Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Ysbryd Ysbrydion Bro Maelor

Erthygl gan Eirlys Gruffydd

Mae Bro Maelor yn cynnwys mwy nag un o'r saith rhyfeddod. Yma mae pont Llangollen, twr eglwys Wrecsam, clychau Gresffordd a choed ywen Owrtyn. Mae'n fro gyfoethog ei llên gwerin a'i thraddodiadau. Yma cawn nifer o chwedlau gwerin a hanesion am wrachod, dynion hysbys ac ysbrydion.

Un o'r chwedlau mwyaf cyfarwydd yw honno am eglwys Wrecsam, prif dre'r ardal. Yn ôl yr hanes ceisiwyd codi'r eglwys ar le o'r enw Bryn-y-Ffynnon, ond roedd beth bynnag oedd yn cael ei adeiladu yn ystod y dydd yn cael ei dynnu i lawr yn ystod y nos ac nid oedd y gwaith yn mynd yn ei flaen o gwbl.

Clywed llais lledrithiol

Trefnwyd bod dynion yn mynd yno gyda'r nos i wylio'r lle a gweld beth oedd yn digwydd. Ni welwyd dim ond roedd llais lledrithiol i'w glywed yn dweud 'Bryn y grog! Bryn y grog!'

Aeth y dynion at berchennog y tir hwnnw a gofyn iddo ei ryddhau er mwyn adeiladu eglwys arno. Cafodd ddarn o dir arall yn lle'r tir hwnnw ac adeiladwyd eglwys ar Fryn-y-grog - lle mae eglwys Wrecsam yn sefyll heddiw.

Adeilad diddorol arall yng nghanol y dref yw'r Wynnstay Arms. Rhai blynyddoedd yn ôl penderfynwyd ailadeiladu'r lle. Cadwyd wal flaen yr adeilad fel yr oedd ond cafodd popeth arall ei dynnu i lawr a'i ailadeiladu.

Yn ystod y cyfnod hwn gwelodd nifer o'r gweithwyr ysbryd hen ŵr yn symud drwy'r adeilad. Ar adegau byddai'n aros a gwylio'r dynion wrth eu gwaith.

Ceisiodd mwy nag un gynnal sgwrs ag ef ond bob tro y byddai rhywun yn ei gyfarch byddai'n diflannu. Roedd y gweithwyr yn credu mai ysbryd rhywun a fu'n byw neu'n gweithio yn yr adeilad flynyddoedd yn ôl ydoedd.

Mae rhai yn credu bod mwy o ysbrydion yn nhref Wrecsam nac yn unrhyw dref arall o'r un maint yng Nghymru ac mae ganddyn nhw lawer o straeon difyr i brofi'r pwynt.

Pethau rhyfedd yn digwydd

Yn 1986, er enghraifft, cymrodd cwmni yswiriant Barry Williams Associates feddiant o adeilad yn y stryd fawr ond yn fuan wedi iddyn nhw ddechrau gwneud newidiadau i'r lle dechreuodd pethau rhyfedd ddigwydd.

Roedd nifer o ddisgiau cyfrifiaduron yn cael eu cloi mewn stafell ar y llawr gwaelod dros nos ond erbyn bore trannoeth roedden nhw wedi eu gwasgaru ar draws y 'stafell ar lawr ucha'r adeilad - a hynny heb i'r un enaid byw fod ar eu cyfyl.

Am gyfnod bu'r tymheredd yn yr adeilad yn amrywio o fod yn oer iawn i fod yn annioddefol o boeth tra'r oedd y thermomedr yno yn aros yr un fath. Yna dechreuodd dŵr ollwng o gyfrifiadur a llungopïwr, a hynny gefn dydd golau tra'r oedd pawb yn y swyddfa yn gallu eu gweld. Ni chafwyd unrhyw esboniad ar y peth.

Yn y 1920au roedd ysbryd yn aflonyddu ar deulu oedd yn byw mewn tÅ· tri llawr yn Stryd Efrog. Ysbryd dyn a fu'n byw yn y tÅ· flynyddoedd lawer ynghynt ydoedd.

Bu farw yn y tŷ ar ôl syrthio i lawr y grisiau tra'n cario lamp olew a llosgodd i farwolaeth. Yn aml byddai'r teulu yn clywed sŵn fel rhywun yn syrthio i lawr y grisiau a swn gwydr yn malu a hyn yng nghanol nos.

Dyn yn cerdded trwy furiau

Unwaith gwelodd dau fachgen oedd yn byw yn y tŷ gannwyll yn llosgi yn symud ar draws y cyntedd heb neb ar ei chyfyl. Gadawodd y teulu'r tŷ a mynd i fyw i rywle arall ar ôl i ewythr y bechgyn weld dyn yn cerdded allan o un o'r muriau, ar draws y 'stafell a thrwy fur arall.

Yn Stryd Siarl mae siop a fu unwaith yn rhan o hen dafarn yn dyddio o 1627. Ar ddechrau'r ganrif hon cynheuodd tân yn y dafarn a chredir mai ysbryd un a fu farw yn y tân hwnnw sy'n crwydro'r adeilad.

Mae teulu'n byw mewn fflat uwchben y siop ac mae mwy nag un ohonyn nhw wedi ei weld gyda chwmwl o fŵg o'i gwmpas. Weithiau bydd sŵn yn dod o'r 'stafelloedd gwag, drysau'n cloi ar eu pennau eu hunain a'r tymheredd yn gostwng mewn rhannau o'r adeilad.

Ychydig filltiroedd o Wrecsam mae pentref Brymbo, lle a fu'n enwog unwaith am ei waith dur. Diflannodd hwnnw fel y diflannodd Plas Brymbo, adeilad cyfagos a godwyd tua 1624.

'Stafell yr ysbryd'

Am flynyddoedd bu pobol yr ardal yn sôn am y digwyddiadau hynod oedd yn digwydd yn y plas: drysau a ffenestri yn agor a chau a gwynt oer yn chwythu drwy'r lle. Roedd yno un 'stafell a gafodd ei henwi yn 'stafell yr ysbryd ac roedd cŵn yn ofni mynd iddi.

Yn ôl yr hanes roedd gwledd fawr wedi ei pharatoi yn y plas un noson gan fod merch y tŷ yn dathlu ei phen-blwydd yn un ar hugain oed. Roedd ei rhieni hefyd yn dathlu eu dyweddïad ond nid oedd y ferch yn hapus am nad oedd eisiau priodi ei darpar ŵr.

Heb i neb sylwi gadawodd y wledd a chrogi i hun yn 'stafell un o'r morynion. Roedd pobol yr ardal yn credu mai ei hysbryd anniddig hi oedd yn crwydro'r plas.

Flynyddoedd lawer yn ôl roedd glöwr o ardal Rhiwabon yn cerdded adref heibio'r eglwys yn hwyr un noson pan welodd angladd yn dod tuag ato. Gallai adnabod nifer o'r bobol oedd yn dilyn yr arch ac roedd yn eu clywed canu. Synnodd wrth weld yr angladd yn mynd heibio'r eglwys ac at dŷ cyfagos.

Un prynhawn, ychydig ddyddiau wedyn, gwelwyd gorymdaith angladdol yn y pentref. Sylwodd y glöwr fod yr un pobol yn union yn dilyn yr arch ag a welodd gynt a'r un emyn yn cael ei chanu. Aeth y dyrfa heibio'r eglwys i dŷ cyfagos lle rhoddwyd y corff i orffwys dros nos yn barod at y claddu drannoeth.

Roedd y dyn ifanc a fu farw wedi bod yn gweithio yn Lloegr ac wedi cael dod adref i orffwys ar ei hen aelwyd am y tro olaf. Roedd y glöwr wedi gweld y toili ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad ei hun.

Gwraig â gorchudd dros ei phen

Hanes diddorol arall yw'r stori o ardal Cefn-Mawr. Flynyddoedd lawer yn ôl roedd glöwr ar ei ffordd i'w waith un bore pan welodd wraig yn cerdded tuag ato a gorchudd dros ei phen.

Pan aeth y wraig at y bont dringodd ar ben y wal fel pe bai am neidio. Aeth y glöwr ati a'i rhwystro rhag gwneud y fath beth ond diflannodd y wraig.

Roedd y glöwr wedi dychryn yn ofnadwy a phenderfynodd fynd adref yn hytrach na mynd ymlaen i'r pwll. Awr yn ddiweddarach clywodd sain corn y gwaith yn cyhoeddi fod damwain wedi digwydd. Roedd tri o'i gydweithwyr wedi eu lladd.

