主播大秀

Ysbrydion: Cyflwyniad

Llusern

Esboniad naturiol i storiau disylwedd?

O bryd i'w gilydd bydd y papurau tabloid yn cyhoeddi ffotograff honedig o ysbryd, ond sut all camera meidrol dynnu llun rhywbeth goruwchnaturiol nad yw felly ar yr un 'donfedd' fel petai?

Y gwir yw bod yna esboniad naturiol cwbwl dderbyniol fel rheol.

Rhaid nodi hefyd fod amryw byd o'r llyfrau ar ysbrydion a gyhoeddir yn anfoddhaol gan gynnwys y rhan fwyaf o'r rhai a gyhoeddwyd am Gymru yn ystod y 35 mlynedd diwethaf.

Y maent bron yn ddieithriad yn arwynebol a disylwedd. Eu gwendid amlwg yw na nodant ffynonellau ac ni wn芒nt ond ailadrodd pethau di-sail, gor-ddweud a chreu deunydd eu hunain.

Sonia Peter Underwood, er enghraifft - awdur toreithiog yn y maes - am ysbrydion Arglwyddi Gathen yn rhodio gerddi Aberglasne yn Shir G芒r ac am ysbryd Dylan Thomas yn y Boat House yn Nhalacharn.
Mewn gair: nonsens!

Beirniadwyd yr un awdur, (a luniodd fynegeion daearyddol (gazetteers) o fannau lle ceir ysbrydion) mewn llyfr ardderchog gan Ian Wilson (y cyfeiriwn ato yn y man) am gyhoeddi calendr o ddyddiadau y mae ysbrydion arbennig yn ymddangos arnynt mewn mannau arbennig. Gan awgrymu felly y gallech fynd yno am dro i'w gweld!

Ni chymrodd Underwood y newidiadau fu yn hanes y calendr i ystyriaeth!

Llyfr digon defnyddiol

Ar y llaw arall caed llyfr digon defnyddiol gan Antony D Hippisley Coxe, 'Haunted Britain, A Guide to Supernatural Sites Frequented by Ghosts, Witches, Poltergeists and Other Mysterious Beings' lle dywed yn blaen yn ei ragymadrodd (tudalen 11):

"Carwn wneud yn glir er y gwneir datganiadau positif megis 'y mae ysbryd Ladi Lwyd yn trwblu'r castell' er enghraifft - y dylid cymryd fod hynny yn golygu y dywedir, tybir neu credir fod ysbryd felly yn y lle hwnnw".

Digon teg!

Ceir llawer o gyfeiriadau at ysbrydion o bob math yn y llyfrau safonol ar l锚n gwerin Cymru ac mae cyfrolau fel 'Folk-Lore of West and Mid Wales' a 'Coelion Cymru'. Cyfrolau prin iawn erbyn hyn yw gweithiau Mary Louisa Lewes 'Stranger Than Fiction' a 'The Queer Side of Things' ond mae toreth o ddeunydd am ysbrydion Cymru ynddyn nhw.

Caed casgliad helaeth o stor茂au ysbrydion Cymru gan y g诺r hynod hwnnw, y Parchedig Edmund Jones, Pontypwl, a cheir llawer o ddeunydd dadlennol yn 'The Appearance of Evil: Appirations of Spirits in Wales'.

Yn fwy cyffredinol rhaid cyfrif llyfrau James Wentworth Day ymhlith y goreuon: 'Ghosts and Witches' (sy'n cynnwys pennod - tudalen 85-113 - ac amryw o ddigwyddiadau o Gymru); 'A Ghost Hunter's Game Book' , ac am astudiaeth ddiddorol dros ben am fodolaeth ysbrydion buasai'n anodd maeddu 'In Search of Ghosts' 'In Search of Ghosts'.

Camgymeriad mawr

Bu tuedd i feddwl ym mhob oes fod ysbrydion yn perthyn i'r gorffennol. Camgymeriad hollol er hynny yw eu cysylltu 芒 thywyllwch ac ofergoelion oes a fu, oblegid daw profiadau annisgwyl i ran pobl oedd heb fod yn credu mewn ysbrydion ac nad oedd dim pellach o'u meddyliau.

Pwy na fyddai yn cytuno hefyd a'r Parchedig Job Miles a ddyfynnwyd yn 'Coelion Cymru' (tudalen 51-2):

"Nid wyf fi yn credu yn ymddangosiad ysbrydion, ond petai yn yr un heol ddau dy gwad cyn debyced i'w gilydd ag efeilliaid, a bod s么n yr ymwelai ysbryd ag un ohonynt, ni chymerai imi eiliad i benderfynu ym mha un y carwn fyw."

Rhaid cofio ar yr un pryd fod ein cyndadau yn ymwneud llawer mwy ag ysbrydion. Adrodd stor茂au i godi braw a dychryn oedd rhan sylweddol o'u hadloniant. Gwnaent hynny, er enghraifft ar Nos Calan Gaeaf pan oedd yn arferiad i ddarogan y dyfodol mewn gwahanol ffyrdd.

Mewn ambell ardal pwy bynnag fentrai at ddrws eglwys y plwyf am hanner nos, clywai lais mynwentol yn rhestru enwau'r rhai oedd i farw yn ystod y flwyddyn i ddod.

Neu mewn ardaloedd eraill, petai yn edrych drwy dwll y clo, gwelai ysbrydion y bobl rheiny. (Nid oedd s么n am ysbryd dyn byw - doppel盲nger yn beth cwbl ddieithr yng Nghymru).


Hanes

Croes Geltaidd

Hanes

Dilynwch hanes Cymru o'r Celtiaid, i'r Canol Oesoedd, hyd y cyfnod modern.

主播大秀 Lleol

Cymru o'r Gofod

主播大秀 Lleol

Oes ysbryd neu fwgan yn eich ardal chi, neu ydi pobl y gofod wedi ymweld a'r dref?

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.