主播大秀

Mudiad ysgolion Meithrin

Llaeth a ffrwythau bob bore i'r plant

Cychwyn da i'r diwrnod ym Mhabell y Mudiad Ysgolion Meithrin

Bydd llaeth a ffrwythau yn cael eu rhannu rhwng plant fydd yn ymweld 芒 phabell y Mudiad Ysgolion Meithrin ar faes yr Eisteddfod bob dydd.

Bydd yn Amser llefrith a ffrwythau am 10.30 bob bore gyda llaeth organig gan gwmni Daioni a ffrwythau gan siop O'r Pridd i'r Pl芒t, Llanrwst ar gael i blant fydd yn ymweld 芒'r stondin bryd hynny.

Ac wedi'r fath gychwyn da i'r diwrnod bydd pob math o weithgareddau eraill hefyd gan gynnwys sesiynau crefft bob dydd ar y thema Y Tywydd a'r Tymhorau ynghyd 芒 sesiynau peintio wynebau ac amser stori ar rai dyddiau.

Un o uchelbwyntiau'r wythnos fydd cyhoeddi gwefan newydd y Mudiad yng nghwmni'r Jac y Jwc a Sali Mali am 12.00 ddydd Llun.

Yn dilyn bydd lansiad Taith yr 糯yl Feithrin yng nghwmni'r Brodyr Gregory am 1.00.

Bydd sawl sesiwn ar addysg iechyd i rieni ddydd Mawrth gan gynnwys sesiwn ymwybyddiaeth o'r fogfa - asthma a llid yr ymennydd.

Bydd llyfr gan y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn cael ei gyhoeddi hefyd.

Ddydd Mawrth a Mercher bydd Martyn Geraint yn perfformio a'r consuriwr Howard Hughes ddydd Mercher a Iau.

Ddydd gwener bydd gwahoddiad i droi eich llaw ar geisio gwneud selsig yng nghwmni'r cigydd lleol, Ieuan Edwards - Edwards o Gonwy - neu gymryd rhan mewn cystadleuaeth dyfalu blas sosej'.

Bydd Sam T芒n, Norman, Superted a'r Bobinogi yn ymweld 芒'r stondin yn rheolaidd. Y tu allan i'r uned bydd parc chwarae lle gall plant gyd-chwarae dan oruchwyliaeth eu rhieni.

Gellir darllen e-byst neu syrffio'r we ar gyfrifiadur yn yr uned a bydd modd i unrhyw un fydd am weld lle mae'r cylch meithrin neu'r cylch Ti a Fi agosaf i'w cartref wneud hynny.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.