Ö÷²¥´óÐã

Archifau Tachwedd 2010

Dewi Llwyd ag Iwan Bala

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 14:09, Dydd Sul, 28 Tachwedd 2010

Sylwadau (0)

Fel mae ei enw'n awgrymu, ym Mhenllyn y mae gwreiddiau'r arlunydd Iwan Bala. Ac mae'r blynyddoedd cynnar hynny wedi dylanwadu'n drwm ar ei waith. Ond yng Nghaerdydd y mae ei gartref erbyn hyn, ac yno gyda'i wraig (sydd o dras Roegaidd) a'i blant y mae fel arfer yn treulio'r Sul.

Iwan Bala

Weithiau mae cyfle i fynd draw i'r stiwdio sydd ganddo yn ardal y Bae, ond mae'n gresynu nad oes modd mynd yno'n amlach.

Mae'n cydnabod nad yw ei ddarluniau'n rhad, ond fel aml i artist mae'n gorfod derbyn mai dim ond cyfran ohonynt sy'n cael eu gwerthu.

Ers pedair blynedd bellach mae Iwan yn cael boddhad aruthrol wrth ddysgu myfyrwyr celf ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin.

Yno hefyd mae'n cael cyfle i ysgrifennu am y pwnc sydd mor agos at ei galon. Wedi diwrnod yn darlithio 'dydy troi at waith arlunio ddim yn hawdd.

Ond yn aml bydd y dasg o baratoi ar gyfer arddangosfeydd yn sbardun iddo ac yn sicrhau fod gwaith newydd yn dod i'r fei yn rheolaidd.

Mae'n siomedig nad oes mwy o bobl yn gwerthfawrogi celf gyfoes, ac yn galw arnyn nhw i wneud mwy o ymdrech i ddeall yr hyn y mae'r artist yn ceisio ei gyfleu.

Ar waetha hynny mae'n teimlo'n freintiedig ei fod yn cael ymhel yn ddyddiol a'i ddiddordeb pennaf, sef celf.

Dewi Llwyd ag Elinor Jones

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 14:03, Dydd Sul, 21 Tachwedd 2010

Sylwadau (0)

O gyfnod rhaglen newyddion 'Y Dydd' hyd at ddyddiau mwy hamddenol 'Wedi 3' mae Elinor Jones wedi bod yn cyflwyno rhaglenni teledu Cymraeg a Saesneg ers deugain mlynedd bellach.

Elinor Jones

Ac fel rhan o dim o gyd-weithwyr ifanc a brwd mae hi'n dal wrth ei bodd yn mynd i'r afael ac amrywiaeth eang o bynciau difyr.

Mae'n poeni am ddyfodol S4C ac mae hynny rhywsut yn briodol o gofio ei bod yn byw yn y ty yn Llangadog a fu'n gartref am flynyddoedd i Gwynfor Evans.

Ac fel ty Gwynfor y mae 'Talar Wen' yn cael ei adnabod gan rai o hyd er fod Elinor yno ers saith mlynedd ar hugain erbyn hyn ar ol iddi benderfynu gadael Caerdydd ac ymgartrefu yn Nyffryn Tywi.

Mae ei merch Heledd a'i theulu'n byw'n agos ac mae Elinor yn mwynhau bod yn famgu i dri o blant er ei bod yn cyfaddef y gall hynny fod yn waith caled ar brydiau!

Ar y Sul bydd yn mynd i'r eglwys yn Llandeilo o leiaf ddwywaith y mis, ond mae'n cydnabod serch hynny mai camgymeriad oedd astudio diwinyddiaeth yn y coleg!

'Does dim yn ei gwylltio mwy na Chymry Cymraeg sy'n dewis siarad Saesneg a'i gilydd.

Dewi Llwyd a Meic Povey

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 15:03, Dydd Sul, 14 Tachwedd 2010

Sylwadau (0)

Meic Povey yw un o ddramodwyr amlycaf ei genhedlaeth, ac ers y saithdegau, mae wedi llwyddo i gynhyrchu gwaith gafaelgar ar gyfer y theatr a'r teledu.

Ar hyn o bryd mae S4C yn darlledu'r drydedd gyfres o 'Teulu' sydd, fel y ddwy arall, wedi ei sgriptio gan Meic.

Ond cyn iddo ddechrau canolbwyntio ar ysgrifennu, fel actor y daeth i amlygrwydd ar lwyfan ac ar deledu, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae'n dal i ystyried ei gyfnod fel un o gymeriadau'r gyfres 'Minder' fel un o uchafbwyntiau ei yrfa.

Efallai mai dramodydd arall, Gwenlyn Parry, oedd y dylanwad pennaf arno wrth i'r ddau gyd-weithio yn nyddiau cynnar 'Pobl y Cwm'.

Yng Nghaerdydd y mae ei gartref ers degawdau bellach ond fe'i magwyd yn Nant Gwynant a Garndolbenmaen, ac mae'n cyfleu caledi'r cyfnod hwnnw yn ei hunangofiant hynod ddarllenadwy 'Nesa peth i ddim'.

Yn hwnnw, fel yn ei sgwrs a Dewi, mae Meic yn son am y boen ddirdynnol o golli ei wraig Gwen. 'Does gan Meic ddim i'w ddweud wrth grefydd, ac ar y Sul, mae wrth ei fodd yn coginio ar gyfer gweddill y teulu.


Dewi Llwyd a Lyn Ebenezer

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 15:00, Dydd Sul, 7 Tachwedd 2010

Sylwadau (0)

Lyn Ebenezer heb os yw un o newyddiadurwyr mwyaf cynhyrchiol Cymru.

Lyn Ebenezer

Wedi cyfnod hir yn byw yn Aberystwyth mae bellach yn ei ol yn byw yn mro ei febyd, ac ym Mhontrhydfendigaid mae wrth ei fodd yn mynd i'r capel bob Sul.

Mae'n dal i fod yn gyfrannwr rheolaidd i'r Cymro, y papur y bu'n ohebydd iddo am flynyddoedd cyn mentro i'r byd teledu a rhaglen Hel Straeon.

Mae gan Lyn golofn hefyd yn y Cambrian News a'r Tir, a 'does yr un diwrnod yn gyflawn meddai heb iddo ysgrifennu mil o eiriau o leiaf.

Mae'n treulio cryn dipyn o'i amser yn llunio ac yn golygu hunangofiannau, ac erbyn hyn mae'n awdur dros drigain o lyfrau.

Chwaraeon yw ei ddiddordeb mawr arall.

Yn lleol mae'n ysgrifennydd ar glwb pel-droed y Bont, ond mae wedi treulio aml i Sadwrn hefyd yn teithio i weld ei annwyl Arsenal!

Ond efallai mai teithio'n amlach i Gaerdydd y bydd Lyn o hyn ymlaen gan ei fod bellach yn dadcu i wyres fach, Anni.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.