主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2004

主播大秀 主播大秀page
Urdd 2004
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Sioe Gerdd yr Ieuenctid

Drama gerdd yn seiliedig ar ddigwyddiadau ym Mynydd Parys, Amlwch, yn y bedwaredd ganrif ar bymthegy ydi Sioe Gerdd yr ieuenctid yn yr Eisteddfod.

Awduron Llwch yn Ein Llygaid ydi Rhian Mair Jones, Eleri Richards a Delyth Rees.

Bydd yn cael ei pherfformio yn Ysgol Uwchradd Caergybi am 7.30 nos Sadwrn a nos Lun.

Mae'r sioe yn cael ei disgrifio fel "stori ddramatig wedi'i hysbrydoli gan ddigwyddiadau yng ngwaith coprMynydd Parys a thref Amlwch."

Er mwyn creu stori ddramatig, y mae'r digwyddiadau hanesyddol wedii eu hel at ei gilydd a rhai cymeriadau sy'n ffrwyth dychymyg wedi eu creu, Cadi Rondol, John Eleias a Twm Chwarae Teg.

Bwrlwm o ddiwydiant
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd Mynydd Parys a thref Amlwch yn fwrlwm o ddiwydiant gydag oddeutu 70 o dai tafarn yn y dref -a'r mwynwyr a'u merched yn profi bywyd i'r eithaf, yn gweithio'n galed ac yn mwynhau yr un mor galed heb boeni'n ormodol am eu henaid na'u cyd-ddyn.

Mewnfudwyr o Gernyw oedd meistraid y mynydd a'r rheiny, ar y cyfan, yn byw yn fras ar lafur y Cymry. Ond, beth oedd yr ots pan fo un parti stryd a ffair yn cael ei ddilyn gan barti arall.

Ond, wedi rhyfel Napolean, doedd dim galw am gopr ac yn sgil y cyni economaidd bu twyll anhygoel gan y meistr ac ymateb chwyldroadol gan y gweithwyr wrth fynd i'r afael a'rllwch real o'r gwaith, a'r llwch trosiadol o'r twyll daflwyd i lygaid.

Twm Chwarae TegWedi sylweddoli pwer wynebu'r gwir, gwawria gwirionedd grymusach ar fwynwyr, a ladis copr y mynydd, ac efo pregethu John Elias yn agor eu llygaid ymhellach, try'r Cymry eu cefnau ar eu hen fywyd anfoesol,afradlon.

Mae yma gyfochri anhygoel efo sefyllfa Ynys M么n heddiw, a neges ddwys i ni ei hystyried, ond,efo dogn helaeth o ramant a hwyl yn nhafarn Elir El i roi siwgwr ar y bilsen.

Rhian Mair Jones - Awdur A Chyfarwyddwr:
Pennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Gyfun Llangefni .Dechreuodd ymddiddori yn y ddrama a pherfformio pan yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, dan adain William R. Lewis a'r diweddar Richard T. Jones.

Enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 1983 - ac wedi cyfnod yn actio, trodd ei llawat gyfarwyddo tra'n dysgu Drama yn Ysgol Uwchradd Bodedern ac yna pan yn darlithioyn y Coleg Normal, Bangor.

Cyfarwyddodd Basiant y Plant yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy yn 1989. Ysgrifennodd Bantomeim a'r gantata fodern 'Pam fy newis i?', ynghyd a dwy sioe gerdd i Theatr Ieuenctid M么n - y gynta 'Llwch yn ein Llygaid' (1992 ) a'r ail 'Lladd y Boen' (1993).

Mae wedi cyfieithu nifer o ganeuon o sioeau cerdd i'r Gymraeg ynghyd a dwy sioe gyfan 'Gris' a 'Joseff' .

Yn wreiddiol o Rosybol, ar odrau Mynydd Parys, y mae'n awr yn byw ym Mrynteg, Bro Goronwy, ac yn briod ag Ian ac yn fam i Gwion a Siwan.

Delyth Rees - Cyfarwyddwr Cerdd:
Mae Delyth Rees yn Gydlynydd Addysg Cerddoriaeth yn yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Mae'n dysgu ar y cyrsiau BEd Cynradd a'r TAR Cerddoriaeth Uwchradd. Roedd yn Bennaeth Cerddoriaeth yn Ysgol Uwchradd Bodedern, Ynys M么n am nifer o flynyddoedd cyn mynd yn ddarlithydd Cerddoriaeth i'r Coleg Normal, Bangor ym 1991.

Dechreuodd gyfansoddi drwy ysgrifennu caneuon actol a sioeau Cerdd i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Bodedern, ac ers hynny mae hi wedi cyfansoddi nifer o weithiau estynedig i blant a phobl ifanc gan gynnwys dwy gantata bop i Eisteddfod Genedlaethol Cymru 'Dwynwen' Ynys Mon 1983; 'Cae Melwr' Dyffryn Conwy 1989 ac hefyd ddwy sioe Gerdd i Theatr Ieuenctid M么n .

Bu'n gweithio'n ddiweddar ar gomisiynau corawl un i G么r Gorau Glas, Bro Ddyfi a'r llall i G么r Cytgan, Caerdydd. Mae rhai o'i chyfansoddiadau wedi eu cyhoeddi, recordio a'u darlledu gan gynnwys 'Hafan Gobaith'.



Cefndir
Fel maen nhw'n dweud yn Sir F么n

Cofio dyddiau cynnar yr Urdd

Ffeithiau difyr am F么n

Gw欧r Mawr M么n

Bryn Terfel yn canu clodydd yr Urdd

Enwau lleoedd difyr

Prif seremoniau yr Eisteddfod

Pethau ar y maes

Tyger y ci dewr

lluniau'r wythnos
Sioeau Cerdd

O gwmpas yr ynys - 2

O gwmpas yr ynys - 1

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes
Gwlad y Medra wedi medru!

Yr ifanc yn siomi - gwallus ac heb angerdd

Cysylltiadau eraill
Yr Urdd ar Lleol i Mi
Mwy...
gwegamera ar y maes


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy