主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2004

主播大秀 主播大秀page
Urdd 2004
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Coroni ffrwyth yr eira

SianY mae enillydd coron Eisteddfod yr Urdd 2004 yn gofidio nad oes yna ddigon o anogaeth ac o gyfle i sgrifenwyr ieuanc yng Nghymru - yn enwedig rhai sy'n ymddiddori mewn drama.



Yn siarad wedi seremoni'r coroni ddydd Gwener dywedodd Si芒n Eirian Rees Davies fod ganddi hi ddiddordeb arbennig mewn sgriptio drama radio ond gofidiai mai ychydig iawn o gyfle sydd yna i rai fel hi.

Deialog oedd un o'r tri darn a enillodd iddi'r goron gyda Jane Edwards a Gwilym Dyfri Jones yn beirniadu.

SianYr oedd y ddau feirniad yn uchel eu clod i'w gwaith ar y testun, Croesi.

"Saif ben ac ysgwyddau uwchlaw gweddill y cystadleuwyr," meddai Gwilym Dyfri Jones yn traddodi'r feirniadaeth.

"Wele awdur aeddfed a dawnus sydd 芒'r gallu i drin geiriau mewn modd sensitif, gofalus a chywrain. Cafodd y ddau ohonom wefr o ddarllen ei champwaith."

Disgrifiwyd ei darn deialog fel un wedi ei "saernio yn grefftus" gyda gwrthrychau meddwl a rhesymu cyfrifol.

Ychwanegodd: "Cyflwyna syniadaeth aeddfed ac awgrymog y dylai rhai o benboethwyr yr iaith ei hystyried cyn lluchio baw a gweld bai."

Dywedodd fod y ddau ddarn arall "yn fwy uchelgeisiol fyth."

Dywedodd Si芒n iddi sgrifennu'r rhan fwyaf o'r gwaith pan gafodd ei chau yn ei chartref gan eiria yn ystod Chwefror eleni ond yr oedd wedi dechrau sgrifennu cyn hynny.

"Mi wnes i ddeffro un bore mewn tymer reit dda ac yr oedd yn neis cael testun penodol yn sialens," meddai.

O Dinas, Pen Llyn y daw Si芒n. O Ysgol Uwchradd Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor aeth i Brifysgol Cymru, Bangor, lle graddiodd mewn Cymraeg ac ysgrifennu creadigol.

Mae'n awr yn cwblhau MA ysgrifennu creadigol cyn dechrau ar ei swydd gyntaf yn ddarlithydd Cymraeg ail iaith yng Ngholeg I芒l ger Wrecsam.



Cefndir
Fel maen nhw'n dweud yn Sir F么n

Cofio dyddiau cynnar yr Urdd

Ffeithiau difyr am F么n

Gw欧r Mawr M么n

Bryn Terfel yn canu clodydd yr Urdd

Enwau lleoedd difyr

Prif seremoniau yr Eisteddfod

Pethau ar y maes

Tyger y ci dewr

lluniau'r wythnos
Sioeau Cerdd

O gwmpas yr ynys - 2

O gwmpas yr ynys - 1

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes
Gwlad y Medra wedi medru!

Yr ifanc yn siomi - gwallus ac heb angerdd

Cysylltiadau eraill
Yr Urdd ar Lleol i Mi
Mwy...
gwegamera ar y maes


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy