porthgain yn bwysig yn forwrol yn y 20g cynnar gyda'i harbwr prysur ei hunan. Mae olion yr oes hynny yn dal i'w gweld yn y pentref ac roedd y diwydiant llechi yn bwysig iawn iddi hefyd. Heddiw, mae'r pysgotwyr yn dal i'w gweld yn gweithio yn yr harbwr ac mae'n ardal sy'n denu twristiaid oherwydd ei lleoliad ar lwybr arfordirol ysblennydd Sir Benfro.

Seryddwyr Hynafol

Porthgain
Porthgain

Gerllaw Wdig mae pentref Llanwnda. Mae mwy o olion Celtaidd yma nag mewn unrhyw blwyf arall yng Nghymru. Mae eglwys plwyf Llanwnda yn dyddio yn 么l tu hwnt i'r wythfed ganrif. Bu Gerallt Gymro yn offeiriad yn yr eglwys hon ac yma hefyd y derbyniodd Asser, cyfarwyddwr Alfred Fawr ei hyfforddiant cynnar yn y ffydd Gristnogol.

Yn 1881 dechreuwyd adnewyddu'r eglwys ac wrth wneud hyn darganfuwyd nifer o gerrig oedd wedi eu naddu. Gosodwyd y cerrig hyn yn rhan o furiau allanol yr eglwys. Mae'n debyg mai gwaith seiri maen oedd yn gweithio o dan nawdd y mynachod yw'r cerfiadau hyn. Credir eu bod yn dyddio o'r cyfnod rhwng y seithfed a'r nawfed ganrif. Diddymwyd y grefft Gristnogol hon gan y Normaniaid wedi'r goncwest.

Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Sant Gwyndaf, brodor o Lydaw a gafodd ei benodi yn bennaeth Coleg Dubricus yng Nghaerleon. Mae hefyd yn cael ei ystyried yn sylfaenydd eglwys Llanwnda, Sir Gaernarfon.

Mae cerrig diddorol i'w gweld hefyd ym Mharc y Meirw ger Dinas. Rhes o gerrig anferth sydd erbyn heddiw'n rhan o glawdd yw Parc y Meirw. Mae'r rhes hon o gerrig yno ers dros 5000 o flynyddoedd. Mae archeolegwyr wedi bod yn cloddio'r safle hwn ac maen nhw wedi darganfod offer seryddol hynafol sy'n dal i allu proffwydo diffyg ar yr haul neu'r lleuad. Mae'r cerrig yn wynebu Mynydd Leinster yn Iwerddon sy'n rhan o fryniau Wicklow. Cred llawer bod cromlechi enwog C么r y Cewri yn Lloegr wedi cael eu cludo o Sir Benfro yn wreiddiol ond mae'r archaeolegwyr yn dal i drafod sut yn union cyflawnwyd y fath gamp!

Cwm Gwaun ac Oes yr I芒

Cromlechi
Cromlechi

Wrth deithio i mewn tua'r tir wedyn fe ddeuwn i Gwm Gwaun. Lluniwyd y cwm yn niwedd Oes yr I芒 ac mae'n un o'r cymoedd ffurf 'v' pwysicaf ym Mhrydain. Glannau afon Gwaun yw un o'r ychydig leoedd ar 么l yng Nghymru sy'n gynefin i'r dyfrgi.

Pentref gwledig yw Cwm Gwaun lle mae bywyd yn gwbl hamddenol. Mae'r dafarn leol sef y Duffryn Arms yn enghraifft o hen dy tafarn lle mae'r cwrw'n cael ei fragu yng nghefn y dafarn ac yn cael ei weini wedyn mewn jwg drwy dwll yn y wal.

I'r dwyrain mae tref Trefdraeth a saif yng nghesail Carn Igli. Datblygodd y dref fechan hon o amgylch y castell.

Castell Normanaidd yw hwn ond mae tystiolaeth o aneddiadau cynharach yn yr ardal. Codwyd y castell gan William de Turribus, a briododd Angharad merch Rhys ap Gruffydd. Yn 1859 cafodd ei atgyweirio ac adeiladwyd rhan arall a fyddai'n gartref i'r teulu, dyma'r rhan sydd i'w weld heddiw.

Y castell hwn oedd cartref perchennog barwniaeth Cemais, y diriogaeth a ymestynnai o Aberteifi i Abergwaun ac a oedd yn cynnwys mynyddoedd y Preseli. Arglwyddes Cemais sy'n berchen y castell heddiw ac mae'n cael ei osod ar denantiaeth.

Cromlechi a Thraethau

Shell Cottage
Shell Cottage

Yng nghanol y dref, ger st芒d o dai modern, mae cromlech hynafol a elwir yn Carreg Coetan.

Yn Nhrefdraeth hefyd mae dau draeth sef Traeth Mawr a Thraeth Bach. Mae'r traethau'n cael eu gwahanu gan afon Nyfer. Ystyrir Traeth Mawr yn un o draethau mwyaf atyniadol Sir Benfro.

Yn ddiddorol iawn mae cysylltiad rhwng enw'r papur bro lleol 'Llien Gwyn' a phentref Trefdraeth. Daw'r enw o'r ymadrodd 'i lanw'r llien gwyn' a oedd mewn c芒n a oedd yn cael ei chanu gan forwyr o Gymru ar y llongau hwylio rhyw gan mlynedd yn 么l.

Gerllaw Trefdraeth mae pentref Pen-caer. G诺r a dreuliodd ei lencyndod yn yr ardal honno oedd y bardd Dewi Emrys. Fe lwyddodd ef i gipio Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith a'r Goron unwaith. Ymhlith ei weithiau enwocaf mae ei g芒n dafodiaith 'Pwllderi' a'i englyn 'Y Gorwel'. Mae cofeb i'r bardd ym Mhwllderi.

Tua'r de mae pentref Treletert. Cafodd y pentref ei enwi ar 么l Letard, un o'r Fflemingiaid a gafodd ei ladd ym 1137 mewn brwydr ag Anarawd ap Gruffydd. Gerllaw'r eglwys yn y pentref mae ffynnon Shan Shilin. Mae yna nifer o straeon sy'n ceisio egluro sut y derbyniodd y ffynnon hon ei henw.

Un stori yw ei bod wedi ei henwi ar 么l merch o'r enw Si芒n a gafodd ei darganfod wedi boddi yn n诺r y ffynnon gyda swllt yn ei phoced. Yn 么l stori arall arferid gwerthu d诺r iachusol y ffynnon am swllt y botel.

Un o draethau hyfrydaf Sir Benfro yw traeth 'Freshwater East'. Yma yn 2011 gwelwyd lleoliad 'Shell Cottage' yn ffilm enwog 'Harry Potter and the Deathly Hallows' sydd wedi denu heidiau o dwristiaid i'r fro.


Cerdded

Neuadd y Brangwyn

Abertawe

Taith Doctor Who a Torchwood yng nghanol y ddinas a'r Chwarter Arforol.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.