主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2004

主播大秀 主播大秀page
Urdd 2004
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Diwrnod Dau Ddylan

Dau Ddylan yn taro'r pyst
Fel pe na byddai un yn ddigon yr oedd gan Taro'r Postddau Ddylan ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, ddydd Llun.




Am y tro cyntaf clywodd y genedl lais Dylan Jones 13 oed o Garreglefn Ynys M么n.

Yr oedd y Dylan Jones iau, yn rhannu'r dyletswyddau gyda'r Dylan Jones - wel nid hen ond yn sicr nid cweit mor 'iau'!
Ac ar gyfer ei ddiwrnod cyntaf dechreuodd Dylan ar nodyn uchel yn holi un o brif gantorion Cymry, y tenor Gwyn Huws Jones gyda'r Dylan arall yn dal y meic yn hytrach na siarad iddo.

Ac yr oedd gan y Dylan newydd ambell i gwestiwn beiddgar y byddai'r Dylan arferol wedi gorfod meddwl ddwywaith cyn ei ofyn.

Er enghraifft, "Pam newid o fod yn fariton i fod yn denor - damwain anffodus?"

Dywedodd gwyn fod y llais yn newid ac yn datblygu wrth i ganwr fynd yn hynach ac y gall yr hyfforddiant mae'n ei dderbyn effeithio ar yr ansawdd hefyd.

Dywedodd i'w lais ef dorri pan o0edd yn ifanc iawn, tua 11 oed.

"Felly chefais i ddim llawer o gyfnod fel trebl ac yr oeddwn yn canu bariton yn 12 oed," meddai.

Mae Gwyn Huws Jones bellach yn denor sydd wedi ennill ei le ar y llwyfan rhyngwladol ac wedi canu gyda chwmniau opera cenedlaethol Cymru a Lloegr yn ogystal ag Opera San Fransisco ac Opera Metropl Efrog Newydd.

Fe'i dewiswyd i ganu yn seremoni agoriadol Gemau Olympaiddy Gaeaf yn Siapan. Yn dilyn cwestiwn arall gan Dylan, datgelodd y gall siap yr wyneb wneud gwahaniaeth i ansawdd llais.

Dylan a Gwyn - ambell i gwestiwn beiddgar"Os yw'r wyneb yn llydan mae hynny'n rhoi lot o le i'r llais atseinio," meddai wrth Dylan.

Ond fe'i sicrhaodd nad oes raid i ganwr fod yn fawr ac yn dew.

"Fy mai i ydi mod i ff elly," meddai," ond mae yna lawer o gantorion sydd yn fach iawn," meddai.

"Yr oeddem yn falch iawn o gael Dylan ar y rhaglen er mwyn cael ongl pobl ifanc i'r hyn sy'n digwydd - er fe fyddai'r Dylan Jones arall yn gwadu'n llwyr unrhyw awgrym ei fod o'n hen wrth gwrs," meddai llefarydd ar ran Taro'r Post.



Cefndir
Fel maen nhw'n dweud yn Sir F么n

Cofio dyddiau cynnar yr Urdd

Ffeithiau difyr am F么n

Gw欧r Mawr M么n

Bryn Terfel yn canu clodydd yr Urdd

Enwau lleoedd difyr

Prif seremoniau yr Eisteddfod

Pethau ar y maes

Tyger y ci dewr

lluniau'r wythnos
Sioeau Cerdd

O gwmpas yr ynys - 2

O gwmpas yr ynys - 1

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes
Gwlad y Medra wedi medru!

Yr ifanc yn siomi - gwallus ac heb angerdd

Cysylltiadau eraill
Yr Urdd ar Lleol i Mi
Mwy...
gwegamera ar y maes


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy