主播大秀

Cystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2010

Catrin Angharad Roberts - mynd i gyhoeddi CD

06 Mehefin 2010

Cyhoeddwyd ddydd Sadwrn enwau yr wyth fydd yn cystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni yn dilyn wythnos Eisteddfod yr Urdd eleni.

  • Eirlys Myfanwy Davies (unawd) - Llanelli, Dwyrain Myrddin
  • Glesni Fflur (unawd cerdd dant) - Aelwyd Y Bala, Meirionnydd
  • Elgan Llyr Thomas (unawd allan o sioe gerdd) - Conwy
  • Jocelyn Freeman (unawd offerynnol) - Tyddewi, Penfro
  • Ceirios Evans (alaw werin unigol a llefaru unigol) - Aelwyd Aeron, Ceredigion
  • Teleri Mair Williams (cyflwyniad theatrig unigol) - Aelwyd yr Ynys, Ynys M么n
  • Elen Gwenllian (llefaru unigol) 19-25 oed - Aelwyd Dyffryn Nantlle, Eryri
  • Cerian Phillips (dawns werin unigol) - Aelwyd y Waun Ddyfal, Caerdydd a'r Fro

Byddant hwy yn awr yn derbyn dosbarthiadau meistr gan arbenigwyr yn eu gwahanol feysydd ac yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i ennill yr ysgoloriaeth nos Sadwrn, Hydref 16 2010 ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid.

Canmol y cyfle

Mae'r ysgoloriaeth werth 拢4,000 i'w ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant pellach addydd Gwener yr oedd enillydd yr ysgoloriaeth y llynedd, , Catrin Angharad Roberts Ynys M么n yn hael ei chanmoliaeth ar faes yr Eisteddfod.

''Roedd ennill yn brofiad gwerth chweil. Mi wnes i elwa'n fawr a chael fy ngwahodd i berfformio mewn sawl cyngerdd a chystadlu mewn nifer o Eisteddfodau lleol gyda Llan Bob Man, parti bechgyn rwyf wedi'i ffurfio ar yr ynys,'' meddai.

Dywedodd ei bod yn awr yn gymhorthydd dosbarth yn Ysgol Gynradd Llannerchymedd, ac ar fin dilyn cwrs dysgu ym Mhrifysgol Bangor

"Yn 2011dwi'n gobeithio defnyddio'r arian i ryddhau CD," meddai.

Mae hi hefyd newydd ddechrau mynychu gwersi canu gyda Mary Lloyd Jones yn Y Galeri, Caernarfon.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

Plant

Bobinogi

Hwyl a sbri

Bobinogi, Bob y Bildar, Fimbles a chymeriadau difyr eraill

C2

Huw Stephens Yn ei Gr诺f!

G锚m: Yn y Gr诺f

G锚m newydd ar wefan C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.