Main content

Caryl Parry Jones

Mae Caryl yn gyfansoddwraig, actores, cyflwynwraig teledu, radio a hyfforddwraig llais.

Fe'i magwyd yn Ffynnongroew, rhwng Treffynnon a'r Rhyl, lle mynychodd Ysgol Mornant cyn symud ymlaen i Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Astudiodd y Gymraeg a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.

Mae Caryl wedi perfformio mewn nifer o fandiau megis Sidan, Injaroc, Bando, a Caryl a'r Band, ac mae hi bellach yn perfformio'n gyson mewn grwp harmoni clos o'r enw 'Harmony Central'.

Mae Caryl yn berfformwraig bwerus a charismatig ac fe gafodd ei statws hi fel un o artistiaid mwyaf dylanwadol a blaenllaw ei chenhedlaeth ei gadarnhau yn 2007 wrth iddi dderbyn tlws arbennig i gofnodi ei gwaith dros y blynyddoedd fel cantores, cyfansoddwraig a chynhyrchydd yng Ngwobrau RAD Radio Cymru.

Mae caneuon Caryl Parry Jones wedi cael eu perfformio gan nifer helaeth o artistiaid gan gynnwys Bryn Terfel a Gruff Rhys (Super Furry Animals).