主播大秀

Dim llwyfan i s锚r 'Britain's Got Talent'

Sara Gwilym Tomos

Mae'n amheus a fyddai rhai o s锚r sioeau fel X Factor a Britain's Got Talent yn cael llwyfan o gwbl yn Eisteddfod yr Urdd yn 么l llywydd y mudiad.

Yr oedd Sara Gwilym Tomos yn siarad mewn cyfarfod gyda'r Wasg yng Nghanolfan y Mileniwm fore Iau am yr her y mae'n ei hwynebu yn llywydd.

Dewiswyd Sara sy'n athrawes yn Ysgol Gwaun y Nant, Y Barri, yn llywydd yr Urdd fis Tachwedd diwethaf.

Dywedodd bod yr Eisteddfod a'r syniad o dalentau'n cystadlu yn rhan mor allweddol o'r Urdd erbyn hyn y mae bron a bod yn hawlfraint i'r mudiad.

"Mae cenhedlaeth gyfan bellach wedi eu magu ar gysyniad allech chi ddadlau sy'n eiddo copyright i Eisteddfod sef un o gonglfeini y mudiad," meddai.

"Beirniadu perfformwyr ar lwyfan yw'r jobyn ar X Factor a Strictly ond dwi'n amau y gallai rhai o s锚r sioe ITV Britain's Got Talent gael llwyfan yma," meddai.

O genhedlaeth i genhedlaeth

Gan ddisgrifio'r Urdd fel mudiad sy'n gweithio "gan milltir yr awr" dywedodd mai ei ragoriaeth yw ei allu i ymateb i'r sialens o addasu o genhedlaeth i genhedlaeth.

"Mae'n sialens," meddai. "Nid peth bach yw gallu addasu o genhedlaeth i genhedlaeth yn y modd mae'r Urdd wedi gwneud ac y mae ei allu i addasu dros y blynyddoedd yn dyst i dalent i ragweld y dyfodol i raddau helaeth." meddai.

Gwneud gwahaniaeth

Disgrifiodd yr Urdd hefyd fel mudiad sy'n medru gwneud gwahaniaeth.

"Dwi'n gwybod hyn i sicrwydd. Ces y fraint o weld cyn ddisgybl o Waun y Nant yn perfformio yn Ffawd echnos - disgybl cwbl ddi-Gymraeg wedi tyfu mewn cartref di Gymraeg ond wedi ei magu ar y cyfleoedd mae'r Urdd yn eu cynnig.

"Mae'n allweddol i ni yn y Gymru ddinesig bod cymaint o gyfleoedd ag sy'n bosibl ar gael i'n hieuenctid siarad y Gymraeg - dydy hynny ddim yn rhywbeth rydyn ni'n ei gymryd yn ganiataol," meddai.

"Dim ond o fewn fy oes i mae cyfathrebu mewn siopau, archfarchnadoedd yn y Gymraeg wedi dod yn dderbyniol," meddai.

Rhan hanfodol bwysig

Tynnodd sylw hefyd at "ran hanfodol bwysig" yr Urdd yn "natblygiad ein plant, datblygiad y Gymraeg a datblygiad cymunedau Cymru".

"Mae'r cynllun gefeillio mae Gwaun y Nant, gydag Ysgol Aberystwyth ac Ysgol Llundain, wedi ei gychwyn yn arf pwerus i fagu gwell dealltwriaeth rhwng oedolion y dyfodol ac yn yr oes sydd ohoni, ni all hynny ond magu gwell dinasyddion," meddai.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.