主播大秀

Terfysg Beca

Tollborth yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan

gan Catrin Stevens

Ar Fai 13, 1839, cafodd tollborth Efail-wen, sir Gaerfyrddin, ei ddinistrio gan griw o ddynion wedi'u gwisgo fel merched. Yna, bu tawelwch am dair blynedd cyn i'r 'Merched' godi mewn terfysg eto, ar draws de-orllewin Cymru. Yn ystod 1842-3 ymosodwyd ar 500 o dargedau amrywiol - roedd tua'u hanner yn dollbyrth.

Tyfodd protest leol yn erbyn talu tollau ffordd yn derfysg o bwys. Daeth Merched Beca i gynrychioli'r frwydr dros iawnderau'r werin yng nghefn gwlad.

Pam terfysgu?

Roedd y tollbyrth yn dargedau amlwg. Byddai nifer o gwmn茂au tyrpeg gwahanol yn codi tollau am deithio ar hyd ffyrdd gwledig. Roedd un ar ddeg tollborth rhwng Pontarddulais a Chaerfyrddin er enghraifft, a ffermwyr yn teithio i 'n么l calch neu i'r farchnad yn gorfod talu tollau afresymol o uchel.

Ond roedd rhesymau eraill hefyd:

  • y dirwasgiad difrifol ymhlith ffermwyr bychain ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg;
  • y bwlch enfawr rhwng y tenant-ffermwyr tlawd - capelwyr Cymraeg eu hiaith a'u Meistri Tir cyfoethog, Seisnig, a oedd yn aelodau o Eglwys Loegr;
  • y rhenti uchel, annheg yr oedd y Meistri Tir yn eu hawlio. Meddai Beca: 'Down the rent and all will be good';
  • gormes ariannol y degwm (talu un rhan o ddeg o'u cynnyrch i'r eglwys). Ar 么l pasio Deddf Cymudo'r Degwm yn 1836, roedd yn rhaid talu'r degwm mewn arian yn lle mewn cynnyrch;
  • roedd yn gas gan y werin dalu trethi'r tlodion am y tlotai creulon newydd. Ymosododd Merched Beca ar dlotai Arberth a Chastell Newydd Emlyn.
Tlloty Llanfyllin
Codwyd tlotai newydd drwy Gymru yn y 1830au

Aeth pethau i'r pen yn 1842 oherwydd roedd prif farchnad y ffermwyr - ardaloedd diwydiannol y de-ddwyrain - mewn dirwasgiad hefyd. Syrthiodd prisiau 欧d.

Rhwng popeth roedd ffermwyr bychain y de-orllewin mewn argyfwng yn 1842-3.

Pam gwisgo fel merched?

Roedd duo wynebau a gwisgo dillad merched yn rhwystro'r awdurdodau rhag eu hadnabod efallai.

Ond roedd gan y Cymry arfer y 'ceffyl pren' hefyd, lle bydden nhw'n gwisgo'n rhyfedd i gosbi aelod o'r gymdeithas a oedd wedi torri rheolau'r gymdeithas honno. C芒i'r 'troseddwr' ei roi i reidio ar gefn y ceffyl pren a sefyll prawf ffug.

Cyn dinistrio tollborth byddai'r 'Merched' yn perfformio drama fach, gyda'r 'Fam' yn gofyn am help ei 'Merched' i'w dryllio.

Pam Rebeca neu Beca?

Yn 么l rhai, benthyciodd Twm Carnabwth, arweinydd ymosodiad Efail-wen, ddillad gan ryw Rebeca o Langolman. Ond mae'n debyg, hefyd, fod y terfysgwyr yn gyfarwydd 芒'r adnodau sy'n s么n am Rebeca a'i had 'yn etifeddu porth ei gelynion' yn Llyfr Genesis yn y Beibl.

Hynt y terfysgu

Carreg yn cofio am ladd Sarah Williams
Carreg i gofio'r ymosodiad ger Pontarddulais

Gan amlaf, criw bychan fyddai'n dod ynghyd i ddinistrio tollborth, ond weithiau byddai tyrfa o ryw 300 ohonynt.

Trodd ambell ymosodiad yn dreisgar. Cafodd hen wraig o'r enw Sarah Williams ei llofruddio yn yr Hendy, ger Pontarddulais, a chollodd ceidwad tollborth New Inn, Ceredigion ei olwg.

Y digwyddiad mwyaf trawiadol oedd yr orymdaith o ddwy fil o brotestwyr, yng ngolau dydd, a than faner 'Cyfiawnder a Charwyr Cyfiawnder Ydym Ni Oll', yng Nghaerfyrddin, ym Mehefin, 1843. Ymosododd y dyrfa ar wyrcws (tloty) Pen-lan, ond cawson nhw eu gwasgaru gan filwyr y Fourth Light Dragoons. Yn dilyn hyn, anfonodd papur newydd y Times, Thomas Campbell Foster i adrodd am y terfysg. Ysgrifennodd e golofnau yn cydymdeimlo 芒 chwynion y ffermwyr, yn enwedig ar 么l iddo fod mewn cyfarfod dirgel yng Nghwmifor, ger Llandeilo.

Ymgasglodd 3,000 o bobl i gyfarfod cyhoeddus ar Fynydd Sylen, Pontyberem yn Awst 1843.

Pwy oedd Beca?

Plac llechen 芒 llun y terfysgwyr arni
Plac i gofio'r terfysgwyr yn Efail-wen

Roedd sawl arweinydd gwahanol:

  • Twm Carnabwth o Fynachlog-ddu yn Efail-wen;
  • Michael Bowen o Ddre-fach yng ngorymdaith Caerfyrddin;
  • John Hughes (Jac T欧-Isha), John Hugh a David Jones a gafodd eu halltudio i Van Diemen's Land yn dilyn ymosodiad ar dollborth ym Mhontarddulais ym Medi 1843;
  • daeth dau 'arweinydd' treisgar, Dai'r Cantwr a Sioni Sgubor Fawr, ag enw drwg i'r achos a chawsant hwythau'u halltudio;
  • bu Hugh Williams, cyfreithiwr a Siartydd yng Nghaerfyrddin, yn weithgar yn cefnogi'r achos.

Beth fu effaith y terfysg?

Yn y pen draw, trodd y trais cynyddol y ffermwyr cymedrol yn erbyn y terfysgu. Sefydlodd y llywodraeth Gomisiwn i archwilio'r cwynion, tawelodd cefn gwlad a chafodd y cwmn茂au tyrpeg eu diwygio.

Mae rhamant y terfysg wedi tanio dychymyg llawer o nofelwyr, baledwyr ac arlunwyr. Mae 'Terfysg Beca' yn parhau yn symbol grymus o ewyllys gwerin gwlad i godi'i llais yn erbyn gorthrwm ac anghyfiawnder trwy wrthryfel cymunedol.


About this page

This is a history page for schools about the Rebecca Riots of south west Wales. Poverty and social inequality led men disguised in women's clothes to revolt by attacking local tollgates in protest against road taxes. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Clipiau fideo a sain o archif y 主播大秀 am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.