主播大秀

Y gwynt yn chwythu dros wyddoniaeth

Aled Sion

Mae'r Urdd wedi cychwyn ar gyfnod o roi pwyslais newydd ar wyddoniaeth fel rhan o weithgareddau'r mudiad ac fe fydd cystadlaethau gwyddonol newydd yn Eisteddfod y flwyddyn nesaf yng Ngheredigion.

Ond cyn hynny, o gwmpas Caniolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd yr wythnos hon tynnodd 'arbrawf' Bysgio Ffiseg - Physics Busking dipyn o sylw.

Newydd yng Ngheredigion

Ac mewn cydweithrediad 芒 Science Made Simple a'r Sefydliad Ffiseg cyhoeddwyd cystadlaethau gwyddoniaeth ac amgylcheddol newydd ar gyfer Eisteddfod Ceredigion.

"Roedd pwyllgor lleol Ceredigion yn awyddus i gyflwyno cystadlaethau newydd gwyddonol ac amgylcheddol fel bod pobl ifanc yn cael y cyfle i ymchwilio syniadau newydd i leihau cynhesu byd eang, ond hefyd i gymryd rhan mewn cystadlaethau a gweithgareddau ar ffurf newydd yn yr Eisteddfod," meddai Aled Sion, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod.

Cefnogir y fenter gan Gwmni Ynni Gwynt sy'n eiddo i amaethwyr a busnesau gwledig yn sir Conwy a bydd yr ymgeision buddugol yn cael eu harddangos yn y Babell Wyddoniaeth newydd yn Llanerchaeron 2010.

Y math o gystadlaethau

Ymhlih y math o gystadlaethau sy'n cael eu hystyried mae cynllunio a chreu melin wynt sy'n cynhyrchu trydan a chreu ffilmiau byr sy'n egluro i bobl gyffredin brif egwyddorion ffiseg mewn ffordd ddifyr.

"Mae dod 芒 gweithgareddau gwyddonol i'r cyhoedd yn fenter newydd i'r Eisteddfod ac rydym yn gobeithio ei bod hi'n dod ag agwedd newydd i'r gweithgareddau y tu allan i'r prif gystadlu ar lwyfan y Pafiliwn," meddai Akled Sion.

Mae manylion y cystadlaethau newydd ar wefan


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.