主播大秀

Hanes Cwm Gwendraeth

top
Llyn Llech Owain gan D.W.T.Taylor

Dyma Gwm y Cewri Rygbi ac ardal Gymreig sydd, meddai'r chwedl, wedi denu ymwelwyr enwog hanes fel Owain Glyndwr ac Oliver Cromwell. Yma hefyd gwelwyd gweithredu gan Ferched Beca ac un o'r Streiciau Glo mwyaf yn hanes Cymru yn y 19g. Cwm Gwendraeth hefyd ysbrydolodd bentref ffuglennol 'Cwmderi' yng nghyfres y 主播大秀, 'Pobol y Cwm'.

Dwy afon, dau gwm

Gardd Fotaneg Genedlaethol
Gardd Fotaneg Genedlaethol

Ardal wledig yw Cwm Gwendraeth sy'n gorwedd rhwng trefi Caerfyrddin, Rhydaman a Llanelli, yn ne ddwyrain Sir Gaerfyrddin.

Mae dwy afon yn llifo drwy'r cwm sef y Gwendraeth Fach a'r Gwendraeth Fawr. Mae'r Gwendraeth Fach yn tarddu ym mryniau deheuol Dyffryn Tywi ac yn llifo i'r m么r yng Nghydweli. Mae afon y Gwendraeth Fawr wedyn yn llifo'n gyfochrog 芒 hi ac yn tarddu filltir i'r de yn Llyn Llech Owain.

Mae hon hefyd yn llifo i'r m么r yng Nghydweli. Ond nid yw'r ddwy afon yn cyfarfod o gwbl er eu bod yn llifo'n gyfochrog a dim ond ychydig filltiroedd sydd rhyngddyn nhw mewn ambell fan.

O ganlyniad i'r ddwy afon mae Cwm Gwendraeth yn rhannu'n ddau gwm sef Cwm Gwendraeth Fach a Chwm Gwendraeth Fawr. Mae'r cyntaf yn cynnwys pentrefi bychain fel Porth-y-rhyd, Llanarthne, Llangyndeyrn, Llandyfaelog a Mynydd-y-garreg. Mae Llanarthne yn gartref i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae'r ail gwm yn cynnwys pentrefi gweddol fawr yn nwyrain y cwm fel Pontyberem, Pont-iets, Ponthenri a Thrimsaran.

Y prif wahaniaeth rhwng y ddau gwm yw'r tirwedd. Llwyddodd Cwm Gwendraeth Fach i osgoi olion diwydiant tra bu Cwm Gwendraeth Fawr yn gymysgfa o ddiwydiant ac amaeth. Ond er hyn llwyddodd y cwm hwnnw hyd yn oed i osgoi'r olwg ddiwydiannol gan gadw'i harddwch naturiol.

Gan ei fod wedi llwyddo i gadw'i gymeriad gwledig nid yw Cwm Gwendraeth yn cael ei ystyried fel cwm diwydiannol mewn gwirionedd. Efallai mai dyma pam mai Cymraeg yw iaith mwyafrif y boblogaeth yma heddiw.

Cwm Gwendraeth Fach

Jac a Wil
Jac a Wil

Dechreuwn yng ngorllewin y cwm felly gyda Chwm Gwendraeth Fach lle mae pentrefi Gorslas a Chefneithin. Yng Ngorslas mae croesffordd chwe ffordd a ffurfiwyd gan lwybrau'r bugeiliaid a adawai eu gwartheg i bori ar hen dir comin y Mynydd Mawr. Arferai'r porthmyn anfon eu gwartheg drwy Gorslas i gyfeiriad Llandeilo a Lloegr a datblygodd ffair anifeiliaid yma.

Yng Nghefneithin mae ysgol uwchradd Maes-yr-Yrfa. Mae'r ysgol wedi ei henwi ar 么l llecyn gerllaw lle'r arferai porthmyn, mor bell yn 么l 芒'r 18fed ganrif, orffwyso eu gwartheg ar y ffordd i farchnadoedd Smithfield yn Llundain. Gelwid y llecyn hwn yn Maes-yr-Yrfa. Ym mhentref Cefneithin hefyd yr oedd Jac a Wil yn byw, dau frawd a arferai ganu gyda'i gilydd ac a oedd yn boblogaidd iawn yn y 1950au a'r 1960au.

