Ö÷²¥´óÐã

Archifau Mehefin 2011

Fel y dwedwyd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:13, Dydd Gwener, 24 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Casgliad yr wythnos o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig.


Darllen gweddill y cofnod

Canwr y Byd 2011 - y noson olaf

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwyn Griffiths | 05:47, Dydd Llun, 20 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Bu Gwyn Griffiths yn blogio bob dydd o gystadleuaeth Ö÷²¥´óÐã Canwr y Byd Caerydydd 2011. Dyma sut yr aeth hi nos Sul, yn noson olaf.

Darllen gweddill y cofnod

Canwr y Byd 2011 - nos Wener

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwyn Griffiths | 04:46, Dydd Sadwrn, 18 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Mae Gwyn Griffiths wedi bod yn blogio o gystadleuaeth Ö÷²¥´óÐã Canwr y Byd Caerdydd bob dydd yr wythnos hon.

Nos Wener oedd noson Gwobr y Datganiad gyda doniau'r ifanc yn tanio'r gynulleidfa

Darllen gweddill y cofnod

Dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:59, Dydd Gwener, 17 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Casgliad yr wythnos o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.


Darllen gweddill y cofnod

Canwr y Byd 2011 - Nos Iau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwyn Griffiths | 04:44, Dydd Gwener, 17 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Y mae Gwyn Griffiths yn blogio'n ddyddiol o gystadluaeth Canwr y Byd Caerdydd 2011.

Ym mhrif gystadleuaeth Ö÷²¥´óÐã Canwr y Byd Caerdydd 2011 y pump fydd yn cystadlu yn y rownd olaf nos Sul yw:

Darllen gweddill y cofnod

Canwr y Byd 2011 - nos Fercher

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwyn Griffiths | 05:42, Dydd Iau, 16 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

"Noson anodd y beirniaid," meddai Gwyn Griffiths sy'n blogio bob dydd o'r gystadleuaeth.

Dal i godi'n gyson mae safon cyngherddau Ö÷²¥´óÐã Canwr y Byd Caerdydd a'r sibrydion oedd fod y beirniaid wedi gorfod ennill eu harian wrth geisio dod i benderfyniad neithiwr.

Andrei Bondarenko, y bariton ifanc 24 oed o'r Wcráin gipiodd wobr y noson, gyda'r awgrym fod dwy o'r merched yn agos iawn ato. Mor agos nes i reithgor y beirniaid gyfaddawdu drwy ei wobrwyo ef.

Andrei

Beth bynnag am hynny, yr oedd Bondarenko - a ganodd yn olaf - yn enillydd y tu hwnt o boblogaidd, a theilwng.

Darllen gweddill y cofnod

Canwr y Byd 2011 - Dydd Mawrth

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwyn Griffiths | 04:57, Dydd Mercher, 15 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Blog dyddiol Gwyn Griffiths o'r gystadleuaeth
Prynhawn Mawrth
Wythnos y merched?

Gŵyr y rhai hynny ohonom sydd o frîd eisteddfodol ac yn dilyn hynt Ö÷²¥´óÐã Canwr y Byd Caerdydd ar y wefan Gymraeg pwy fydd ar lwyfan terfynol cystadleuaeth y Datganiad ers prynhawn ddoe.

Darllen gweddill y cofnod

Canwr y Byd 2011 - Pnawn Mawrth

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwyn Griffiths | 16:37, Dydd Mawrth, 14 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Cyhoeddwyd y pnawn yma pwy fydd y pump, allan o'r 15 oedd yn cystadlu, sy'n canu yn ffeinal Gwobr Datganiad Canwr y Byd Caerdydd y Ö÷²¥´óÐã.

Daeth y cyhoeddiad ar ddiwedd yr olaf o'r rowndiau rhagbrofol yn y Theatr Newydd, Caerdydd, y pnawn 'ma.

Darllen gweddill y cofnod

Canwr y Byd 2011 - Dydd Llun

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwyn Griffiths | 05:21, Dydd Mawrth, 14 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Ail gyfraniad Gwyn Griffiths o'r gystadleuaeth.

Prynhawn dydd Llun
Y gystadleuaeth yn poethi
Codwyd y safon fymryn eto brynhawn ddoe yn nhrydedd rownd ragbrofol y Datganiad gyda phedwar o gantorion y bydd yn gamp i'r beirniaid swyddogol eu gwahanu.

Darllen gweddill y cofnod

Canwr y Byd Caerdydd 2011 - Diwrnod cyntaf

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwyn Griffiths | 05:59, Dydd Llun, 13 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Braf oedd dianc o'r glaw i gynhesrwydd tywyll y Theatr Newydd ar gyfer cychwyn yr ŵyl a elwir yn Ö÷²¥´óÐã Canwr y Byd Caerdydd 2011. A phrynhawn o bleser cyffrous oedd o.

I gychwyn, yr oedd cynrychiolydd Cymru, John Pierce y tenor llawn afiaith o Dreffynnon, ymysg y cystadleuwyr cyntaf ar y llwyfan yn y gystadleuaeth am y Wobr Datganiad.

Darllen gweddill y cofnod

Geiriau'r wythnos

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:15, Dydd Gwener, 10 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Casgliad yr wythnos o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.

Ac mae gwahoddiad i chithau anfon rhagor o bethau dwys, difyr a rhyfeddol a glywywyd


Darllen gweddill y cofnod

Nia yn Abertawe - dydd Sadwrn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 06:40, Dydd Llun, 6 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Cyfraniad olaf Nia LLoyd Jones, Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, sydd wedi bod yn blogio o gefn llwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Abertawe, gydol yr wythnos . . .

Doedden ni ddim ar yr awyr heddiw tan hanner dydd heddiw, felly mi dreuliais i'r bore yn mynd o un rhagbrawf i'r llall gan weld sawl wyneb cyfarwydd.

Un o'r rhai ar y llwyfan yng nghystadleuaeth yr alaw werin heddiw oedd Laura Blundall o Aelwyd Crymych. Mae Laura wrth ei bodd ar lwyfan, ac mae hi bellach wedi sefydlu Ysgol Berfformio yng Nghilgerran o'r enw Dynamix, felly pob lwc iddi hefo'r fenter honno.

Darllen gweddill y cofnod

Nia yn Abertawe - dydd Gwener

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 11:49, Dydd Sadwrn, 4 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

  • Mae Nia Lloyd Jones Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru wedi bod yn blogio o gefn llwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Abertawe bob dydd yr wythnos hon gan gyfarfod cystadleuwyr ac enillwyr lu . . .

Darllen gweddill y cofnod

Nia yn Abertawe - dydd Iau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 08:27, Dydd Gwener, 3 Mehefin 2011

Sylwadau (1)

Mae gohebydd Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, Nia Lloyd Jones, yn blogio bob dydd o gefn llwyfan yr Eisteddfod.

Dydd Iau - diwrnod prysur iawn!

Braf iawn oedd cael sgwrs hefo Gwenllian Llyr ben bore. Mae Gwenllian yn delynores dalentog iawn, ac wedi cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd er pan oedd hi'n ddim o beth.

Darllen gweddill y cofnod

Brecwast, piano a chân

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:55, Dydd Iau, 2 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Newydd fod am frecwast yng Nghaffi Mr Urdd.

Ac un cerddorol iawn oedd o hefyd - a dydw i ddim yn sôn am y bîns chwaith.

Darllen gweddill y cofnod

Nia yn Abertawe - dydd Mercher

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 17:48, Dydd Mercher, 1 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Mae Nia Lloyd Jones, Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, yn blogio'n ddyddiol o gefn llwyfan yn Eisteddfod genedlaethol yr Urdd Abertawe ar gyfer y wefan hon.


Y caneuon actol oedd ar y llwyfan gyntaf bore 'ma, a'r rhai ola i gystadlu oedd Ysgol Gynradd Bodedern.

Ar ôl dod oddi ar y llwyfan mi ges i air efo nhw ac roedd un ohonyn nhw - John Henry wedi mwynhau ei hun gymaint nes ei fod o wedi dod i benderfyniad mawr - mae o isio bod yn actor!

Darllen gweddill y cofnod

Aduniad aelwyd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:34, Dydd Mercher, 1 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Am dri o'r gloch ddydd Sadwrn ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Abertawe bydd aduniad go arbennig yn adeilad Annedd Wen ar y maes.

Darllen gweddill y cofnod

Nia yn Abertawe - Sgorio wedi'r Steddfod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 09:11, Dydd Mercher, 1 Mehefin 2011

Sylwadau (1)

Bore Mercher



Ac ar ôl diwrnod gwych yn Steddfod ddoe - dyma fi nôl i'r gwesty yn Abertawe neithiwr ac i goroni'r diwrnod - pwy oedd yn fanno ond tîm pêl-droed Abertawe - yn barod i fynd ar y bws o gwmpas y ddinas.

Wel mi roeddwn i wedi gwirioni ac fe gafodd Elin dynnu ei llun hefo Scott Sinclair fel y gwelwch chi ac mi wnes innau ddymuno'n dda i Brendan Rogers - ac mi winciodd arna i!!
Diwrnod da!!

Nia yn Abertawe - dydd Mawrth

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 08:50, Dydd Mercher, 1 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Mae Nia Lloyd Jones o Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru yn blogio bob dydd o gefn y llwyfan. Dyma gyfraniad dydd Mawrth.

Gweld y Bliws
Ymddiheuriadau cyn cychwyn heddiw nad oes gen i fawr o luniau -yn anffodus mae'r camera wedi torri, a chyn i neb ddweud dim - nid y fi oedd ar fai!


Nia a'r Band!

Wel fe gawson ni lond lle o offerynwyr ar y llwyfan heddiw ar gyfer cystadleuaeth gynta'r dydd - y gerddorfa neu fand blwyddyn 6 ac iau - a dydi o'n syniad gwych bod yr Urdd yn cynnal y rhagbrawf ar y llwyfan, a bod pawb yn cael y cyfle i berfformio yn y pafiliwn?

Roedd hi'n gystadleuaeth dda hefyd , a llongyfarchiadau mawr i Ysgol Gymraeg Aberystwyth, Ysgol Gynradd Pontrobert ac i griw y 'Blues Brothers' Ysgol Gynradd Llanfairpwll ar ddod i'r brig.

Seiniau Sbaenaidd
Un o'r enwau mwyaf diddorol dwi wedi ei glywed hyd yma ydi enw Steffan Ortega-Davies - oedd yn cystadlu ar yr unawd llinynnol. Sbaenwr ydi tad Steffan ac felly dyna egluro'r enw!

Mae Steffan yn siarad Sbaeneg yn rhugl ac yn chwarae'r soddgrwth (cello), ac wrth gwrs mae o'n rhannu ei enw hefo Steffan arall sydd yn unawdydd o fri - sef Steffan Morris (oedd yn perfformio yn y cyngerdd nos Sul), ac mae Steffan M wedi rhoi ambell i wers i Steffan O D.

Dw i newydd weld Steffan Morris ar y maes hefyd ac mae o erbyn hyn yn astudio yn Awstria, ond yn falch iawn o gael bod adre ar gyfer yr Eisteddfod eleni.

Ymgom dau
Ianto a Mali Elwy enillodd gystadleuaeth yr ymgom heddiw. Brawd a chwaer ydyn nhw o Ysgol Gynradd Bro Aled, ac mi roedd hon yn sioe deuluol go iawn gan mi eu brawd mawr nhw - Morgan oedd yn gyfrifol am eu hyfforddi nhw ar y cyd hefo Magi - sydd yn byw ar draws y cae i'w cartref nhw!

Fe fu Morgan a Magi yn cystadlu yn y gystadleuaeth hon yn y gorffennol hefyd - gan gael llwyddiant mawr, felly braf iawn oedd gweld bod y traddodiad a'r diddordeb yn parhau.

O'r Port
Un o'r ysgolion dwi bob amser yn edrych ymlaen at eu gweld gefn llwyfan ydi Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog. Dyma chi griw o rafins go iawn! Mi roedd y creaduriaid wedi cael siwrne hir ar y bws o Port, a sawl un a'i stumog yn troi.

Ben oedd y callaf ohonyn nhw - wedi dod i lawr yn y car efo mam gan fynd 'dow dow'!!

A sôn am fynd - dymuniadau gorau i'r prifathro, Ken Hughes - sydd yn ymddeol y Nadolig. Mae o wedi gweithio mor galed yn cefnogi'r Eisteddfod ar hyd y blynyddoedd, a dwi wir yn gobeithio y bydd o dal yn dod i gefn llwyfan am sgwrs.

Pellach o'r lleuad

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 06:16, Dydd Mercher, 1 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Mae'r rhai hynny a fynychodd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe yn 2006 yn dal iu siarad am gyflwr y maes yr wythnos honno..

Darllen gweddill y cofnod

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.