主播大秀

Blitz

Cyrchoedd awyr ar Gymru

17 Hydref 2008

Dioddefodd rhai o ddinasoedd mawr ac ardaloedd diwydiannol Prydain yn enbyd gan fomio'r Almaenwyr drwy gydol yr Ail Ryfel Byd. Amcangyfrifir bod 40,000 o ddinasyddion Prydain wedi eu lladd gan y blitz gyda dinasoedd fel Llundain a Coventry yn dioddef fwyaf.

Roedd nifer yn credu bod Cymru yn un o'r llefydd mwyaf diogel ym Mhrydain ac felly penderfynodd y llywodraeth anfon degau o filoedd o 蹿补肠颈飞卯蝉 i loches yng nghefn gwlad Cymru.

Ond wnaeth Cymru ddim dianc rhag y bomio. Rhwng 19 a 21 Chwefror 1941 cafwyd tair noson o fomio trwm ar ddinas Abertawe gan ladd 230 o bobl, anafu cannoedd a dinistrio rhannau helaeth o ganol y ddinas. Bu cyrchoedd tebyg ar Gaerdydd, Casnewydd, Doc Penfro a mannau eraill ar ddechrau'r rhyfel hefyd, ond Abertawe, gyda'i phorthladd allweddol, a ddioddefodd fwyaf.

Roedd Edward John Samuel o Glydach yn gweithio yn y gwaith glo ac yn helpu gyda'r frig芒d d芒n yn Abertawe yn ystod y cyrch ar y dref. Mae cofio'r dinistr yn y ddinas yn dal i effeithio arno hyd heddiw:

"Roeddwn i'n byw ym Mhontrhydyfen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Y prif atgof sydd gen i o'r rhyfel yw'r bom a ffrwydrodd yn y t欧 drws nesa ond un i ni, ar 17 Mawrth 1942.

"Mas o'r rhai oedd wedi'i claddu dan y rwbel da'th tri mas yn fyw a thri wedi marw. Yr hyn sy'n aros yn y cof ydi fod un o'r rhai a gafodd eu hachub yn enwog iawn mewn rhai mannau o Gymru, sef Ivor Emanuel. Anghofia i byth y diwrnod 'na.

"N么l yn yr amser 'na ym Mhontrhydyfen roedd pawb yn un teulu - does neb yn gwybod pwy sy'n byw drws nesa i'w gilydd nawr.

"Roeddwn i lawr yn gwitho yn Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Er fy mod i'n gweithio yn gwaith glo roeddwn i hefyd yn mynd mas i helpu gyda'r frigiad d芒n yn ystod y nos. Part timer oeddwn i, shifft o bedair awr, neu ryw 12 awr y mis. Doeddwn i ddim arno bob nos achos oedd t卯m 'da ni. Roedd pympiau d诺r ar bwys yr eglwys (sy'n Gadeirlan nawr) a'r hyn fyddwn i'n ei wneud oedd symud y d诺r o un lle i'r llall.

"Yn ystod yr amser pan oeddwn i'n gweithio yn Abertawe, yn edrych ar 么l pwmp dwi'n cofio dau o blant yn dod tuag ataf: 'We have lost our parents,' medden nhw. Doeddwn i ddim yn eu nabod nhw, ond pwy ddaeth heibio ond y Salvation Army, roedden nhw'n dod 芒 cawl o amgylch i ni. Wedes i wrthyn nhw: 'Look, these people have lost their parents'. A chware teg, dyma nhw'n mynd 芒'r ddau blentyn. Dwi ddim yn gwybod os ffindon nhw eu rhieni neu os oedden nhw wedi cael eu lladd.

"Cafodd cannoedd o fywydau eu colli yn Abertawe. Roedd y byd ar d芒n a phan rwy'n mynd i Abertawe nawr rwy'n falch i fynd oddi yna."

Un sy'n cofio Penfro yn cael ei fomio ydy Esther Rees o Benparc ger Aberteifi:

"Dwi'n cofio pan gath Penfro ei bomo. Ar y noson 'ma roeddwn i'n sefyll ar sgiw a mam yn neud fy ngwallt. Wedd cwpwrt 'da ni yn y gegin a roedd y llestri fel 'sa nhw'n mynd 'whish, whish' oddi ar y ford. Wrth gwrs, gathon ni wybod y diwrnod ar 么l 'ny fod boms wedi disgyn ym Mhenfro. Dwi'n cofio hefyd, fe grasiodd aeroplane ochr draw i'n t欧 ni - wedd hynna lan ar bwys Capel Ffynnon Beder, byti filltir falle o bentre Penparc.

"Mae dyn, still, pan chi'n clywed ryw hen plane a phethe, yn meddwl, wel jiw. Amser rhyfel roeddech chi'n clywed planes neu bombers fel roedden nhw'n eu galw nhw bryd hynny, o hyd. Dwi'n meddwl ein bod ni mewn mwy i'r pethe 'ma gan ein bod ni mor agos at Bennar a Blaenannerch ble wedd y soldiers a'r airmen."

Bu Edward Samuel ac Esther Rees yn rhannu eu hatgofion yn wreiddiol ar fws 主播大秀 Cymru.


Anfonwyd tri theulu n么l i fyw mewn cymuned lofaol yn Ne Cymru yn 1944.

Gogledd ddwyrain

Arfau cemegol

Ffatri gemegau

Cyfrinach hen safle arfau cemegol o'r Ail Ryfel Byd ger yr Wyddgrug.

Gogledd orllewin

Milwyr yn yr Aifft

Straeon rhyfel

O warchod yr Arglwydd Haw Haw i suddo llongau tanfor: atgofion lleol.

Canolbarth

Parti stryd

Diwrnod VE

Dathlu diwedd y rhyfel ac atgofion i蹿补肠颈飞卯蝉 gan bobl y canolbarth.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.