主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2004

主播大秀 主播大秀page
Urdd 2004
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cefndir
Ffeithiau difyr am F么n

Ffeithiau MonwysolWyddech chi hyn? Ffeithiau difyr am F么n - a chyfle i chithau anfon rhagor atom ni






Gerallt Gymro roddodd yr enw "M么n mam Cymru" ar yr ynys. Mae'n ymddangos mai' o'r gair Nors, ongull sy'n golygu ffiord y daw'r ffurf Saesneg, Anglesey. Ar rai hen arwyddion gwelir ei sillfau yn Anglesea.

Disgrifiodd y Rhufeiniwr, Tacitus, ynys M么n fel canolfan derwyddaeth gydag 'efrydwyr' ifainc o'r Cyfandir yn dod yma i astudio'r hen gredoau. Pan ymosododd y Rhufeiniaid gyntaf ar yr ynys yr oedd ymateb yr ynyswyr mor ffyrnig, ni allai'r milwyr Rhufeinig wneud dim yr oeddynt mewn cymaint o ofn.

Mae llawer o olion o'r cyfnod cyn hanes ar ynys M么n. Gan gynnwys Barclodiad y Gawres hen feddrod yn dyddio'n 么l bum mil o flynyddoedd ger Aberffraw ac yn cynnwys lluniau wedi eu sgriffinio ar furiai'r brif siambr. Un arall yw Bryn Celli Ddu ger Plas Newydd gyda thwnel hir yn arwain i'r brif siambr.

Pont Borth neu Bont Menai oedd coron gyfra Thomas Telford, mab i fugail o'r Alban a ddaeth yn un o beirianwyr sifil galluocaf y byd. Cynlluniodd y bont yn 1819 ac am gyfnod maith hon oedd y bont grog hiraf yn y byd.

Agorwyd Pont Borth fis Gorffennaf 1826 ond er cymaint yr edmygedd ohoni ymhlith peirianwyr doedd hi ddim yn plesio pawb. Disgrifiodd arlunydd o'r enw Carl Gustav Carus a oedd yn ffrind i Goethe hi fel "dim amgen na symbol mathemategol mawr" ac yn "Seisnigaidd, sych a phedantig" ei chymeriad.

Gwaith adeiladuGan Albanwr arall, Robert Stephenson, y codwyd yr ail bont dros y Fenai. Pont reilffordd oedd Pont Britannia neu Y Tiwb rhwng a adeiladwyd rhwng 1846 ac 1850. Llosgwyd hon yn 1970 ac wrth ei hailadeiladu ychwanegwyd l么n uwchben y rheilffordd gyda'r pileri a godwyd gan Stephenson yn ddigon cryf i gynnal y ddwy.

"Ceirch a Methodistiaeth" oedd priodoleddau Ynys M么n yn 么l George Borrow pan ymwelodd 芒'r ynys yn 1854.

Ddiwedd y ddeunwfed ganrif Mynydd Parys ger Amlwch oedd y gwaith copr mwyaf yn Ewrop ac mae olion y cloddio a fu yn dal yno heddiw. Am y deng mlynedd yn dechrau 1768 yr oedd mil a hanner yn gweithio yno gan gynnwys merched a oedd yn cael eu galw yn Copr Ladis. Byddai'r cwmni yn bathu ei arian ei hun Ceiniogau Amlwch.

Tebyg mai llygriad o Mynydd Parry ydi Mynydd Parys ac mae cyfeiriadau at "Parry's Mountain" yn y ddeunawfed ganrif.

Collodd Ardalydd - Marcwis - cyntaf M么n ei goes ym Mrwydr Waterloo.
Twr Marcwis Ef oedd yn gofalu am filwyr meirch Wellington a chofgolofn iddo ef sydd y tu allan i Lanfairpwllgwyngyll gyda grisiau i'w thop. Canodd y Bardd Cocos:
Y Marcwis of Anglesey
A'i gledd yn ei law.
Fedar o ddim newid llaw
Pan fydd hi'n bwrw glaw.
Er nad yw'n farddoniaeth fawr, mae'n gwbwl gywir.

Wedi iddo ddychwelyd i Lundain cynlluniwyd coes bren yn arbennig ar ei chyfer a'i phatentio fel Coes Sir F么n. Yr oedd y Marcwis yn 86 pan fu farw yn dad i 18 o blant.

Yn Llanfairpwllgwyngyll y sefydlwyd y gangen gyntaf erioed o Sefydliad y Merched - WI.

Llanfairpwll ac yn y blaen yw'r enw lle hiraf yn Ewrop. Mae'r pentref wedi ei efeillio a thref o'r enw Ee yn yr Iseldiroedd!

Ar un adeg, filiynau o flynyddoedd yn 么l, dyffryn oedd Afon Menai. Ymddangosodd yr ynys gyntaf wedi Oes y Rhew ac wrth i'r rhewlifau ddadmer cododd lefel y m么r 芒 llanwyd y dyffryn 芒 dwr heli.

Mae sawl cysylltiad brenhinol 芒 M么n. Yn ardal y Berffro yr oedd llys hen dywysogion Gwynedd ac ym Mhenmynydd yr oedd cartref y Tuduriaid a rododd i Loegr y brenin Harri'r wythfed a'r frenhines Elizabeth gyntaf.

Yr oedd Owain ap Maredudd ap Tewdwr o Blas Penymydd yn un o'r rhai a ymladdodd ochr yn ochr a Harri'r pumed yn Agincourt ac am ei wrhydri fe'i penodwyd wedyn yn bennaeth y llys brenhinol.

Ar ffenestr lle mae beddrod y Tuduriaid yn Eglwys Penmynydd gwelir y geiriau: Undeb fel rhosyn yw ar lan afonydd ac fel ty dur ar ben y mynydd



cyfannwch

Twr Marcwis, Llanfairpwll
Mae hwn yn wych!!!!!!!!!!!!

Hayley Barret, Sir Benfro
Roedd y site hyn yn wych help! Diolch yn fawr 主播大秀!xxxx

Glyn o Landegfan
Cafodd Ysgol David Hughes sy'n awr ym Mhorthaethwy ei sefydlu yn ysgol ramadeg ym Miwmares gyntaf, yr un flwyddyn ag y bu y Frenhines Elizabeth I farw - 1603.



Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Cefndir
Fel maen nhw'n dweud yn Sir F么n

Cofio dyddiau cynnar yr Urdd

Ffeithiau difyr am F么n

Gw欧r Mawr M么n

Bryn Terfel yn canu clodydd yr Urdd

Enwau lleoedd difyr

Prif seremoniau yr Eisteddfod

Pethau ar y maes

Tyger y ci dewr

lluniau'r wythnos
Sioeau Cerdd

O gwmpas yr ynys - 2

O gwmpas yr ynys - 1

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes
Gwlad y Medra wedi medru!

Yr ifanc yn siomi - gwallus ac heb angerdd

Cysylltiadau eraill
Yr Urdd ar Lleol i Mi
Mwy...
gwegamera ar y maes


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy