主播大秀

Y cadeirio yn Eisteddfod 2008

Ail gadair - seremoni gyntaf i fardd

Seremoni go iawn gyda'r cynnig olaf

Er bod hwn yr ail dro i Iwan Rhys ennill cadair Eistedddfod Genedlaethol yr Urdd heddiw oedd y tro cyntaf iddo gael ei gadeirio ar lwyfan y Brifwyl.

Ym 2001 yr enillodd ei gadair gyntaf.

Gydag eleni y flwyddyn olaf y gallai gystadlu yn yr Urdd yr oedd yn arbennig o awyddus I ennill y tro hwn eto er mwyn cael profi'r wefr o sereoni gerbron cynulleidfa yn y pafiliwn.

"Yr oeddwn yn teimlo dan dipyn o bwysau oherwydd hynny," meddai.

Dan amgylchiadau hynod o drist y cyfansoddodd ei gerdd fuddugol ar y testun Colli

"Yr oeddwn wedi cael y profiad trist ac anodd o golli hen ewythr 88 oed a ffrind ifanc agos o fewn ychydig wythnosau i'w gilydd ac yr oeddwn yn trio dod I ddeall beth oedd tu 么l i hyn.

"Yr oedd yn beth anodd i'w ddeall ac efallai i'r ysgrifennu fod yn ffordd o ddelio 芒'r peth," meddai.

Er yn gweithio ym Manceinion ym Morth-y-rhyd, Sir Gaerfyrddin y magwyd Iwan. Aeth i'r ysgol yn Llanddarog a Maes-yr-yrfa cyn mynd ymlaen i raddio mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2005.

Dyweddiodd fis Ionawr gydag Angharad Hewitson a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at symud i Gaerdydd yn yr haf cyn priodi yng Nghaergybi fis Hydref.

Ddwy flynedd yn 么l cyhoeddwyd rhai o'i gerddi yn y gyfrol Crap ar Farddoni gydag Eurig Salisbury, Hywel Griffiths, Aneirin Karadog a Catrin Dafydd.

. Mae'n aelod o d卯m Y Gl锚r ar Dalwrn y Beirdd a th卯m Y Deheubarth yn yr Ymryson.

Disgrifiwyd ei awdl fel un ddofn ac aeddfed gan y beirniaid, Myrddin ap Dafydd ac Iwan Llwyd.

Ac yn ei ffordd yr oedd y cadeirio heddiw yn ddathliad dwbl gan iddo ar yr un pryd gyrraedd diwedd blwyddyn o gyhoeddi englyn bob dydd - gorchwyl nad oedd yn bleser i gyd:

"Yr oedd yn anodd iawn - dwi'n difaru imi gychwyn," meddai!


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.