Enwogion Rygbi

Carwyn James
Carwyn James

Yn Heol yr Ysgol, Cefneithin y magwyd Carwyn James a ddaeth i enwogrwydd fel maswr Llanelli a Chymru, darlledwr a hyfforddwr. Y tu 么l i'r ysgol mae'r cae chwarae a'r ochr arall i'r cae hwnnw y magwyd Barry John, un arall o faswyr Cymru. Cofiwn hefyd fod y diweddar Ray Gravell, hefyd yn seren y byd rygbi ac yn ohebydd hynod o boblogaidd, yn frodor o'r Cwm. Ganwyd Ray yng Nghydweli a symudodd yn fachgen ifanc i bentref Mynydd y Garreg.

Chwaraewr rygbi enwog arall o Gwm Gwendraeth yw Gareth Davies. Fe'i magwyd ef yn Y Tymbl. Pentref a dyfodd yn sgil y glofeydd yw'r Tymbl ac mae'r rhes hir o dai yma yn nodweddiadol o bentref diwydiannol.

Mae i'r pentref enw anghyffredin iawn. Mae'n debyg ei fod wedi datblygu o enw'r dafarn Tumble Down Dick. Bwthyn oedd hwn yn wreiddiol a drodd wedyn yn dafarn. Heddiw clwb rygbi sydd yma. Ond pwy oedd y g诺r hwn a roddodd ei enw i'r dafarn? Mae'n debyg mai Richard mab Oliver Cromwell ydoedd a gafodd ei lysenw wedi iddo ymddiswyddo ym 1659.

Terfysgoedd a Phrotest

Cofeb
Carreg i gofio ymosodiad Beca yn yr Hendy

Yn ystod Terfysgoedd Beca roedd y dafarn hon yn fan cyfarfod i rai o arweinwyr y mudiad. Yma y daliwyd Sioni Sgubor Fawr ym mis Hydref 1843. Roedd y Tymbl hefyd yn leoliad i gyfres boblogaidd S4C, 'Tair Chwaer'. Nepell o'r Cwm mae tafarn enwog Y Polyn yn Nantgaredig oedd yn fan cyfarfod i Ferched Beca.

Pentref arall pwysig yng Nghwm Gwendraeth Fach yw Cross Hands. Mae'r pentref wedi datblygu'n sylweddol yn ddiweddar ac mae newid mawr wedi digwydd yma mewn cyfnod byr. Ers talwm pentref diwydiannol oedd Cross Hands ond does dim tystiolaeth o fwrlwm diwydiannol y gorffennol yma heddiw. Mae'r pentref yn enwog erbyn hyn am ei barc busnes gyda'i swyddfeydd a'i siopau mawrion. Clwb nos yw'r Gwernllwyn, hen gartref rheolwr y gwaith glo, erbyn heddiw.

Mae'n debyg i bentref Cross Hands dderbyn ei enw o'r hen arferiad o drosglwyddo carcharorion yn yr ardal. Yn y 19eg ganrif byddai'r carcharorion yn cerdded o garchar Caerfyrddin i garchar Abertawe gan deithio drwy'r pentref. Awgrym arall yw i'r enw anghyffredin hwn ddatblygu am fod ceffylau'r goets fawr yn cael eu newid yma.

Ni ellir gadael Cross Hands heb gyfeirio at Cae Pownd. Yma y cynhaliwyd cyfarfodydd y glowyr adeg Streic Fawr y Tymbl 1893. Wedi un o'r cyfarfodydd hyn gorymdeithiodd tair mil o bobl trwy bentref Cross Hands a'r Tymbl.

Dechreuodd y si am y posibilrwydd o foddi Cwm Gwendraeth fach yn 1960, a bu trigolion ardal Porthyrhyd a Llangyndeyrn yn byw dan y bygythiad hwn am bum mlynedd. Bwriad y cynllun oedd boddi tai a ffermydd yr ardal er mwyn sicrhau digon o ddwr at anghenion Abertawe, Port Talbot a Chastell Nedd. Nid gwrthod dwr i'r ardaloedd hyn oedd pwrpas y brotest, ond ceisio perswadio'r llywodraeth i archwilio ardaloedd eraill. Ar yr 21ain o Hydref 1963 symudodd y lor茂au a'r heddlu i'r ardal, ond ni chafwyd mynediad i'r caeau. Ymladdodd trigolion Cwm Gwendraeth yn erbyn y cynllun hwn, ac ennill eu hachos yn y diwedd.

