主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Tom Jones Tom yn dal i dynnu'r dillad isaf!
Nicyrs i Tom Jones ond nid i Frank Hennessey yn Dubai

Dydd Gwener, Mawrth 9, 200

Hanes dau ganwr

gan Eirian Hassler o Dubai

Aeth Dubai yn wyllt y noson y cerddodd un o feibion enwocaf Cymru ar lwyfan yno!

Yr oedd 7,000 o bobl o bob oed wedi dod ynghyd ar gyfer cyngerdd awyr agored yn y Dubai Creek Golf and Yacht Club a wnaeth y bachgen o Bontypridd ddim mo'u siomi.

Y rhai drutaf yn gyntaf

Bu'r diddordeb yn y cyngerdd er pan soniwyd gyntaf y byddai Tom Jones yn dod i Dubai. Gwerthwyd y 7,000 o docynnau i gyd o fewn dyddiau - gan gynnwys 600 tocyn VIP yn costio dros £60.

Ac fel y byddai rhywun yn disgwyl yn Dubai y rhai VIP aeth gyntaf gyda'r rhai rhataf yr olaf i'w gwerthu.

Yr oedd rhai mor benderfynol o fod yno yr oedden nhw'n cynnig dros deirgwaith gwerth y tocynnau er mwyn gweld y dyn sy'n dal ar y brig wedi'r holl flynyddoedd.

Bu'n noson fythgofiadwy.
Y bachan o Ponti yn canu ei ganeuon enwocaf a'r dillad isaf yn hedfan drwy'r awyr!

Y tu cefn i'r llwyfan, a adeiladwyd yn arbennig ar gyfer y noson, roedd y Creek yn llawn goleuadau ar gyfer agoriad Gwyl Siopa Dubai, a'r cychod drud yn hwylio heibio'n araf er mwyni'r rhai ar eu bwrdd fwynhau'r cyngerdd.



Frank Hennesey
Dim dillad isaf i Frank
Y noson ganlynol - noson Gwyl Dewi - roedd Tom yn Abu Dhabi a Frank Hennessey ai fand oedd i ganu dros Gymru i ni.

Daeth dros 500 o bobl at ei gilydd i ail ginio Gwyl Dewi Cymdeithas Gymraeg Dubai a chanodd yntau yr hen ffefrynnau i gyd - ac er nad oedd Frank, fel Tom, yn edrych llawer hynach na phan ymddangosodd ym mhafiliwn Y Rhyl ers talwm, doedd y dillad isa ddim yn hedfan drwy'r awyr y noson honno am ryw reswm!




dwyrain_canol

Dubai
Tom yn dal i dynnu'r dillad isaf!

Cyffro'r ymladd teirw yn y Dwyrain Canol

Cyri'r Cofi yn y gwres

Cymdeithas Gymraeg newydd

Priodi'r un dyn deirgwaith!

Ar drothwy Ramadan

Rhynnu yn y gwres

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy