主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Sbaen Newydd
Gwion Lewis - ein harbenigwr ar faterion rhyngwladol - yn trafod tro ar fyd yng Nghatalonia

Mawrth 2006
Nid oes y fath beth â'r genedl Gymreig.
Dyna ganlyniad tair awr o ymchwil diflino ar eich rhan mewn llyfrgell gyfreithiol yn Llundain y bore yma.

Ar senedd Sbaen yr oedd y bai am hynny, oherwydd iddi roi sêl ei bendith yr wythnos hon ar ddeddf sy'n cydnabod fod Catalonia yn "genedl".

Ni ellir gorbwysleisio arwyddocâd y cam hwn.

Chwilio'n ofer y mae rhywun yng nghyfreithiau Prydain am ddiffiniad o statws y darn hwnnw o dir a elwir 'Cymru'.

Ran amlaf, bydd ein cyfreithiau - gan gynnwys Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 - yn llwyddo i osgoi'n gelfydd yr angen i roi diffiniad o'r fath, ond yn yr achosion prin hynny lle cyfeirir at y 'genedl', mae'n amlwg mai'r genedl Brydeinig a olygir.

Prydeinwyr ydym yn ôl ein pasportiau, a rhan o'r aelod-wladwriaeth Brydeinig yw Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd, nid gwlad yn sefyll ar ei thraed ei hun.

Nid yw'r ddeddf newydd ar gyfer Catalonia yn mynd mor bell â'i gwneud yn annibynnol ar Sbaen, ond dyma'r cynllun datganoli mwyaf pellgyrhaeddol a welwyd yn y wlad ers marwolaeth yr unben, Ffranco, yn 1975.

Mwy o reolaeth
O dan y cynllun hwn, bydd gan y Catalaniaid fwy o reolaeth dros eu heconomi, a'r rhyddid i benodi eu barnwyr eu hunain.

Efallai nad yw hynny'n ddigonol i aelodau Plaid Weriniaethol Catalonia, a bleidleisiodd yn erbyn y mesur, ond mae'n ddigon sylweddol i beri i'r Blaid Boblogaidd geidwadol gychwyn achos cyfreithiol i geisio ei drechu.

Bydd yn rhaid i bobl Catalonia eu hunain roi sêl eu bendith ar y cynllun mewn refferendwm fis Mehefin cyn iddo ddod yn gyfraith gwlad, ond bu eleni yn flwyddyn galonogol i leiafrifoedd cenedlaethol Sbaen hyd yn hyn.

Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd y mudiad arfog, ETA, na fydd bellach yn defnyddio trais yn ei ymgyrch i sicrhau annibyniaeth i Wlad y Basg, ardal yng ngogledd Sbaen a de-orllewin Ffrainc.

O reidrwydd y bu'n rhaid iddo wneud hynny yn ôl rhai, gan fod y mudiad bellach yn un mor fychan. Credir fod gan ETA gyn lleied â deg ar hugain o aelodau gweithredol erbyn hyn oherwydd fod heddluoedd Sbaen a Ffrainc wedi cydweithio'n effeithiol i'w harestio a'u gwahanu fel rhan o'r 'rhyfel' rhyngwladol yn erbyn terfysgaeth.

Ond ni ellir datgysylltu datganiad ETA oddi wrth y newid a welwn ar hyn o bryd yn y berthynas rhwng Sbaen a Chatalonia.

Egwyddorion cyffredinol
Er bod y ddeddf a basiwyd ym Madrid yr wythnos hon yn cyfeirio'n benodol at Gatalonia, y mae'r egwyddorion ynddi yr un mor berthnasol i leiafrifoedd cenedlaethol eraill Sbaen, ac o safbwynt cyfreithiol, y mae ganddynt yr hawl i ddibynnu ar yr egwyddorion hynny mewn llys barn.

Yn sicr, nid Catalonia yn unig oedd yn cael sylw pan oedd y ddeddf yn cael ei thrafod yn y senedd: ar draws y pleidiau, fe'i gwelwyd fel deddf yn cychwyn ar broses o drosglwyddo grym o'r brifddinas i'r "rhanbarthau".

Graffiti ETA yn arwydd o anghydfodNid cyd-ddigwyddiad, felly, oedd i ETA gyhoeddi ei fod yn ei ymrwymo ei hun i'r broses ddemocrataidd wrth i'r Catalaniaid gael eu gwobrwyo am gydweithio'n heddychlon â Madrid.

Mae'n ymddangos nad datganiad cwbl wirfoddol ydoedd, ychwaith. Bu cryn amheuaeth ers misoedd fod awdurdodau Sbaen yn cynnal trafodaethau cyfrinachol ag arweinwyr ETA y tu ôl i ddrysau caeedig.

Pa mor ddidwyll bynnag yw'r mudiad ar hyn o bryd, nifer dethol iawn bellach fyddai'n cefnogi unrhyw ymgais i ailgodi'r arfau.

I ryw raddau, gellid dadlau mai i sefydliadau rhyngwladol fel Cyngor Ewrop y mae'r diolch am hyn.

Wrth ddod â gwledydd at ei gilydd i gytuno ar fesurau fel y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ac, yn fwy diweddar, y Siartr ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol, llwyddwyd i greu diwylliant gwleidyddol sydd o blaid lleiafrifoedd ar draws y Cyfandir.

Ar ben hynny, mae aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn amodol ar barchu hawliau lleiafrifoedd.

Wedi 9/11
Fodd bynnag, fel llawer o'r sefyllfaoedd sy'n codi rhwng grwpiau diwylliannol heddiw, ni cheir darlun llawn o'r berthynas rhwng Sbaen a'i lleiafrifoedd heb ystyried effaith Medi 11, 2001, a'r hyn ddigwyddodd wedi hynny.



Ers i'r awyren gyntaf daro Canolfan Fasnach y Byd yn Efrog Newydd, dichon y bu'n fwy anodd nag erioed i gyfiawnhau trais fel rhan o ymgyrch wleidyddol.

Gwelwyd ymosodiadau gan al-Qaeda ar raddfa na welwyd o'r blaen, yn eu plith cyfres o ffrwydradau ar drenau Madrid ddwy flynedd yn ôl a laddodd 173.

I fudiad arfog lwyddo, mae'n rhaid iddo fod yn fwy penderfynol na'r llywodraeth, ond cymaint yw'r awydd ymysg arweinwyr y Gorllewin a thrwch ei phoblogaeth i drechu'r her derfysgol newydd, mae'n bur amhosibl i fudiadau cenedlaethol ffynnu.

Pendraw'r rhesymeg hwn, wrth gwrs, yw na fyddai ETA wedi rhoi'r gorau i'w arfau oni bai am derfysgaeth Foslemaidd.

Ar yr olwg gyntaf, mae eironi'r casgliad hwnnw yn rhy boenus i'w ddadansoddi ymhellach. O edrych arno eto, serch hynny, sylwn nad yw ond yn pwysleisio methiant eithafiaeth i drechu grymoedd cymedrol.

Wedi'r dinistr a'r gyflafan, democratiaeth yw llwybr dewisedig cenhedloedd y Sbaen newydd.




cysylltiadau
ETA



Erthyglau eraill gan Gwion Lewis

Gwion Lewis

ewrop

Sbaen
Llythyr o Sbaen

ETA - eto

ETA - cwestiwn ac ateb

Y Sbaen Newydd

Barcelona

Ar fws ym Marcelona




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy