主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2004

主播大秀 主播大秀page
Urdd 2004
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Gwlad y Medra wedi medru!

Derek Evans - Cadeirydd y Pwyllgor gwaithEr i bethau gychwyn fymryn yn siomedig ymwelodd mwy o bobl ag Eisteddfod yr Urdd ar Ynys M么n eleni nag a ymwelodd a'r Wyl y llynedd.




Gyda'r ffigurau ar gyfer y diwrnod cyntaf i lawr bron i bum mil o gymharu 芒 Pharc Margam y llynedd yr oedd y nifer ar gyfer yr wythnos i gyd yn 106,000 - ychydig yn fwy na'r llynedd.

A dywedodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Sian Eirian, i'r digwyddiad fod yn llwyddiant ym mhob ffordd - nid o ran nifer ymwelwyr yn unig.

Am y tro cyntaf ers talwm gwelwyd pafiliwn llawn ar gyfer pob math o gystadlaethau yn ystod yr wythnos gydag eraill oddi allan yn disgwyl am sedd.
Dywedodd i atyniadau newydd fel y tipis a'r gongl sgflefrfyrddio ar y maes fod yn llwyddiant hefyd.

Ac, yn wir, hyd yn oed ar y diwrnod y tywalltodd y glaw, ddydd Iau, nid amharwyd ar ysbryd yr Wyl gyda ffyrdd caled maes Preimin M么n yn profi gwerth cynnal digwyddiad o'r fath ar faes parhaol.

Yn 么l cadeirydd y pwyllgor gwaith, Derek Evans, yr oedd rhai stondinwyr yn croesawu'r glaw hyd yn oed gan iddo anfon steddfotwyr a a fu'n mwynhau'r haul tan hynny i'w pebyll i brynu!

Yn naturiol mae hyn wedi ail-agor y drafodaeth am gynnal nid yn unig brifwyl yr Urdd ond yr Eisteddfod Genedlaethol ar feysydd parhaol ar hyd a lle Cymru.

Mae'r Urdd wedi penderfynu yn barod dychwelyd i Ganolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd bob pedair blynedd o'r flwyddyn nesaf ymlaen.

Yn wir, gwnaeth un o lywyddion y dydd yn ystod yr wythnos, Nia Thomas, ap锚l uniongyrchol am i Eisteddfod yr Urdd fanteisio ar feysydd pwrpasol ar hyd a lled Cymru ac nid oes llawer o amheuaeth ei bod ym mryd yr Urdd i ddichwelyd i F么n yn fuan.

"Bu'r penderfyniad i gynnal yr Eisteddfod ar y Maes hwn yn un poblogaidd," meddai Sian Eirian.

"Ac hefyd i gynnal y rhangrofion ar y maes am yr ail dro gan fod hynny yn sicrhau bwrlwm ar y Maes drwy'r dydd," ychwanegodd.

Canmolodd hefyd gynnwys wal fideo 80 sgr卯n yn gefndir i'r cystadlu ar y llwyfan gyda lluniau i gydfynd a them芒u y gwahanol gystadlaethol a ffilmiau byrion am enillwyr y prif gystadlaethau.

Hwn, meddai, oedd y tro cyntaf i'r wal gael ei defnyddio gan unrhyw un yng Nghymru.

"Mae'r wythnos wedi cyrraedd yn uwch na'r disgwyl hyd yn oed. Mae hi wedi bod yn wythnos lle mae'r Fam Ynys wedi croesawu ei phlant mewn ffordd y byddai pob Mam yn ei wneud, ac mi fydd hi'n wythnos fydd yn aros am byth yn y cof," meddai Derek Evans fore Sadwrn.



Cefndir
Fel maen nhw'n dweud yn Sir F么n

Cofio dyddiau cynnar yr Urdd

Ffeithiau difyr am F么n

Gw欧r Mawr M么n

Bryn Terfel yn canu clodydd yr Urdd

Enwau lleoedd difyr

Prif seremoniau yr Eisteddfod

Pethau ar y maes

Tyger y ci dewr

lluniau'r wythnos
Sioeau Cerdd

O gwmpas yr ynys - 2

O gwmpas yr ynys - 1

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes
Gwlad y Medra wedi medru!

Yr ifanc yn siomi - gwallus ac heb angerdd

Cysylltiadau eraill
Yr Urdd ar Lleol i Mi
Mwy...
gwegamera ar y maes


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy