主播大秀

Llywydd dydd Iau: Lowri Davies

24 Mai 2010

Llywydd dydd Iau yn yr Eisteddfod yw Lowri Davies.

Hi gynlluniodd ac a ddarluniodd chwech o jygiau cain i godi arian tuag at yr Eisteddfod gyda llun o bob rhanbarth yng Ngheredigion ar bob jwg gan gynnwys plasdy Llanerchaeron y mae'r Eisteddfod ar ei dir.

Ganwyd Lowri ym Mhontypridd yn 1978, ond symudodd y teulu i Aberystwyth pan oedd hi'n bedair oed, felly derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Aberystwyth ac Ysgol Uwchradd Penweddig.

Aeth yn ei blaen i ddilyn Cwrs Sylfaen mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Sir G芒r cyn parhau i arbenigo ym maes Cerameg ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn 2007, penderfynodd ddychwelyd i fyd addysg gan ddewis astudio MA mewn cwrs Dylunio Cerameg ym Mhrifysgol Swydd Stafford yn Stoke-on-Trent.

Bellach, mae'n creu jygiau, cwpanau a gwrthrychau sydd yn cael eu haddurno 芒 darluniau o flodau, tirlun, cerameg ac adar.

Dywed fod y gwaith yn deillio'n bennaf o gyfeiriadau at waith tsieina a arddangosir ar ddreser Gymreig, arsylwadau o waith porslen Nantgarw ac Abertawe a chofroddion Cerameg a bod ei hunaniaeth Gymreig yn chwarae rhan bwysig yn ei gwaith cerameg.

Lowri Davies.


C2

C2 - Magi Dodd

Dilyn C2

Cynnwrf, gwefr a chyffro C2 ar y we

Dysgu

Gweithgareddau cerddorol ar gyfer plant 7-11 oed

Syrcas Gerdd

Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.

Mabinogi

Gemau Mabinogi

Rhowch gynnig ar chwarae gemau newydd sbon y pedair cainc y Mabinogi.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.