主播大秀

Hanes Preseli a'r Fro -Parhad

top
Mynyddoedd y Preseli

Wrth droed mynyddoedd y Preselau mae Mynachlogddu. Ym Mynachlogddu, yn ogystal 芒 Llandyssilio, y magwyd y bardd Waldo Williams. Ystyrir ef yn un o feirdd gorau Cymru yn yr Ugeinfed Ganrif.

Waldo Williams
Waldo Williams

Cofio Waldo

Codwyd un o gerrig gleision y Preselau i'w goff谩u ar gomin Rhos-fach ym mhlwyf Mynachlog-ddu. Ar y garreg mae geiriau o gerdd enwog Waldo Y Preselau.

Mae carreg las arall ar y tir comin hwn yn ogystal. Mae hon yn un o ddwy garreg a gludwyd o gopa Carnmenyn gan un o hofrenyddion yr Awyrlu Brenhinol yn 1989. Cludwyd y garreg arall i G么r y Cewri ac mae'r garreg yma yn nodi tarddle'r cerrig.

Ym mynwent capel Bethel ym mhentref Mynachlogddu y claddwyd Thomas Rees neu Twm Carnabwth, arweinydd y terfysg cyntaf gan Ferched Beca. Twm Carnabwth oedd yn arwain y criw a losgodd y dollborth yn Efailwen. Roedd yn byw ar fferm Carnabwth, Mynachlogddu.

Yn Gors Fawr ger y pentref mae cylch o gerrig sy'n perthyn i Oes yr Efydd. Mae 16 o gerrig yn y cylch arbennig hwn ac un ohonynt yw 'r graig las sy'n garreg bwysig yn y Preseli. Gelwir y cerrig hyn ar lafar yn Gerrig Meibion Arthur. Yn ddiweddar darganfuwyd mai calendr cerrig yr hen ffermwyr cyntefig yw'r cylch hwn. Mae cerrig arbennig yn Llandyssilio hefyd sef y Meini Gwyr.

I'r gorllewin o Fynachlogddu mae pentref Rosebush. Datblygodd y pentref o ganlyniad i'r chwareli llechi ar fynyddoedd y Preseli i'r gogledd o'r pentref.

Casmael a Chasnewydd

Barti Ddu
Barti Ddu

Wedi adeiladu rheilffordd Maenclochog oedd yn cysylltu'r chwareli a'r brif lein yng Nghlunderwen daeth y pentref yn ganolbwynt y diwydiant. Erbyn heddiw wrth gwrs mae economi'r pentref fel yr ardal gyfan yn dibynnu ar dwristiaid sy'n dod yma i grwydro mynyddoedd y Preseli a mwynhau'r golygfeydd gwych.

Ymhellach i'r gorllewin wedyn mae pentrefi Casmael a Chasnewydd bach. Bu Waldo yn brifathro Ysgol Casmael yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae cofeb iddo wedi ei gosod ar wal yn ysgol Casmael gyda'r geiriau "Mi rodiaf eto Weun Cas Mael".

Yn y pentref hefyd mae cofeb i Evan Rees neu Dyfed wrth ei enw barddol. Cafodd ei eni yma ond gadawodd y pentref pan oedd yn fabi naw mis oed a chafodd ei fagu yn Aberd芒r. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith a bu'n Archdderwydd Cymru o 1906-1923.

Barti Ddu

Cofeb i Barti Ddu
Cofeb i Barti Ddu

Ym mhentref Casnewydd Bach, ddwy filltir o Gasmael, y ganwyd Barti Ddu, un o f么r-ladron enwocaf y byd. Roedd yn f么r-leidr mentrus ac ymosododd ar nifer o longau o Sbaen a Phortiwgal. Roedd ei enw'n ddychryn i longwyr y Carib卯 a gorllewin m么r yr Iwerydd.

Dywedir iddo gasglu ffortiwn gwerth 51 miliwn mewn aur yn unig! Barti Ddu oedd y cyntaf i hwylio'r faner ddu a sgerbwd gwyn arni. Yn 1722 cafodd ei ladd mewn cilfach yn Cape Lopez gan long ryfel o Brydain. Saif cofeb iddo ar lawnt y pentref.

Mae nifer o gerrig coffa yn ardal y Preseli ac ym mharc gwledig Llyn y fran mae carreg goffa gwr enwog arall o'r ardal sef William Penfro Rowlands, cyfansoddwr y d么n 'Blaen-wern'.

Cafodd ei eni yn ffermdy Dan y Coed yn 1860 ac mae adfeilion y ffermdy hwnnw i'w gweld y tu 么l i'r gofeb. Daeth 'Blaen-wern' yn emyn poblogaidd iawn, nid yn unig yng Nghymru a Lloegr ond hefyd yn America, Awstralia a Dwyrain Asia. Mae wedi ymddangos yn ogystal mewn casgliad o emynau yn yr iaith Tseiniaidd.

Terfysgoedd Beca

Tollborth yn Sain Ffagan
Tollborth yn Sain Ffagan

Mae carreg goffa ym mhentref enwog Efailwen hefyd. Saif Efailwen ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro ar y brif ffordd i Arberth. Yma ym Mai 1839 dinistriwyd tollborth y pentref gan griw o ffermwyr, tua 400 i gyd, oedd yn gwisgo dillad merched ac wedi duo eu hwynebau. Protest oedd hyn yn erbyn y prisiau afresymol oedd yn cael eu codi i gludo deunyddiau fferm ac anifeiliaid drwy'r tollbyrth.

Tollborth Efailwen oedd y cyntaf i Ferched Beca ei dymchwel ac felly mae i'r pentref le pwysig yn hanes Cymru. Yma heddiw mae carreg yn nodi'r fan lle dinistriwyd y dollborth ac mae ysgol y pentref a chaffi wedi eu henwi ar 么l Beca.


Cerdded

Neuadd y Brangwyn

Abertawe

Taith Doctor Who a Torchwood yng nghanol y ddinas a'r Chwarter Arforol.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.