Mae ysbryd merch fach mewn dillad o gyfnod Fictoria i'w gweld yn crwydro fflatiau newydd a gafodd eu codi yn gymharol ddiweddar ym mhentref Rhosymedre.

Chwilio am ei hen gartref

Mae'n debyg bod clamp o dÅ· mawr yn sefyll ar y safle unwaith a theulu pedair o ferched yn byw ynddo. Llosgwyd y tÅ· i'r llawr rhywdro yn ystod y 19eg ganrif ac mae'n amlwg bod un o'r merched yn dal i chwilio am ei hen gartref o hyd.

Yn y gorffennol roedd pentref Acrefair yn ganolfan i'r diwydiant priddfeini ac roedd nifer o ffwrnesi yn yr ardal. Roedd y bobol wedi hen arfer gweld trempyn yn crwydro o gwmpas yn cardota a roedd pawb yn gwybod ei fod yn cysgu wrth ymyl y ffwrneisi yn y gaeaf am fod digon o wres i'w gael yno.

Un noson eithriadol o oer aeth y trempyn i gysgu tu mewn i ffwrnais oedd yn llawn briciau heb eu crasu. Drannoeth, yn gynnar yn y bore, daeth dau weithiwr at y ffwrnais a chlywed gwaedd ofnadwy, gwaedd dyn wrth iddo losgi i farwolaeth.

Un o gampweithiau pensaernïol yr ardal yw pont Froncysyllte. Mae'n debyg bod nifer o weithwyr wedi eu lladd wrth godi'r bont a does rhyfedd felly fod ambell i ffurf ledrithiol i'w weld yn croesi'r bont am hanner nos ar ambell noson dawel yn dystiolaeth o'r bywydau a aberthwyd i wireddu breuddwyd Thomas Telford.

Gweld byddin ledrithiol

Gwelwyd miloedd o ysbrydion yn Nant-y-Ffrith ger Bwlchgwyn ym 1602. Dyffryn dwfn, coediog yw Nant-y-Ffrith ac ni chafwyd esboniad eto pam y gwelwyd byddin ledrithiol yno gan wyth neu naw o dystion.

Cofnodwyd y digwyddiad gan hanesydd lleol, Robert Parry. Dywedodd fod dwy neu dair mil o ddynion arfog yn marchogaeth drwy'r dyffryn gan gario baneri a'i bod yn amlwg mai byddin oedd yma ar ei ffordd i faes y gad.

Gerllaw Wrecsam i gyfeiriad Swydd Gaer mae pentrefi Yr Orsedd a Marffordd. Ynddyn nhw mae nifer o adeiladau diddorol a hynafol ac wrth gwrs mae ganddyn nhw eu hysbrydion.

Pan fydd plant Yr Orsedd yn hwyr yn dod i'r tŷ gyda'r nos bydd y mamau'n gweiddi: "Bydd yr hen Jeffrey'n siwr o dy ddal di!' Drwgweithredwr o'r 17eg ganrif oedd Jeffrey. Ymosododd ar weithiwr cyffredin o ardal Rhuthun ger Gresffordd a'i adael bron â marw cyn rhedeg i ffwrdd.

Crogi dihiryn

Ond ni fu'r dyn druan farw a gwellodd yn ddigon da i roi tystiolaeth yn erbyn Jeffrey. Daliwyd y dihiryn a'i grogi yng ngharchar Rhuthun. Cafodd ei gorff ei gludo yn ôl i'r Orsedd a'i osod ar grocbren yng nghanol y pentref a'i adael i bydru yno.

Aeth rhai blynyddoedd heibio a'r sgerbwd hyll yn poeni'r trigolion. Tynnwyd y corff i lawr a'i gladdu yng nghanol y pentref. Malwyd y grocbren yn ddarnau ond cafodd peth o'r pren ei ddefnyddio i atgyfnerthu rhan o dafarn y Llew Aur, lle gellir ei weld hyd heddiw.

Dros y blynyddoedd bu nifer o ddigwyddiadau rhyfedd iawn yn y dafarn, gwydrau yn tincian y tu ôl i'r bar yn gynnar yn y bore bach pan nad oedd neb o gwmpas, ac ambell wydr yn syrthio a malu'n deilchion.

Ar adegau eraill mae nifer o bobol wedi bod yn ymwybodol o bresenoldeb dyn mewn dillad gwladaidd hen-ffasiwn yn sefyll yn un o'r llofftydd neu ar y landin. Tybed ai Jeffrey ydi o?

Methu cael heddwch

Ysbryd na fedrodd gael heddwch yn ystod ei dydd, nac wedi hynny chwaith, sy'n poeni pobol Marffordd. Ym 1713 llofruddiwyd Margaret Blackbourne, gwraig fonheddig oedd yn byw yn Neuadd-y-rofft, gan ei gŵr, George. Ef oedd stiward ardal Marffordd a Hosley. Roedd yn ddyn anfoesol a bu'n anffyddlon i'w wraig droeon.

Nid oedd Margaret yn gallu dioddef mwy a gofynnodd iddo gyfaddef ei fod yn cael perthynas gyda gwraig arall. Aeth yn ffrae rhyngddyn nhw ac aeth pethau o ddrwg i waeth. Taflodd George hi i lawr y grisiau yn ei gynddaredd meddw a bu Margaret farw yn y fan a'r lle.

Cynhaliwyd cwest i'w marwolaeth ond gan mai perthynas i George Blackbourne oedd y crwner rhoddwyd dedfryd o farwolaeth drwy ddamwain. Chwe mis yn ddiweddarach priododd George ferch ifanc o'r ardal ac aeth y ddau i fyw i Neuadd-y-rofft.

Crwydro drwy bentref Marffordd

Ond byr fu eu hapusrwydd. Yn fuan wedi'r briodas gwelwyd Margaret yn crwydro drwy bentref Marffordd. Roedd yn curo ar ffenestri'r tai ac yn edrych drwyddyn nhw wrth fynd ar ei thaith i gyfeiriad ei hen gartref. Roedd y pentrefwyr wedi dychryn yn ofnadwy.

Unwaith y cyrhaeddai Neuadd-y-rofft byddai'n crwydro drwy'r 'stafelloedd gan ochneidio nes dod at 'stafell wely ei gŵr a'i wraig newydd.

Byddai'n sefyll y tu allan i ddrws y 'stafell honno drwy'r nos. Amharodd ei chrwydro ar heddwch George a'i wraig a symudodd y ddau i Neuadd Trefalun yn Yr Orsedd. Ond doedden nhw ddim yn gallu dianc rhag Margaret oherwydd dilynodd hwy i'r fan honno a gwneud eu bywyd yn ddiflas.

O'r diwedd aeth archddiacon at fedd Margaret a pherfformio seremoni i dawelu'r ysbryd. Yn y cyfamser aeth pobol Marffordd ati i'w hamddiffyn eu hunain drwy greu ffenestri bach ar siâp croesau a llygaid ar furiau eu tai gan obeithio y bydden nhw'n cael llonydd gan yr ysbryd. Mae'n rhaid ei bod bellach yn gorffwys mewn hedd gan nad oes neb wedi ei gweld ers amser.

Profiad dirdynnol

Daeth profiad dirdynnol i ran dyn o Gresffordd rhywdro yn ystod y 19eg ganrif. Roedd William Davies, adeiladwr o Marffordd, a'i gyfaill John Williams o Gresffordd yn cerdded i gyfeiriad Acton Leiaf pan welodd y ddau wraig mewn gwyn yn cerdded tuag atynt.

Wrth iddi ddod yn nes sylweddolodd John Williams mai ei wraig ydoedd a bod golwg wyllt ar ei hwyneb gwelw. Cerddodd heibio heb gymryd unrhyw sylw ohonyn nhw, roedd fel pe na bai hi wedi eu gweld nhw o gwbwl.

Aeth ei gwr adref i Gresffordd gan ofni bod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd a phan gyrhaeddodd y ty gwelodd bod ei wraig wedi crogi ei hun.

Gobeithio y bydd yr holl ymwelwyr fydd yn heidio i'r fro eleni yn cael tipyn o bleser wrth gerdded ffyrdd Bro Maelor, a gobeithio na welant ormod o'r ysbrydion sy'n crwydro'r ardal ddiddorol hon!

Mae Y Clawdd yn ddiolchgar i awdur yr hanes yma - Eirlys Gruffudd - am ei chaniatâd i gyhoeddi'r manylion. Ymddangosodd yn y cylchgrawn Llafar Gwlad a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch Llanrwst ym 1991 o dan y testun Ysbrydion Clwyd hefyd gan Eirlys Gruffudd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý