主播大秀

Hanes Porthmadog a'r Cylch: Rhan 2

top
Dinas Emrys 漏 RCAHMW

Parhad o daith o amgylch Porthmadog a'r adral gyda Geraint Lloyd Jones o Benrhyndeudraeth.

Ni ellir ond rhyfeddu'n syfrdan at brydferthwch Nant Gwynant, glannau Llyn Gwynant a phinaclau'r mynyddoedd yn codi'n syth o waelodion y dyffryn.

Dyma fan cychwyn Llwybr Watcyn i gopa'r Wyddfa. Wrth godi o'r dyffryn i gyfeiriad Cwm Dyli a Phen y Gwryd, a ffermydd Hafod Llan a Gwastadanas oddi tanom, gwelir arwydd i'n cyfeirio i hen blasdy Hafod Lwyfog, sydd a'r dyddiad 1638 a'r llythrennau E.Ll. ar un o'i drawstiau.

Draig Dinas Emrys

Wrth ddychwelyd i Feddgelert byddwn yn pasio Llyn Dinas, sydd yn cael ei enw oddi wrth Ddinas Emrys uwchlaw, safle hen gaer o'r cyfnod 么l-Rufeinig a chastell mewn cyfnod diweddarach tua diwedd y ddeuddegfed ganrif. Mae chwedl am ddwy ddraig yn ymladd ar waelod llyn gerllaw'r gaer - y naill yn wen a'r llall yn goch, yn arwyddo'r Sais a'r Brython yn ymladd am arglwyddiaeth Prydain.

Bydd enw Nantmor neu Nanmor yn ein hatgoffa fod y m么r unwaith yn cyrraedd i fyny at Fwlch Aberglaslyn, ond bu'r un filltir ar ddeg o gloddiau llanw a godwyd cyn 1780 o amgylch Nantmor a Morfa Hafod Garregog yn gyfrwng i sychu'r tir yn yr ardal yma cyn codi'r Cob ym Mhorthmadog.

Os awn heibio i gapel y pentref fe ddown at y Carneddi, cartref teulu Richard Griffiths (Carneddog, 1861 - 1947), bardd, llenor ac awdur colofn "Manion o'r Mynydd" yn Yr Herald Gymraeg o 1911 hyd 1945.

Ef a'i briod a welwyd yn llun enwog y ffotograffydd, Geoff Charles a ymddangosodd yn "Y Cymro" 14 Medi 1945 dan y penawd "Rwy'n edrych dros y bryniau pell", a'r ddau yn gorfod ffarwelio a'r hen gartref i fynd i fyw at y mab yn Hinckley yn Lloegr. Daethai'r Carneddi wedyn yn gartref i'r awdures Saesneg, Ruth Ruck, a ddisgrifiodd ei blynyddoedd yno yn ei chyfrol "A Place of Stones".

Dyma fro'r beirdd o gyfnod cynharach, Dafydd Nanmor (1420 - 1485) o Gae Dafydd, un o'r pwysicaf o Feirdd yr Uchelwyr, a'i athro barddol Rhys Goch Eryri (1385 - 1448) o Hafodgarregog. Bu'n rhaid i Ddafydd ddianc i'r De oherwydd iddo gyfansoddi cerddi serch i Gwen o'r Ddol (Dolfriog yn ymyl), oedd yn wraig briod.

Daethai ardal Nanmor yn enwog ym mhumdegau'r ganrif diwethaf pan godwyd replica o Wal Fawr China yma ar gyfer ffilmio "The Inn of the Sixth Happiness", gyda'r ser byd-enwog Ingrid Bergman, Robert Donat a Curt Jurgens. Diau y bydd trenau Rheilffordd yr Ucheldir yn torri ar ddistawrwydd yr ardal yn fuan iawn pan fydd yr holl lein wedi ei hagor o Gaernarfon i Borthmadog.

Cartref Clough Williams-Ellis

Wrth gyrraedd Llanfrothen o gyfeiriad Nanmor gwelir y ffordd yn troi ar y chwith i gyfeiriad Croesor - heibio'r "lodge" a'i bwa ac fe fyddai'r ffordd yn mynd o dan y bwa ar un adeg. Ychydig yn uwch i fyny ar 么l troi am Groesor y mae Plas Brondanw, cartref y pensaer enwog, Clough Williams-Ellis (1883 - 1978).

Llanfrothen 芒 phaent gwyrddlas nodweddiadol Syr CloughMae olion pensaerniol Clough Williams-Ellis i'w gweld ar hyd a lled yr ardal - ffoleddau yn bennaf, megis y ffug gastell sydd i'w weld yn glir iawn ar graig uwchben y Morfa wrth ddod o gyfeiriad Penrhyndeudraeth.

Mae'r paent gwyrddlas, sydd mor nodweddiadol o'i greadigaeth enwocaf Portmeirion, i'w weld yn amlwg iawn ar holl adeiladau'r rhan hynaf o'r pentref a elwir Y Garreg, sydd yn ein hatgoffa mai Stad Brondanw sydd yn berchen ar y rhan fwyaf o'r pentref o hyd. Ni ellir anwybyddu'r gofgolofn drawiadol a godwyd i'r milwyr a syrthiodd yn y ddau Ryfel Byd yn Y Garreg.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.