主播大秀

Ysbrydion: Cyflwyniad

Llusern

Ydych chi wedi gweld ysbryd? Ydych chi'n cael y teimlad o bresenoldeb rhyfedd yn yr ystafell yn y nos? Cyflwyniad y Parchedig Towyn Jones i fyd yr ysbrydion.

Gan y Parch. Towyn Jones

Aeth teithiwr ar dr锚n un noson mewn gorsaf unig ym mherfeddion gwlad, yn y dyddiau pan oedd pob cerbyd tr锚n ar wah芒n, a dim modd mynd o un i'r llall rhwng y gorsafoedd.

Wrth i'r tr锚n bwffian ei ffordd i'r tywyllwch sylweddolodd fod rhywun eisoes yn eistedd yng nghornel y cerbyd. A'r peth nesaf, dyma hwnnw'n gofyn:

"Ydych chi'n credu mewn ysbrydion?" "Nac ydw, wir!" atebodd y dyn yn galonnog.

"O," meddai'r g诺r yn y gornel, "rydw i yn..." a diflannu

Dyna stori ysbryd. Y math o stori a adroddwyd erioed. Stori wrth fodd y mwyafrif am ei bod yn cyfuno dirgelwch, y goruwchnaturiol ac ofn yr anhysbys.

Nid stori arswyd (neu horror story) mohoni gan mai'r elfen anesboniadwy ynddi sydd yn ein brawychu - yr anghyfarwydd.

I ben draw mynwent

Rhowch y peth fel hyn.
Beth petai rhywun yn gofyn i chi fentro i ben draw mynwent fawr i mofyn rhywbeth a 'blannwyd' yno ymlaen llaw gerllaw carreg fedd arbennig - ar brynhawn heulog braf o haf?

Fe ai unrhyw un ar unwaith - yn enwedig a bod gwobr o ryw fath! Ond beth petai disgwyl ichi wneud yr un peth ar noson dywyll o aeaf? Nid pawb wn芒i fentro.

Er gwaethaf y ffaith nad oes llawer o stor茂au ysbrydion dilys am hen fynwentydd, buasai'r tywyllwch, y naws hynafol, y llan, a'r tab诺 a berthyn i gyrff marw yn ddigon i beri anniddigrwydd (gweler rhagymadrodd 'Borley Cymru' ).

Ai ofn yr anhysbys felly, a dim arall fyddai ar waith neu a oes y fath beth ag ysbrydion?

Roedd pawb yn credu ynddyn nhw 'slawer dydd, a phob gwareiddiad yn rhoi pwyslais arnynt mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Tueddu wnawn ni bellach, mewn oes faterol, i wfftio eu bodolaeth a dilorni cred ynddynt.

"Dwyt ti ddim yn credu yno'i, wyt ti?" meddai ei hen bartner Joseph Marley (a fu farw saith mlynedd i'r noson honno) wrth yr hen gybydd bydol Ebenezer Scrooge.
"Nadw, ddim!" "Pam wyt ti'n amau dy synhwyrau?"
"Am fod rhywbeth bach yn effeithio arnyn' nhw" medd Scrooge. Ychydig o'i le ar y cylla ac mi all dyn gael ei dwyllo.
"Falle mai tamaid o gig eidion heb ei dreulio wyt ti, tamaid o fwstard, briwsionyn o gaws, taten heb ddigoni. Mae mwy o'r cylla nag o'r gladdfa yngl欧n 芒 thi, beth bynnag wyt ti."

'Pob cenedl yn credu'

Ar y llaw arall mae Charles G. Harper, awdur llyfr difyr dros ben ar ysbrydion, sef 'Haunted Houses', yn dyfynnu pennill o waith Byron ar y wyneb-ddalen.

Cytunai a'r polymath hwnnw Dr. Johnson fod pob cenedl, yng nghwrs chwe mil o flynyddoedd, wedi credu fod rhywun yn dod 'n么l o blith y meirw bob hyn a hyn.

A'r peth rhyfedda yw, meddai, pa wrthwynebiad bynnag i'r fath gred mae rheswm yn rhoi, ma' na rhywbeth cryfach drosti o hyd.

Wrth gwrs mae'r gred yngl欧n 芒 beth yn hollol yw ysbryd wedi amrywio dros yr oesoedd. Am drafodaeth syml, ddarllenadwy a dibynadwy ar agweddau gwahanol ddiwylliannau at ysbrydion gweler 'World of Ghosts'.

Newidiodd safbwyntiau o oes i oes. Peth gwahanol iawn mewn llawer ffordd fyddai ysbryd yn Oes Fictoria i ysbryd yng Ngroeg Glasurol neu Ewrop y Canol Oesoedd.

Yr astudiaeth orau mewn dyfnder o'r gwahaniaethau hyn yw 'Appearances of the Dead: A Cultural History of Ghosts'.

Gwna Dr. Finucane yn glir ar y dechrau iddo fabwysiadu'r un agwedd wrth drafod ysbrydion ag a wnaeth y seicolegydd enwog Dr Carl Jung wrth drafod y gred Gristnogol yn y geni gwyrthiol, sef trafod y gred honno yn hytrach nag a oedd yn wir neu beidio.

Beth yw ysbryd?

Rhaid cydnabod mai damcaniaethu ofer a wna llawer o'r llyfrau dirifedi a gyhoeddwyd ar ysbrydion pryd bynnag y mentrant geisio diffinio beth yw ysbryd.

Enaid coll? Y rhan ysbrydol o berson wedi mynd ar gyfeilion ar 么l marw?

Rhyw ddigwyddiad yn y gorffennol wedi argraffu ei hun mor ddwfn ar ei amgylchedd (llofruddiaeth, hunanladdiad, dienyddiad ac ati) nes ei fod mewn rhyw ffordd ryfedd yn ailymddangos o dan amgylchiadau arbennig?

(Buasai hynny yn esbonio pam fod cynifer o dystion yn honni iddynt weld yr ysbryd yn mynd drwy ddrws nad yw yno bellach neu yn cerdded ar lawr oedd ar lefel wahanol).


Hanes

Croes Geltaidd

Hanes

Dilynwch hanes Cymru o'r Celtiaid, i'r Canol Oesoedd, hyd y cyfnod modern.

主播大秀 Lleol

Cymru o'r Gofod

主播大秀 Lleol

Oes ysbryd neu fwgan yn eich ardal chi, neu ydi pobl y gofod wedi ymweld a'r dref?

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.