主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2004

主播大秀 主播大秀page
Urdd 2004
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Adroddiad ar waith yr Urdd:

Meirion Prys Jones
Er i lawer o waith yr Urdd gael ei ganmol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg mae'r Bwrdd hefyd wedi galw am welliannau .





Yr oedd Prif Weithredwr y Bwrdd, Meirion Prys Jones, ar Faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth i gyflwyno adroddiad gan arbenigwyr a fu'n mesur "effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwaith maes Urdd Gobaith Cymru."

Byrdwn yr adroddiad, gan gorff sy'n rhoi arian mawr i'r Urdd, oedd fod y mudiad yn rhoi gwerth am arian gyda'i weithgarwch yn hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg.

Angen eu gwella
Ond ychwanega fod rhai pethau o fewn cyfundrefn yr Urdd sydd angen eu gwella.

"At ei gilydd mae trefniadaeth yr Urdd yn addas ar gyfer sicrhau gwaith maes effeithiol a defnyddiol. Serch hynny, oherwydd cwtogi diweddar mae'r drefniadaeth hon dan bwysau ac mae angen cryn fuddsoddiad yn y drefn reoli, gweinyddu a gweithredu," meddir.

Mae'r adroddiad yn s么n hefyd fod angen i'r Urdd greu timau sirol cryfach.

"Golygai hyn gynyddu'r lefel staffio sirol gan roi cyfrifoldebau penodol am agweddau o wasanaeth megis gweithgarwch ysgol, chwaraeon, yr Eisteddfod a gwaith yn y gymuned. Byddai newid felly, wrth gwrs, yn ddibynnol ar gryn fuddsoddiad i'r mudiad," meddai'r adroddiad.Dywedir hefyd na lwyddodd yr Urdd hyd yn hyn i "chwarae ei ran mor effeithiol ag y gallai" i ffurfio agenda polisi ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru o ran cyfranogi a hawliau plant" a hynny eto oherwydd prinder staff.

Llais pobl ifanc
Dywed yr adroddiad hefyd: "Dechreuodd yr Urdd ar y broses o greu systemau ar gyfer peri bod llais pobl ifanc yn gallu dylanwadu'n fwy ar waith a darpariaeth y mudiad. Eto i gyd, mae cryn ffordd i fynd cyn bod trefn gwrando ar lais pobl ifanc yn rhan annatod o wead y mudiad."

Ynglyn 芒 gwaith cymunedol dywedir:
"Ceir peth gweithgarwch pwrpasol ar lefel gymunedol ond gellid cryfhau'r elfen hon o waith yr Urdd yn sylweddol. Yn y lle cyntaf, mae angen yn y Cynllun Corfforaethol newydd ddiffinio r么l yr Urdd yn y gymuned ac yna creu strategaeth gymunedol ar gyfer y mudiad gan gydnabod cyfraniad cyrff eraill. Dylai haenen datblygu gwaith yn y gymuned fod yn rhan o gyfrifoldeb pob swyddog datblygu."

Efa Gruffudd JonesOnd er gwaetha'r'gellid gwneud yn well' hwn, sylwadau cadarnhaol o ganmoliaeth oedd rhai Meirion Prys Jones yn gyffredinol fore Mawrth a dywedodd Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr newydd yr Urdd, y bydd y mudiad yn awr yn paratoi ymateb i'r Bwrdd.

"Ein blaenoriaeth ni nawr fydd ymateb yn greadigol i'r argymhellion a wnaed ac yn y modd ry'n ni'n mynd ati i sicrhau cyllid digonol i'r Urdd er mwyn iddi gyflawni ei photensial," meddai.



Cefndir
Fel maen nhw'n dweud yn Sir F么n

Cofio dyddiau cynnar yr Urdd

Ffeithiau difyr am F么n

Gw欧r Mawr M么n

Bryn Terfel yn canu clodydd yr Urdd

Enwau lleoedd difyr

Prif seremoniau yr Eisteddfod

Pethau ar y maes

Tyger y ci dewr

lluniau'r wythnos
Sioeau Cerdd

O gwmpas yr ynys - 2

O gwmpas yr ynys - 1

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes
Gwlad y Medra wedi medru!

Yr ifanc yn siomi - gwallus ac heb angerdd

Cysylltiadau eraill
Yr Urdd ar Lleol i Mi
Mwy...
gwegamera ar y maes


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy