主播大秀

Portmeirion - Breuddwyd un dyn

top
Siopau ym Mhortmeirion

Rhan 3: O ran teledu mwy diweddar, ffilmiwyd pennod olaf cyfres ddrama ITV, Cold Feet ym Mhortmeirion yn 2003.

Ymwelodd y cymeriadau 芒'r pentref er mwyn gwasgaru llwch y cymeriad Rachel Bradley (a chwaraewyd gan Helen Baxendale), a oedd wedi mwynhau adegau rhamantus yno gyda'i phartner Adam (James Nesbitt).

Mae'r gyrchfan hefyd yn le poblogaidd i briodi - daeth y pentref i'r penawdau yn 2003 wrth i Brian Capron - y llofrudd yn y gyfres Coronation Street, Richard Hillman - briodi ei gariad yno ym mis Mehefin y flwyddyn honno.

Mentrau'r Pentref

Sefydlodd merch Syr Clough, Susan, a oedd yn artist ac wedi ei hyfforddi gan Henry Moore, Grochendy Portmeirion ym 1960. Roedd Susan a'i gwr, Euan, wedi cymryd trosodd rhedeg siopau'r pentref yn y '50au, ac roedd Susan wedi cynllunio nifer o fathau o waith ceramig iddyn nhw. Yn y pen draw fe symudodd y cwmni i mewn i adeiladau yn Stoke on Trent ac erbyn hyn maen nhw'n allforio cynlluniau cyfredol a rhai wedi eu hail-lansio o'r '60au ar draws y byd.

Yn ogystal 芒'i ddiddordeb mewn Pensaern茂aeth a chynlluniau tirluniau lliwgar, roedd Williams-Ellis yn dadlau'n gryf o blaid cadwraeth cefn gwlad, cynllunio mwynderau a chynllunio diwydiannol, ac mae'r casgliad o adeiladau a nodweddion pensaern茂ol wedi eu benthyg yn fodd i gadw elfennau o hanes pensaern茂ol o bob rhan o'r DU. Ym 1971 cafodd Syr Clough ei urddo'n farchog am ei wasanaeth i bensaern茂aeth a'r amgylchedd.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.