主播大秀

Eglwys Tyddewi

top
Eglwys Tyddewi

Eglwys hynod o olwg y m么r

Un o hynodion cadeirlan Tyddewi yw ei bod wedi ei chuddio, o'r golwg yng nghysgod tir.

Y rheswm dros guddio'r Eglwys o olwg y m么r ac i lawr yng nghwm afon Alun oedd i'w hamddiffyn rhag y Llychlynwyr oedd yn hwylio yno nid yn unig i fasnachu ond hefyd i ysbeilio.

Chweched ganrif

Adeiladwyd yr eglwys gyntaf yn y chweched ganrif ond fe'i dinistriwyd tua phedair gwaith rhwng yr wythfed a'r unfed ganrif ar ddeg.

Fe'i llosgwyd i'r llawr gan y Llychlynwyr yn 1078 a'r adeilad a godwyd wedi hynny a welwn heddiw.

Dysgu sgrifennu

Mynach o Dyddewi sy'n cael y clod o ddysgu Alfred, Brenin Lloegr, sut i sgrifennu. Gwysiwyd Asser gan y brenin tua 880 i fynd o Dyddewi i Wessex i'w ddysgu.

Asser hefyd luniodd cofiant Alfred ond cymaint oedd cariad y mynach at Dyddewi fe'i gwnaeth yn amod mai dim ond hanner ei flwyddyn a dreuliai yn yr hyn a alwai'n Sacsoni ond y gweddill ym Mrytania - Tyddewi, mae'n debyg.

Siom Gerallt Gymro

Llenor y cysylltir ei enw 芒 Thyddewi yw Gerallt Gymro, y gwr a fethodd yn ei uchelgais i fod yn Esgob Tyddewi a gorfod bodloni ar fod yn Archddiacon.

Gyda'r Normaniaid yn llywodraethu yn myd yr eglwys, ac er bod Gerallt yn dri-chwarter Norman, yr oedd yn ormod o Gymro i gael ei ddyrchafu yn Esgob ac mae cofeb iddo yng Nghapel y Drindod yn ei ddarlunio gydag ysgrifbin yn ei law a'r cap esgobol wrth ei draed.

Adeiladu'r gadeirlan

Y trydydd o'r Esgobion Normanaidd, Peter de Leia o Fflorens, tua 1180, gynlluniodd a dechrau'r gwaith o adeiladu'r hyn a welir heddiw ond bu cyfraniad Gerallt yn fawr a thrwy hynny cafodd ei esgusodi rhag mynd i'r Trydydd Groesg芒d. Hynny, a'i daith drwy Gymru gydag Archesgob Baldwin, Caergaint, yn annog y tywysogion Cymreig i ymuno yn y Groesg芒d.

Mae beddrod Gerallt yn yr Eglwys Gadeiriol a chredir mai yma, hefyd, y gorwedd yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd a'i fab Rhys Grug dan feddrodau ar ffurf marchogion mewn gwisg milwr o'r bedwaredd-ganrif-ar-ddeg.

Gan fod Rhys ap Gruffydd yn farw yn 1196 byddai'r feddrod wedi ei llunio oddeutu dwy ganrif yn ddiweddarach, o bosib gan eu disgynyddion, teulu Talbot.

Dros y canrifoedd ychwanegwyd ati ond saif cynllun gwreiddiol Peter de Leia. Oherwydd lleithder y tir yn yr hen amser syrthiodd nifer o'r tyrau.

Heddiw, mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn llecyn hyfryd ac yn "lle i enaid gael llonydd".


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.