Ö÷²¥´óÐã

Archifau Mawrth 2011

Ffrae Harddwch Bryniau Clwyd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Manylu Criw Manylu | 13:53, Dydd Mawrth, 29 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Mae'n ddiwrnod tyngedfenol i Ddyffryn Llangollen, Dyffryn Dyfrdwy a rhan ddeheuol Bryniau Clwyd wrth i Gyngor Cefn Gwlad Cymru gyfarfod i benderfynu a ydyn nhw'n awyddus iddyn nhw gael statws swyddogol i warchod eu harddwch. Mae rhannau o Sir Ddinbych a Fflint yn perthyn i Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd yn barod. Drwy berthyn iddo, dywed swyddogion y cynllun ei bod yn haws denu arian, ar ffurf grantiau i'r cylch. Un cynllun lleol'n cael ei ariannu gan y Loteri ydi Cynllun y Grug a'r Caerau, sy'n cynnal a chadw cynefinoedd ac olion hanesyddol Bryniau Clwyd. Yn ol y cadeirydd, Rod Williams, mae'r gwaith maen nhw wedi ei wneud yn gwella llwybrau a meysydd parcio ar y bryniau wedi denu nifer mwy o ymwelwyr i'r ardal.

Gobaith rhai o bobol Dyffrynnoedd Llangollen a Dyfrdwy yw y byddai ymestyn ffiniau'r ardal harddwch yn eu helpu hwythau i farchnata'r cylch ac i ddenu twristiaid. Mae angen gwaith yn yr ardal, meddai'r cynghorydd Huw Jones o Gorwen, gan fod ffatri fu'n cyflogi rhyw gant o bobol yno wedi cau yn ddiweddar.

Ond mae eraill yn ffyrnig yn erbyn y cynllun. Pryder rhai o ffermwyr y cylch yw y byddai Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn gorfodi haen o fiwrocratiaeth a chostau ychwanegol arnyn nhw.

"Mae yn ardal o harddwch arbennig," meddai Eifion Davies sy'n ffermio ger Pont Fadog yn Nyffryn Ceiriog. "Ond dydi o ddim yn naturiol. Y ffermwyr sydd wedi ei wneud o... Rhedig busnes ydan ni. A dydyn ni ddim isho 'chwaneg o bobol i ddweud wrthym ni be i'w wneud. Dwi ddim yn gweld dim pwrpas i ddod ag Ardal o Harddwch i mewn. Y cwbwl mae'n wneud ydi rhoi gwaith i chydig o ddynion - achosi lot mwy o drafferth i ni."

Ffermio dwys - da neu ddrwg?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Manylu Criw Manylu | 15:22, Dydd Mawrth, 22 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Roedd hi'n gryn ryddhad i fudiadau hawliau anifeiliaid pan gafodd cais dadleuol i ddatblygu fferm laeth ddwys fwyaf Prydain yn Nocton yn sir Lincoln ei dynnu'n ôl. Ond pharodd y gorfoledd ddim yn hir. Mae 'na fwy o geisiadau i ddatblygu ffermydd o'r fath - un yn Nhre'r Llai ger y Trallwng ym Mhowys. Gobaith Fraser Jones ydi cynyddu ei yrr o ddau gant o wartheg i fil - a'u cadw dan do am gyfnodau helaeth. Dywed bod yn rhaid iddo ddatblygu oherwydd y pris isel y mae ffermwyr yn ei gael am eu llaeth.

Yn ôl ymgyrchwyr, mae ffermydd o'r fath yn annaturiol ac yn greulon. Maen nhw'n dadlau bod gwartheg angen mynd allan i bori, a bod rhai sy'n cael eu cadw dan do yn fwy tebygol o ddioddef afiechydon.

Mae ffermydd dwys yn cadw miloedd o wartheg yn gyffredin yn yr Unol Daleithiau, ac mae Manylu'n clywed barn ymgynghorydd amaethyddol sydd wedi bod yno'n ymweld ag un. Mae e'n dadlau bod safon y gofal mae'r anifeiliaid yn ei gael yn dda, a bod yn rhaid ystyried ffermio'n ddwys yn y wlad yma hefyd oherwydd y galw am fwyd rhad wrth i'r boblogaeth gynyddu.

Yn ôl rhai, mae'n anochel y bydd mwy o ffermydd dwys yn cael eu datblygu ym Mhrydain. Ond nid ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid yn unig sy'n bryderus. Yn ôl cadeirydd pwyllgor llaeth Undeb Amaethwyr Cymru, Eifion Huws, mi allen nhw fod yn ergyd i'r fferm deuluol.

"Am bob fferm sydd efo mil o wartheg - mae'n gwneud ffermwr bach efo cant o wartheg allan o fusnes," meddai.

Manylu - gyda Alwen Williams, heno toc wedi chwech.

Cyfwelaid penblwydd Ieuan Evans

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 14:18, Dydd Mawrth, 22 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Mae Ieuan Evans, cyn gapten Rygbi Cymru yn parhau i gofio pob cais a sgoriodd, o'i gyfnod yn yr ysgol hyd at pob cais dros ei wlad.

Ieuan Evans

Fel un ddioddefodd nifer o anafiadau ar y cae mae o'n gwerthfawrogi bellach fod sylwegu ar gemau yn ei alluogi i gyrraedd adref mewn un darn!

Yn ogystal a sylwebu mae'n gadeirydd Croeso Cymru a diddordeb mawr ganddo mewn marchnata.

Yn eithaf balch fod rhan fwyaf o'i yrfa yn ystod y cyfnod amateur, achos mae'n cyfaddef y byddai'n anodd ganddo feddwl am rygbi bob awr o bob dydd.

Ei anrheg penblwydd delfrydol fyddai cael mynd allan ar noson ei benblwydd am bryd o fwyd gyda'i dri phlentyn a'i wraig.

Adolygiad o ddwy nofel a dwy raglen deledu

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 13:58, Dydd Mawrth, 22 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Adolygiad Catrin Beard o ddwy nofel newydd.

Panglas gan Mihangel Morgan ag Un ddinas dau fyd gan Llwyd Owen

Yn ogystal a chyfresi newydd ar S4C -

Ras yn erbyn amser, hynt a helynt Lowri Morgan a cyfres newydd Tudur Owen.

Peter Hughes Griffiths

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 13:52, Dydd Mawrth, 22 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Ar drothwy ei benblwydd bu'r Cynghorydd Sir Peter Hughes Griffiths yn trafod bywyd prysur iawn ym myd addsyg, gwleidyddiaeth ac fel arweinydd nosweithiau llawen.

Peter Hughes Griffiths

Yn 21 oed yn hytrach na mynd allan i ddathlu ei benblwydd fe fu'n cystadlu gyda chwmni drama'r coleg yn Aberystwyth, roedd yn falch iawn iddyn nhw fod yn fuddugol yn y gystadleuaeth y noson honno!

Bu cyfle iddo fod yn actor proffesiynol, ond penderfynu aros ym myd addysg wnaeth Peter.

Mae ganddo atgofion braf o gael arwain mewn nosweithiau llawen led led Cymru pan oedd neuaddau pentrefi yn llawn.

Yn 65 fe gafodd wireddu breuddwyd - cael teithio i Batagonia.

Ar ei benblwydd eleni mae'n gobeithio derbyn ei ffon symudol cyntaf, un o'r math diweddaraf fydd yn sicrhau ei fod nid yn unig yn gallu sgwrsio a'i ffrindiau ond tecstio a gweld y diweddaraf ar y we!

Adolygiad Un nos Ola Leuad

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 10:59, Dydd Mawrth, 15 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Adolygiad Iwan Edgar o Un nos Ola Leuad - Taith Theatr Bara Caws Hyd Ebrill 2il 2011

Carys gwilym a Sion Trystan yn ymarfer

Adolygiad o Deffro'r Gwanwyn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 10:42, Dydd Mawrth, 15 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Adolgyiad o gynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol gan Sioned Williams - Deffro'r Gwanwyn fydd ar daith led led Cymru hyd Ebrill 15fed 2011


Dyfodol Rygbi Cymru

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Manylu Criw Manylu | 10:37, Dydd Mawrth, 15 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Yn dilyn buddugoliaeth Cymru yn y gem yn erbyn Iwerddon dros y Sul, ar raglen Manylu heno bydd Dewi Llwyd yn trafod sefyllfa rygbi yng Nghymru heddiw gyda tri chyfrannwr stiwdio - y sylwebydd Huw Llywelyn Davies, y cyn glo rhyngwladol Derwyn Jones ac aelod o fwrdd Undeb Rygbi Cymru Peredur Jenkins.

Yn ogystal ceir barn y cyn chwaraewyr, Brian Davies a Non Evans a barn cefnogwyr clybiau rygbi y Tymbl a Llangefni. Cawn glywed eu barn ar safon y tim cenedlaethol, rol y rhanbarthau a'r clybiau lleol.

Manylu, gyda Dewi Llwyd, heno toc wedi chwech.

Cyfweliad Eluned Morgan

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 15:14, Dydd Gwener, 11 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Wedi ymddeol ar ol 15 mlynedd yn Senedd Ewrop mae Eluned Morgan yn wynebu her wleidyddol newydd yn Nhy'r Arglwyddi.

Dewi Llwyd a Eluned Morgan

Fel un o'r rhai ieuengaf yn y sefydliad mae'r Fonhesig Morgan o Drelai yn llwyr fwriadu gwneud argraff ar Dy sy'n fwy nodededig am fod ag aelodau dwbl ei hoed hi.

Fel un gafodd ei magu mewn cartref gwleidyddol, mae'n cydnabod yn ystod ei gyrfa ei bod yn lwcus gan iddi fod yn y lle iawn ar yr amser iawn.

Mae'n gweithio'n rhan amser i gwmni Swalec ac yn cyfaddef fod ei hwythnos yn un brysur iawn rhwng y gwaith hwnnw, mynd i Lundain a bod yn fam i ddau o blant.

Yn ferch i Ficar, mae mynd i'r Eglwys ar y Sul yn parhau yn bwysig iddi.

Adolygiad Cyngerdd Gwyl Ddewi

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 10:43, Dydd Mawrth, 8 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Sioned Webb fu'n gwrando ar berfformiad Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Ö÷²¥´óÐã yn Neuadd Dewi Sant ar Fawrth 1af.

Sioned Webb

Adolgyiad o'r ffilm Patagonia

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 10:36, Dydd Mawrth, 8 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Branwen Gwyn sy'n rhoi ei barn am ffilm ddiweddara'r cyfarwyddwr Mark Evans.

Branwen gwyn

Hawl i Holi - Refferendwm 2011

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Manylu Criw Manylu | 15:15, Dydd Mawrth, 1 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Rhifyn arbennig o Hawl i Holi ar drothwy Refferendwm 2011 gyda Dewi Llwyd yn cadeirio drafodaeth o Ganolfan Dylan Thomas, Abertawe.

Ar y panel bydd Syr Eric Howells, Rod Richards, Helen Mary Jones A.C. a Gareth Hughes. gyda chynulleidfa o bobl yr ardal.

Hawli Holi yn Abertawe

HAWL I HOLI heno, nos Fawrth Mawrth 1af, toc wedi chwech.

Cyfweliad Penblwydd Gwyn Elfyn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 11:21, Dydd Mawrth, 1 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Yn dathlu ei benblwydd ar Chwefror 29ain mae Gwyn Elfyn yn honni mai tua 12 oed yw ar hyn o bryd!

Gwyn Elfyn

Er mai acen ddeuheuol sydd gan ei gymeriad Denzil yn Pobl y Cwm, gan iddo gael ei fagu yn y gogledd hyd nes oedd o'n 8 oed mae Gwyn yr un mor gyffyrddus yn siarad Cymraeg gydag acen ogleddol!

Yn fab y mans, mae'n parhau a chysylltiadau cryf a'r capel ac yn ysgrifennydd Capel Seion Drefach.

Pan yn yr ysgol gynradd ei ddyhead oedd cael bod yn gowboi neu beldroediwr, ond erbyn yr ysgol uwchradd ffermio neu chwarae rygbi oedd yn mynd a'i fryd! Ac er na chafodd yr actor y cyfle i ddilyn yr un o'r gyrfaon hyn, mae'n ddiolchgar am waith cyson Pobl y Cwm.

Yn ystod y blynyddoedd mae wedi mwynhau cael actio cymeriad sydd wedi wynebu sawl her, o drafferthion ar y fferm i werthu'r siop a'r un mwyaf dirdynnol, colli plentyn yn y crud.

Fel rhywun sy'n hoff iawn o geir ei anrheg penblwydd delfrydol fyddai Austin Martin neu fe hoffai weld pawb yng Nghymru yn siarad Cymraeg fe fyddai hynny'n anrheg penblwydd am oes!

Darlledwyd y cyfweliad 27.02.11

Adolygiad o Il Trovatore

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 11:13, Dydd Mawrth, 1 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Adolygiad gan Frank Lincoln o gynhyrchiad Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru o Il Trovatore gan Verdi.

Darlledwyd 27.02.11

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.