C'mon Cwm-Deri
Helo bobol,
Glyn a Magi yma - chi'n iawn?
Fel rhan o'n hymgyrch ni i helpu tîm pêl-droed Caerdydd i ennill cwpan FA/Lloegr, nethon ni wahodd swper ffan golygus, galluog a thalentog mewn ir stwidio i helpu ni ar ein ffordd. Yn anffodus, dim ond Alun Owens oedd ar gael (boom boom). Ma Alun O yn ffan hiwj o dîm pêl-droed Wrecsam a ma fe hefyd wedi rhyddhau record bêl-droed gyda'r Profiad or enw "Methu Stopio Siarad am Bêl Droed." Felly o ni'n meddwl mai Alun oedd y boi gore i rhoi cyngor i ni am ein RAP Caerdydd.
Ma gan Alun chwaeth wych felly nath e roi 10/10 o'n RAP ni - er nath e weud joc am "C" tawel - ond netho ni ddim deall hwna...
Netho ni hefyd roi ein barn ar lawer o ganeuon pêl-droed erill fel Anfield Rap a C'mon You Reds a chân tîm pêl-droed Cwmderi sef "Ar y Bl'an". Odd cân Cwmderi yn dda iawn - ond clawr y sengl 7 modefedd oedd ore. Edrychwch ar hyncs Pobol y Cwm yn eu siorts! Sarjant Jêms yw ffefryn Glyn, a Dic Deryn yw'r un i Magi - ond ma siorts tin Denz yn neud i'r ddau ohonyn ni fynd yn ecsited iawn hefyd!
Mwynhewch