主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sudan - nyrs o Gymru yn gweld adfyd a gobaith
Bu'r newyddiadurwraig Lowri Rees yn sirad a nyrs sydd newydd dreulio saith mis ymhlith y newynog yn Sudan

Mehefin 2005
Mae nyrs o Gymru a fu'n gweithio'n wirfoddol yn y Sudan wedi dychwelyd adref.

Treuliodd Elin Mererid Jones, 29, o Rosygwaliau ger Y Bala, saith mis ymhlith y newynog yno.Gwirfoddolodd i fynd i Affrica yn 2002 ar ôl ymuno â grŵp gwirfoddol sy'n arbenigo mewn cynnig cymorth i ddioddefwyr mewn nifer o wahanol wledydd y Byd.

"Mae Medecins Sans Frontieres yn fudiad annibynnol blaenllaw sydd yn delio gyda chymorth meddygol brys," meddai Elin wrth 主播大秀 Cymru'r Byd.

80 o wledydd
"Mae'n gweithio erbyn hyn mewn 80 o wledydd yn rhoi cymorth i ddioddefwyr rhyfel, i rai sy'n dioddef oherwydd trychinebau naturiol ac i eraill sy'n dioddef o afiechydon," meddai.

Ers dychwelyd adref bu'n sôn am y gwaith gwerthfawr sy'n cael ei wneud wrth fudiadau a chymdeithasau gan ddangos lluniau a sleidiau i godi ymwybyddiaeth o waith MSF.

ElinDywedodd y bydd yn dychwelyd i un o wledydd y trydydd byd wedi iddi gael ychydig amser adref gyda'i theulu a'i ffrindiau.

"Mae'n bwysig iawn codi ymwybyddiaeth am safon iechyd a'r amodau byw yn Humera, Ethiopia a Darfur yn Sudan. Mae'n bwysig bod pobl Cymru yn deall y caledi sydd yng ngwledydd y trydydd byd," meddai.

Yn 2003 bu i Elin dreulio blwyddyn yn Humera, Ethiopia, yn rhan o brosiect yn rhoi gofal meddygol a chyngor i ddioddefwyr HIV ac AIDS.

Cannoedd o famau
Bu'n brofiad mor werthfawr fe'i penodwyd gan MSF i fynd am gyfnod o saith mis i Darfur yn y Sudan.

"Wedi imi gyrraedd Sudan, bu imi ymweld â'r campws mwyaf. Roedd dros 80,000 mil o bobl yno.

"Roeddwn wedi fy mhenodi yn nyrs yn un o'r canolfannau gofal dyddiol ar gyfer plant yn dioddef o ddiffyg maeth.

"Ar y diwrnod cyntaf bu i dri o blant bach farw a doedd dim byd y gallwn ei wneud i'w helpu," meddai.

"Roedd cannoedd o famau yn aros y tu allan gyda'u plant oedd yn dioddef ac yn aros i gael cyngor meddygol. Roedd hi'n anodd iawn imi addasu a deall difrifoldeb y sefyllfa.

"Roedd y bobl wedi ffoi o'u cartrefi mewn ofn o'r milisia.

"Wrth edrych i bob cyfeiriad roedd hi'n amhosib gweld terfynau'r campws gan fod cymaint o bobl a oedd yn dioddef yn aros am gymorth meddygol," meddai.

Gwelodd oedolion a phlant yn marw.

a "Gall profiadau fel hyn fod yn emosiynol iawn," meddai.

Profiadau calonogol hefyd
"Ond roedd yna brofiadau calonogol hefyd, yn enwedig pan fo plentyn difrifol wael yn gwella yn dilyn triniaeth yn y campws.

"Mae meddwl ichi fod â rhan yn yr adferiad yn deimlad gwefreiddiol," meddai.

Dywed fod MSF yn gyfrifol am newidiadau sy'n achub bywydau yn Sudan.

