主播大秀

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Castell Caernarfon

06 Mawrth 2009

Roedd Caernarfon yn lle arbennig cyn i Edward I weld y lle erioed. Bu gwersyll Rhufeinig Segontium ar ben y bryn, ac adeilad Rhufeinig arall, Hen Waliau, yn agosach at yr harbwr. Yma yn ei freuddwyd gwelodd Macsen Wledig, ymerawdwr Rhufain, Elen Luyddog, a syrthio mewn cariad 芒 hi.

Roedd castell mwnt-a-beili uwchben afon Seiont, a godwyd yn wreiddiol gan Hugh iarll Caer, ond cyn 1100 roedd y Normaniaid wedi colli eu gafael ar y lle, a bu'n eiddo'r Cymry hyd 1283. Cymerodd Edward y lle ar gyfer ei gastell mawreddog yntau.

Dechreuwyd ar y gwaith ychydig fisoedd wedi marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd yn Rhagfyr 1282. Lluniwyd y muriau deheuol mawreddog ar lun muriau enwog Byzantium. Roedd Edward yn ddiau yn gwybod fod traddodiad cynnar ymhlith y Cymry bod Cystennin Fawr wedi ei gladdu yng Nghaernarfon; yn 么l Hanes Gruffudd ap Cynan roedd y lle yn 'ddinas Cystennin'.

Aeth y gwaith ymlaen yn gyflym, ar gynllun bur wahanol i Harlech ac Aberystwyth. Yn lle cynllun consentrig - 'castell o fewn castell' - codwyd y muriau a'r tyrau mor gadarn ac mor uchel fel yr ymddangosai nad oedd angen dyblu'r amddiffyniadau. Ar yr un pryd fe ddechreuwyd creu bwrdeistref o fewn muriau cadarn.

Yng nghanol y gwaith adeiladu fe sicrhaodd Edward fod lawnt i'w wraig Eleanor, oedd yn hoffi gerddi, ac yn y castell yn 1284 fe aned ei phlentyn olaf, Edward. Ar adeg ei eni nid oedd yn etifedd yr orsedd, ond o fewn ychydig fisoedd roedd ei frawd h欧n Alfonso wedi marw, a'r babi olaf ddaeth yn y pendraw yn Edward II.

Cyn bod y castell wedi ei orffen daeth gwrthryfel Madog ap Llywelyn yn 1294; syrthiodd Caernarfon i ymosodiad ffyrnig y Cymry, a lladdwyd cannoedd o Saeson a Gwyddelod yn y dref. Ond byrhoedlog bu'r gwrthryfel yn wyneb penderfyniad haearnaidd Edward, ac aeth y gwaith adeiladu ymlaen eto, ond heb fod yr un mor sylweddol 芒'r gwaith cynharach.

Ni fu milwyr Owain Glynd诺r mor lwyddiannus wrth ymosod ar Gaernarfon. Daliodd allan am dair blynedd tra bod y wlad o gwmpas yn nwylo'r gwrthryfelwyr, diolch i'r porthladd bychan. Llwyddodd y castell hefyd ar ran Charles I i wrthsefyll gwarchaewyr, nes ildio o'r diwedd yn 1646.

Wedi hynny dechreuodd y castell ddadfeilio'n araf, ond daliwyd i ddefnyddio rhai ystafelloedd. Yn y 19fed ganrif cydiodd g诺r busnes lleol, Syr Llewelyn Turner, yn y cyfle i adfer y castell gyda chymorth y pensaer Anthony Salvin. Yn 1911 trefnodd David Lloyd George, Canghellor y Trysorlys ar y pryd, arwisgiad Edward, etifedd y goron, yn Dywysog Cymru, a chynhaliwyd defod tebyg yn 1969 ar gyfer y tywysog Charles.


  • G锚m y Gof

    G锚m y Gof

    Chwarae

    Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

    Hanes Cymru

    Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

    Creu'r genedl

    Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

    Cerdded

    漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

    Conwy

    Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

    主播大秀 iD

    Llywio drwy鈥檙 主播大秀

    主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.