主播大秀

Ysbrydion: Cyflwyniad

Llusern

Ysbrydion - pethau y gall pawb eu gweld?

A oedd - neu a yw - pawb yn agored i weld y pethau hyn, neu a oes angen i rywun fod yn seicig - hynny yw, wedi ei eni 芒 'r ddawn neilltuol i allu gweld ysbrydion?

Clywais Sarah Rees, Pen-l么n a fu farw yn 1966 yn 95 oed yn s么n am ei phorthmon o dad yn dod adref yn hwyr o ffair anifeiliaid un noson, ac yn galw arni allan i'r clos.

Mynnai iddi gael y cyfle i weld Cannwyll Gorff a phwyntiodd draw at gornel mynwent eglwys plwyf Penboyr, ond ni welodd hi ddim.

Codwyd hi ar ben wal y twlc mochyn i roi gwell cyfle iddi ond eto ni allai weld dim.

"Gafael yn fy llaw" meddai ei thad a'r foment honno, trosglwyddwyd rhyw allu oddi wrtho iddi hithau a gwelai'r golau.

Cyn bo hir wedyn, claddwyd rhywun wrth dalcen yr eglwys, yn y gornel lle bu'r gannwyll yn llosgi.

Eto, ar y cyfan nid yw'r ddamcaniaeth hon yn gwneud llawer o synnwyr gan mai profiadau'r rhai hynny na ddigwyddodd dim arall o'r fath iddynt erioed yw'r rhai mwyaf argyhoeddiadol o'r cyfan a dyma hanes profiad John James sydd i'w weld yn llawn yn 'Rhag Ofn Ysbrydion' :

Does dim mynachod yn Nhalyllychau heddiw dim ond olion hen ysblander, rhin rhyw dangnefedd hynaws a thwristiaid achlysurol yn galw heibio.

Cyfuniad od ar un olwg ond un sy'n gweithio, rywsut. Serch hynny, ymddengys nad yw pawb a fu ar gerdded yno yn dawel ei feddwl.

Ei ddeffro gan s诺n dienaid

Rhwng dau a thri y bore, un noson, rywdro tua 1974, cafodd preswylydd lleol, John James - a fu farw Awst 18, 2008 yn 72 oed - ei ddeffro gan s诺n dienaid ei gi yn cyfarth.

Bob oedd enw'r ci a chysgai'r nos mewn cwt o flaen y t欧.

Yn 么l ei berchennog, doedd Bob ddim yn gyfarthwr ffyrnig fel rheol ond does dim gwadu nad oedd yn cyfarth ac yn cyfarth yn gas ar y noson honno.

O gael ei ddeffro gan y fath udo, cododd John i'r ffenestr i geisio gweld beth ar y ddaear allai fod wedi cynddeiriogi'r ci gymaint. Hwyrach y byddai 'cynddeiriogi annaearol' yn nes ati. Yn sicr, fe'i syfrdanwyd gan yr hyn a welodd.

Yn symud heibio'u cartref i gyfeiriad Talyllychau, yn un llinell yng ngolau'r lloer, yr oedd gosgordd o wyth mynach mewn urddwisgoedd gwynion.

Roedd pob un ohonyn nhw'n cario cannwyll wedi ei goleuo. Daliodd John i edrych arnynt yn symud yn araf i fyny'r ffordd nes aethant o'r golwg. Digon tebyg felly iddo fod yn eu gwylio am rai munudau. Yr unig s诺n, mae'n debyg, oedd cyfarth y ci.

Er ei bod yn ystrydeb, ni allai John James fynegi ei deimlad ond trwy ddweud ei fod 'yn ffaelu 芒 chredu ei lygaid'. Cafodd y fath sioc, meddai, fel ei fod yn credu '...y byddai ei galon yn stopio'.

Un noson, a'r teulu yn digwydd bod ynghyd, dechreuodd John adrodd ei brofiad hynod. 'Stopiwch, John!' meddai ei chwaer-yng-nghyfraith, a dyma hi'n dechrau adrodd yr union brofiad y bu ef ar fin s么n amdano.

Pan oedd hi'n ddisgybl ysgol gynradd cawsai hithau'r un profiad.

Profiad Simon Ratty

Neu beth am brofiad Simon Ratty, sydd hefyd i'w weld yn llawn yn 'Rhag Ofn Ysbrydion':

Yn hwyr un noson yn hydref 1999, roedd Simon Ratty, dyn ifanc yn ei ugeiniau o Lwynmeredith, Caerfyrddin, yn cerdded adref o Langynnwr.

Nid oedd y ffordd osgoi newydd wedi ei chwblhau ond defnyddiodd y bont newydd a chymryd llwybr tarw rhwng afon Tywi a'r rheilffordd, i gyfeiriad Parc Hinds ym mhen dwyreiniol y dref.

Cyrhaeddodd y g芒t gyferbyn 芒'r byngalo ym mhen draw Rhes yr Hen Brior a chroesi'r ffordd i ddilyn Heol yr Hen Brior i fyny i Heol y Prior.

Yr oedd yn noson oer, sych, ond heb fod yn dywyll iawn. Y foment y daeth rownd y gongl i'r fan lle'r oedd y ffordd o'i flaen yn unioni, daliodd rhywbeth ei lygad ac o'i flaen, yn gwbl glir, gwelai fynach a'i ben yn gwyro ychydig ac o'r golwg dan gwfl, yn croesi ar draws ei lwybr ychydig bellter ymaith.

Gan fod y mur o gryn uchder bob ochr i Heol yr Hen Brior yr holl ffordd i fyny, ymddangosodd y ffigwr drwy'r wal ar y naill ochr a diflannu drwy'r llall.

Sut mae rhywun yn ymateb i brofiad od fel yna?
Myn rhai y bydden nhw'n ymateb gyda phwyll a diddordeb mawr tra bo eraill yn fodlon cyfaddef mai arswydo a wnaent.

I'r ail ddosbarth y perthynai Simon Ratty a rhedodd yn 么l i waelod y ffordd a mynd nerth ei sodlau ar draws caeau Parc Hinds.

Pan gyrhaeddodd adref, pwniodd y drws i ddihuno ei fam a phan welodd hi ef, credodd yn saff fod rhywun wedi cael ei ladd gan fod ei mab yn wyn fel y galchen ac wedi ei barlysu gan ofn.

Adfeilion

Goroesodd adfeilion sylweddol y Priordy nes iddynt gael eu dymchwel yn llwyr gan Arglwydd Cawdor ddiwedd y ddeunawfed ganrif er mwyn adeiladu gwaith smeltio plwm ar y safle.

Fodd bynnag, achubwyd T欧'r Prior (neu'r gwesty) am gyfnod eto ond ym mis Awst 1855, tynnwyd hwnnw i lawr hefyd ac yntau erbyn hynny wedi ei orchuddio 芒 iorwg.

Cynhaliwyd Ysgol Ramadeg yno o hyd a bu gwaith tunplat enwog ar y safle.

Cloddio gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, yn 1979, fodd bynnag, ddatgelodd safle Eglwys y Prior a'r adeiladau o'i chwmpas.

Ar y gongl a basiodd Simon Ratty yn union cyn gweld y ddrychiolaeth, ceir bellach fwrdd yn croniclo braslun o hanes y safle ac wrth ei gefn mae'r unig ddarn o fur gwreiddiol y priordy sy'n aros ac yno, wrth ei droed, y mae'r fan lle daethpwyd o hyd i sawl sgerbwd.

Ond yr hyn sy'n wirioneddol ddiddorol, o ystyried yr hyn a ddatgelwyd gan y cloddio yw sylweddoli i'r ysbryd a welodd Simon Ratty gerdded ar hyd y fan lle bu corff - nave - y Priordy, neu ar lwybr yn cydredeg ag ef.


Hanes

Croes Geltaidd

Hanes

Dilynwch hanes Cymru o'r Celtiaid, i'r Canol Oesoedd, hyd y cyfnod modern.

主播大秀 Lleol

Cymru o'r Gofod

主播大秀 Lleol

Oes ysbryd neu fwgan yn eich ardal chi, neu ydi pobl y gofod wedi ymweld a'r dref?

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.