"Mae gweld babi yn cyrraedd y campws mewn cyflwr sy'n cael ei ddisgrifio yn Saesneg fel old man's face gyda phob asgwrn yn y corff yn y golwg, yn medru bod yn anodd.

"Ond mae gweld y babi yn gwella ac yn cryfhau dros yr wythnosau yn deimlad bythgofiadwy," meddai.

Canolfan fwydo
Eglurodd mai un o'r prif broblemau sy'n wynebu pobl Sudan ydi diffyg maeth ac yn ystod ei saith mis yn y wlad bu Elin yn gyfrifol am redeg canolfan fwydo arbennig yn delio gyda dros 1,800 o blant bob wythnos.

"Roedd y plant yn cael eu rhannu'n dri grŵp. Rhai yn cael eu gweld yn wythnosol ac yn cael bwyd arbennig; rhai yn ddifrifol ayn cael eu gweld yn ddyddiol neu dan ofal bedair awr ar hugain y dydd.

"Byddai'n rhaid rhoi llaeth arbennig iddynt i'w yfed ond roedd rhai, oherwydd eu salwch ac am eu bod yn rhy wan yn cael eu bwydo drwy diwb yn syth i'w stumogau.

"Bob dydd byddai cannoedd o famau yn dod i'r ganolfan fwydo gyda'u plant a byddai pob un yn cael ei sgrinio ar gyfer diffyg maeth a'r rhai oedd yn dioddef yn cael eu rhoi ar raglen ac yn cael dechrau bwydo a chael triniaeth feddygol," meddai Elin.

Clwyfau difrifol
"Un noson daeth galwad imi fynd i'r clinig yn hwyr y nos. Roedd dynes wedi cyrraedd ar ôl teithio am dri diwrnod ar ful gyda'i thri o blant.

"Roedd dau o'i phlant wedi cael eu lladd yn dilyn ymosodiad ar eu pentref a un o'r tri oedd efo hi oedd yn holliach gyda'r ddau arall â chlwyfau difrifol i'w hwynebau a'u cyrff.



Elin gyda chydweithwyr pan oedd yn nyrsio yn Ethiopia"Er bod picelli haearn yn ddwfn yn y cnawd a'r esgyrn roedd y teulu bach wedi teithio fel hyn am dri diwrnod.

"Roedd hi'n ysbrydoliaeth gweld natur benderfynol y fam - i deithio'r holl ffordd heb fwyd nac arian.

"Doedd dim modd dychmygu ei theimladau a'i cholled enbyd ar y pryd. Ond mi lwyddodd i gyrraedd cymorth a chafodd y plant driniaeth a gwella."

Amodau byw
Yn dilyn ei chyfnod yn Ethiopia'r flwyddyn flaenorol roedd Elin yn barod ac wedi paratoi ei hunan ar gyfer yr amodau byw yn y Sudan.

"Roeddwn yn rhannu cwt gyda merch o doctor. Doedd dim dŵ tap a'r unig doiled oedd twll yn y llawr a'r gawod oedd bwced o ddŵr oer.

"Dwi ddim yn un sy'n dibynnu ar foethusrwydd ond wedi gweithio rhwng 14 a 16 o oriau bob dydd roedd y syniad o gael gorwedd mewn bath poeth yn nefoedd."

Er gwaethaf y gwaith caled a'r profiadau trist, mae Elin yn gwenu wrth ddweud ei bod yn edrych ymlaen at ei her nesaf yn un o wledydd y trydydd byd.

"Mae MSF yn gwneud gwahaniaeth, mae'n rhoi cymaint o bleser imi fod yn rhan o'r gwaith yma. Yn enwedig gweld y plant bach yn cryfhau ac yn dechrau gwenu a bwyta unwaith eto," meddai.





cysylltiadau
Brwydr AIDS yn Ethiopia

Elin yn Ethiopia

ewrop

Sudan
Sudan - nyrs o Gymru yn gweld adfyd a gobaith




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy