主播大秀

Cynllun gefeillio

01 Mehefin 2010

Yr oedd tair cenhedlaeth o 'ymherodraeth' yr Urdd yn bresennol mewn parti ar y maes heddiw i ddathlu cynllun gefeillio newydd.

Yr oedd y parti yn gyfle i blant dwy ysgol, un yn Aberystwyth a'r llall yn Y Barri gyfarfod a chael picnic i ddathlu cynllun sy'n cael ei alw yn Ffrindiau Da.

Awgrymwyd y cynllun y llynedd gan Prys Edwards, Llywydd Anrhydeddus yr Urdd a mab i sefydlydd y mudiad, Syr Ifan ab Owen Edwards.

Deilliodd y syniad o'r ffaith fod ganddo ef wyresau yn y ddwy ysgol, Ysgol Gwaun y Nant, Y Barri, ac Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac yr oedd y parti - gyda theisen wrth gwrs - yn gyfle i gynrychiolwyr o'r ddwy ysgol rannu profiadau'r misoedd diwethaf.

"Dechreuodd y syniad yma yn ein cartref ni wedi i'n hwyresau gael eu geni. Roedd dwy ohonynt yn byw yn Y Barri ac yn mynychu Ysgol Gwaun y Nant, a bydd ein hwyres arall yn mynychu Ysgol Gymraeg Aberystwyth.

"Gwelsom yn fuan y byddai magwraeth y plant yn y ddwy ardal yn gwbl wahanol, o ran yr iaith, eu gweithgareddau cymdeithasol a'r dylanwadau arnynt," meddai.

"Unwaith i ni ddeall fod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn dod i Geredigion, roeddem fel teulu yn awyddus i gefnogi menter newydd, gan drafod y syniad o efeillio plant gyda'i gilydd o fewn yr Urdd.

"Dwi'n mawr obeithio y bydd ehangu gorwelion y rhai ifanc yn sicrhau gwell dylanwad a chreu gwell dealltwriaeth arnynt o'n diwylliant, treftadaeth, iaith a'n traddodiadau. Bydd hyn yn ei dro yn arwain at gael dylanwad ar rieni, wrth iddynt hwythau hefyd ddysgu llawer mwy am y mudiad ieuenctid gwych hwn!" ychwanegodd.

Ers cyfarfod gyntaf ym Mae Caerdydd fis Mai 2009, mae'r plant o dde a chanolbarth Cymru wedi cwrdd ddwywaith yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog a chymaint y llwyddiant mae'n fwriad ei ymestyn yn awr i gynnwys ysgolion eraill.

"Pwrpas y cynllun yw dod 芒 phlant a phobl ifanc o wahanol gefndiroedd ar draws Cymru ynghyd, datblygu hunaniaeth a datblygu'r ymdeimlad o berthyn i gymuned, trwy ddefnyddio dulliau gwahanol o gyfathrebu megis e-bost, llythyrau a thripiau a drefnwyd ar eu rhan," meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru.

Canmolodd Gareth James, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gymraeg Aberystwyth, ddylanwad y cynllun ar y plant yn ystod y flwyddyn:

"Mae'r plant o'r ysgol hon a Gwaun y Nant wedi cael hwyl garw yn ystod y flwyddyn.

Torri'r deisen

Yn ogystal 芒 chyfarfod wyneb yn wyneb, rydym hefyd wedi bod yn anfon e-byst, postio pecynnau gwybodaeth am ein hardaloedd a thrafod yr hyn rydym yn mwynhau ei wneud yn ein hamser hamdden yn y ddwy ardal," meddai.

"Ychydig cyn yr Eisteddfod, derbyniodd disgyblion blwyddyn 6 ein hysgol gerdyn pob lwc enfawr yn y post gan ddisgyblion Ysgol Gwaun y Nant yn dymuno'n dda iddynt yn eu cystadlaethau yn yr Eisteddfod yr wythnos hon. Roedd y plant wedi dotio! Maent yn edrych ymlaen yn fawr i gyfarfod heddiw i rannu hanesion."


Lluniau'r Maes

Cymerwch olwg ar y luniau dydd Llun a Mawrth o faes Llanerchaeron.

C2

Huw Stephens Yn ei Gr诺f!

G锚m: Yn y Gr诺f

G锚m newydd ar wefan C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion, chwaraeon diweddaraf a'r ar dudalen newydd Ffeil.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.