Cwm Gwendraeth Fawr

Llyn Llech Owain
Llyn Llech Owain

Tua'r dwyrain wedyn mae pentrefi Cwm Gwendraeth Fawr. Mae afon y Gwendraeth Fawr yn tarddu yn Llyn Llech Owain ar y Mynydd Mawr. Dywed un chwedl lleol fod y llyn wedi ei enwi ar 么l Owain Lawgoch. Yn 么l y chwedl ffurfiwyd y llyn wedi i ffynnon oedd ar y Mynydd Mawr orlifo dros y tir. G诺r o'r enw Owain oedd ceidwad y ffynnon.

Un diwrnod gadwodd i'w geffyl yfed o dd诺r oer y ffynnon ond anghofiodd osod y garreg enfawr yn 么l dros y ffynnon. Llifodd y d诺r i lawr y cwm a bu bron iddo foddi'r ardal gyfan. Tra'n carlamu ar ei geffyl edrychodd Owain yn 么l i gyfeiriad y ffynnon a sylweddolodd beth oedd yn digwydd. Carlamodd yn 么l a marchogaeth y ceffyl mewn cylchoedd o amgylch y llyn hyd nes yr oedd olion carnau'r ceffyl yn y tir yn ddigon i rwystro llif y dwr. A dyna yn 么l y chwedl sut y ffurfiwyd Llyn Llech Owain.

Dywed hanesion lleol eraill mai Owain Glyndwr oedd yr 'Owain' anghofus! Ar y safle hwn wrth droed y Mynydd Mawr ym 1843 bu hefyd gyfarfod cyhoeddus mawr adeg helyntion Beca.

Un o bentrefi Cwm Gwendraeth Fawr yw Pontyberem. Yma mae afon Berem, sy'n tarddu ar Fynydd Llangyndeyrn, yn ymuno ag afon Gwendraeth Fawr. Un o hynodion y pentref yw'r Ddraenen Wen a arferai dyfu yn y pentref.

Yn 么l traddodiad fe glymodd Oliver Cromwell ei farch wrth y goeden hon pan oedd ar ei ffordd yn 么l o Sir Benfro adeg y Rhyfel Cartref. Ers talwm roedd cerrig wedi eu gosod o'i chwmpas i'w gwarchod ond fe'i torrwyd er mwyn lledu'r ffordd. Ers talwm dywedid y byddai'r diwydiant glo yn dod i ben yng Nghwm Gwendraeth pe bai'r goeden yn disgyn.

Hen Fenyw Fach Cydweli

Hen fenyw fach Cydweli yn gwerthu losin du, yn rhifo deg am ddime, ond un ar ddeg i mi...

Pennill Traddodiadol

Ond nid glo oedd yr unig ddiwydiant yng Nghwm Gwendraeth. Am ganrifoedd roedd yna weithfeydd haearn yn ardal Pont-henri. Mae'n debyg i 诺r o Sweden sefydlu gwaith haearn rhwng Pont-henri a Phont-iets yn oes Elisabeth 1.

Mae'r ddwy afon wedyn yn llifo i'r m么r yng Nghydweli, unig dref Cwm Gwendraeth a sefydlwyd ym 1115. Yn ei chyfnodau cynnar roedd y dref braidd yn Seisnig cyn i'r Cymry ddechrau dod yn rymus yma ddiwedd yr Oesoedd Canol. Yng Nghae Gwenllian yng Nghydweli y dywedir y claddwyd Gwenllian, arwres ddewr fel Buddug, wnaeth arwain brwydr y Cymry yn erbyn y Normaniaid yn 1135.

Cofiwn hefyd am yr hwiangerdd enwog, 'Hen Fenyw Fach Cydweli' sy'n enwog ar lafar-gwlad y Cymry. Cred haneswyr lleol mai'r Fonesig Hawise de Londres, bu'n byw yng Nghastell Cydweli tra'n blentyn yn 13g yw'r 'fenyw fach'. Dywed y chwedl bod Hawise wedi gwisgo fel gwerthwraig loshin a chacennau i geisio ad-ennill y castell i'w theulu. Mae'n stori ddifyr ta beth!


Cerdded

Neuadd y Brangwyn

Abertawe

Taith Doctor Who a Torchwood yng nghanol y ddinas a'r Chwarter Arforol.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.