主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Fujairah Cyffro'r ymladd teirw yn y Dwyrain Canol
Oddi wrth Eirian Hassler yn sgrifennu o Dubai
Dydd Mercher, Mai 23, 200

Wrth drafeilio allan o ganol Dubai neu Abu Dhabi mae bywyd yn arafu braidd.

Yma, yn y pentrefi a threfi bychain mae'n bosibl gweld sut oedd byw cyn i olew newid bywyd am byth i bobl y Gwlff.

Nid yw hyn yn fwy trawiadol yn unman nag ar yr ochr ddwyreiniol, yn Emiriaeth Fujairah- yr unig Emiriaeth sydd ddim ar y Gwlff Arabaidd.

Gwta awr a hanner y tu draw i frys soffistigedig Dubai mae Fujairah yn ardal boblogaidd gydag ymwelwyr o Ddubai ei hun ac - yn fwy aml y dyddiau yma - o dramor hefyd.

Mae mynyddoedd yr Hajar yn cadw gormod o'r anialwch o'r fan hon, tra bo'r cwrel yn gwneud yn siwr fod digon o bysgod lliwgar i'w gweld dan donnau'r Indian Ocean.

Ychydig filltiroedd o'r dref ei hun yn Emiriaeth Sharjah mae ardal natur Khor Kalba gydag un o fforestydd mangrove hynaf yr ardal. Yma, yn y distawrwydd, yr unig swn a glywir yw'r pysgod
yn neidio yn y dwr neu'r cannoedd o adar sy'n byw yno yn canu'n braf.



Khor KalbaYma mae cartref y Glas y Dorlan prin coler wen yn gwibio yn ôl a blaen.

Yn y mynyddoedd cyfagos mae ffynhonnau poeth sy'n gwella pob mat o salwch yn ôl y sôn yn ogystal â rhaeadr nad yw byth yn sychu - hyd yn oed ynghanol yr haf poethaf!

Cystadleuaeth ymladd teirw

Does dim siopau yma i'w cymharu â gwleddoedd Dubai ond mae'r ardal yn dod yn fwy a mwy poblogaidd gyda phum gwesty pedair a phump seren ar y gweill dros y flwyddyn nesa.

Ar hyn o bryd dim ond pedwar gwesty pum seren sydd yma sy'n cymharu'n sâl iawn â Dubai.

Mae ymdeimlad o gefn gwlad i'r ardal ac mi gaiff yr ymwelydd flas ar fywyd sydd heb newid ers canrifoedd - yn enwedig ar bnawn Gwener - heblaw, yng ngwres yr haf - gyda chystadleuaeth ymladd teirw.

Ond cyn i grwpiau hawliau anifeiliaid ddechrau protestio does dim tebygrwydd rhwng ymladd teirw Fujairah a'r hyn a welir yn Sbaen.

Yma cystadleuaeth rhwng ddau darw Brahmin anferth yw'r adloniant i gannoedd o bobol leol o bob oed gan gynnwys y merched (er eu bod hwy yn aros yn y ceir allan o olwg pawb).

Mae'r cynnwrf yn cychwyn hyd at ddwyawr cyn y gystadleuaeth ei hun a'r teirw yn cyrraedd fesul un a dau - rhai ar gefn pick-ups bach, eraill yn cael eu cerdded ond pob un yn cael ei dywys i'w le bach ei hun lle mae'n cael ei glymu rhwng dwy goeden.

Yn y cyfamser mae'r bobl leol i gyd yn dechrau cyrraedd gan greu cylch naturiol yn y tir sych drwy sefyll neu eistedd mewn cylch o amgylch y ring.

Mae pethau'n dechrau pan fo'r gwr efo corn siarad yn cyrraedd.

Mae hwn yn foi efo digon o jôcs ac yn amlwg yn boblogaidd iawn ac yn adnabod pawb a chanddo ddigon o repartee rhyngtho fo a'r dyrfa.

Yna mae dau darw yn cael eu tywys i'r cylch a'r gystadleuaeth yn dechrau.

Teirw'n gwthio'i gilydd

Mae'r teirw yn ceisio gwthio'i gilydd wysg eu pennau o amgylch y cylch ond dim ond am rhyw ddau funud neu dri mae'r gystadleuaeth yn para - nes y bydd un tarw ar ei liniau neu pan yw'r gwr efo'r corn siarad yn rhoi diwedd ar bethau a dau darw arall yn cael eu tywys i'r cylch a'r holl beth yn dechrau eto.

Weithiau mae'r teirw yn gwthio'i gilydd yn rhy agos at y gynulleidfa a phawb yn gorfod symud yn gyflym i roi lle iddynt.

Dro arall mae tarw'n penderfynu dianc a'r gynulleidfa yn gofod codi a rhedeg i lechu y tu ôl i'r cerbyd agosa nes bo'r gwarchodwyr yn cael gafael ar y rhaff sydd am wddf yr anifail ac weithiau gael eu llusgo cyn cael rheolaeth arno.

Mae hyn yn mynd ymlaen am tua dwyawr reit dda gyda'r MC yn galw enw'r enillydd ac yn trafod gyda'r beirniaid cyn galw am y teirw nesaf.

Mae union hanes y gystadleuaeth wedi ei golli ond un gred yw iddi ddod i'r ardal gyda Phortiwgeaid yn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r sôn yw fod cystadlaethau tebyg yn ardal Kerala o'r India ac mewn rhannau o Oman - gwledydd eraill a fu dan reolaeth Portiwgal.




dwyrain_canol

Dubai
Tom yn dal i dynnu'r dillad isaf!

Cyffro'r ymladd teirw yn y Dwyrain Canol

Cyri'r Cofi yn y gwres

Cymdeithas Gymraeg newydd

Priodi'r un dyn deirgwaith!

Ar drothwy Ramadan

Rhynnu yn y gwres

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy