Ö÷²¥´óÐã

Archifau Ebrill 2011

Eddie Ladd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 11:02, Dydd Mercher, 27 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Dathlu ei phenblwydd gyda phryd o fwyd da yw gobaith y berfformwraig Eddie Ladd.

Yn fwy adnabyddus yn ystod ei phlentyndod wrth ei henw bedydd - Gwenith Owen fe ddewisiodd enw cwbl wahanol ar gyfer ymuno ag undeb Equity.

Bydd yn perfformio fel Eddie Ladd gan deithio Prydain gan ddisgrifio ei hun fel artist perfformiadol gydag elfen gref o ddawns yn ei sioeau.

Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar baratoi sioe newydd yn ogystal a pharhau i deithio gyda'r sioe "Ras goffa Bobby Sands".

Daeth y syniad am y sioe honno wrth iddi fynd allan i redeg un diwrnod.

Fel Cardi mae hi'n mynnu cael dau anrheg penblwydd - un delfrydol fyddai cael Cymru Rydd, ac yn ail hoffai gael y ddawn i fod yn garedig.

Darlledwyd y sgwrs 17.04.11

Celfyddydau 17.04.11

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 10:14, Dydd Mercher, 27 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Beca Brown yn adolygu'r gyfres Porthpenwaig ar S4C a chyfrol newydd Menna Elfyn - Merch Perygl.

Pobl Ifanc yn holi'r Gwleidyddion

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Manylu Criw Manylu | 09:06, Dydd Mercher, 20 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Heno, ar drothwy etholiadau'r Cynulliad, fe glywn ni gan nifer o bobl ifanc am eu pryderon nhw am y dyfodol - o ddisgyblion ysgol i weithwyr ieuenctid. Beth yw'r pynciau llosg sy'n eu poeni?

Catrin Gerallt sy'n holi gwleidyddion o'r bedair brif blaid yng Nghymru sef:

* Alun Davies ar ran y blaid Lafur
* Suzy Davies ar ran y Ceidwadwyr
* Nerys Evans o Blaid Cymru
* a Rhys Jones gwleidydd ifanc sy'n cynrychiolu'r Democratiaid Rhyddfrydol

Manylu, nos Lun, 1804, Radio Cymru.

Ynni Niwclear - Dim Diolch?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Manylu Criw Manylu | 11:57, Dydd Mercher, 13 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Mis ar ôl i ddaeargryn Japan greu argyfwng niwclear, Manylu sy'n gofyn beth ydi'r oblygiadau i'r diwydiant ynni - ac os ydi hi nawr ar ben ar ynni niwclear.

Wrth i arbenigwyr diogelwch barhau i geisio reoli'r sefyllfa ym mhwerdy Fukushima yn Siapan, ar ôl i'r ddaeargryn a tsunami achosi ffrwydriadau mewn sawl adweithydd, mae yna alw ar roi stop ar ddefnyddio'r dechnoleg.

Mae protestwyr gwrth-niwclear yn dweud bod digwyddiadau yn Japan yn profi na ellir diogelu gorsafoedd niwclear rhag damweiniau a bod peryglon ymbelydredd yn rhy ddifrifol i gyfiawnhau parhau i'w ddefnyddio.

Ond heb niwclear, sut mae cyflenwi ein galw cynyddol am drydan mewn cyfnod pan mae llywodraethau ar draws y byd yn ceisio lleihau'r defnydd o danwydd ffosil oherwydd pryderon am gynhesu byd eang?

Oes yna opsiynnau realistig ar gyfer rwan - a'r dyfodol? Neu ydi cefnogwyr niwclear yn iawn i ddadlau bod y diwydiant yn ddiogel - a heb niwclear, byddai'r goleuadau yn dechrau diffodd ar draws y wlad?

Manylu, nos Lun, Radio Cymru.

Adolygiad o 3 CD Newydd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 14:50, Dydd Llun, 11 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Adolygiad gan Sioned Williams o 3 CD - Tan gan Lleuwen Steffan, Annwn gan Catrin Finch a Canu Rhydd gan Fernhill.

Cyfweliad Penblwydd Sioned Mair

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 11:16, Dydd Sul, 10 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Doedd Sioned ddim yn coginio pan oedd hi'n ifanc, a doedd ganddi fawr o ddiddordeb yn y maes nes y bu'n rhaid iddi fwrw ati ar ol priodi! Cyn cyflwyno eitem goginio ar raglen Wedi 3, mae hi'n paratoi drwy arbrofi ar y teulu gartref.

Yn ogystal a choginio mae Sioned yn brysur yn gwneud gwaith cyhoeddi ar S4C ac yn gweithio i lywodraeth y Cynulliad yn hybu bwyd. Mae cadw'n heini'n bwysig iddi. Bydd yn ymweld a'r gampfa'n gyson ac mae wrth ei bodd yn cerdded gyda'i gwr Russell Isaac yn ardal Sir Benfro.

Fel rhywun a ddaeth i amlygrwydd fel cantores gyda'r grwp Sidan pan oedd yn 17 oed, mae Sioned yn bendant fod y cyfnod prysur hwnnw wedi lliwio ei bywyd a'i gwneud yr hyn ydi hi heddiw. Yn fam i dri o blant, mae dau fab yn rhannu ei diddordeb mewn cerddoriaeth ac yn aelodau o fand Cuba Cuba.

Mae Sioned hefyd yn parhau i ganu yn achlysuor ac yn mwynhau yn arw. Anrheg Penblwydd delfyrdol Sioned fyddai llyfr coginio!

Her Fwyaf Cymdeithas?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Manylu Criw Manylu | 10:29, Dydd Llun, 4 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Ymhen ugain mlynedd bydd dros treian o boblogaeth Prydain dros 65 oed ac yn byw yn hirach na mae nhw heddiw. Ond mewn hinsawdd economaidd anodd iawn dros y blynyddoedd beth fydd y ffordd orau i ofalu amdanynt?

Ar hyn o bryd, mae na lawer mewn ysbytau, ac eraill mewn cartrefi preswyl ond mae amryw o rheini'n gorfod cau. Ydi hi'n ymarferol ac yn gost effeithiol i ofalu am hen bobl yn ei cartrefi ei hunain?

Fe ddweodd amryw o deuluoedd wrth Manylu bod na ormod o fiwrocratiaeth a gormod o ddyblygu asesiadau ar gyfer unigolion bregus. Yn waeth na hynny medd rhai beirniaid mae na loteri côd post ynglyn â'r hyn sy'n digwydd neu'n gallu digwydd o un rhan o Gymru i'r llall.

Beth felly yw'r ateb?

Manylu heno toc wedi chwech.

Cyfweliad penblwydd John Hartson

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 11:10, Dydd Sul, 3 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Cyn dathlu ei benblwydd yn 36 oed bu John Hartson yn son am ei ddyddiau fel peldroediwr yn ogystal â thrafod ei gyfnod anodd wrth ddelio gydag effaith canser y ceilliau.

John Hartson

Mae'n parhau yn ddiolchgar iawn am yr holl gyfarchion a dymuniadau da a dderbyniodd tra yn dioddef o'i salwch. Roedd y canser wedi lledaenu drwy ei gorff, ond mae'n eithaf sicr pe bai wedi mynd at y meddyg ynghynt yn hytrach nag anwybyddu'r symptomau, sef lympiau ar ei geilliau, byddai wedi dioddef llawer llai. Er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r canser arbennig hwn mae John wedi sefydlu elusen - John Hartson Foundation.

Yn gyn-chwaraewr i amryw o glybiau gan gynnwys Arsenal, Celtic a West Ham, o edrych yn ol ar ei yrfa fel pel-droediwr yr uchafbwynt heb amheuaeth oedd cael chwarae i Gymru. Cafodd 51 cap dros ei wlad. Byddai'n ystyried rheoli yn y dyfodol, ond ar hyn o bryd mae'n mwynhau ei hun yn cael cyfle i sylwebu ar y gem ar amrywiol raglenni teledu. Yn dad i 4 o blant, dau o'i briodas gyntaf a dwy o'r ail - mae wrth ei fodd fod ei fab yn mwynhau ac yn dangos tipyn o ddawn ym maes pel-droed!

Nid yn annisgwyl, ei anrheg pen-blwydd delfrydol fyddai cael iechyd da am flynyddoedd i ddod.

Adolygiad o We Will Rock You

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 11:05, Dydd Sul, 3 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Branwen Gwyn sy'n adolygu sioe We Will Rock you -sioe o gerddoriaeth y grwp Queen sydd ymlaen yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd hyd Ebrill 17eg.

Cyfweliad Angharad Mair

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 11:00, Dydd Sul, 3 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Mae'r gyflwynwraig deledu Angharad Mair yn edrych ymlaen at ddegwad newydd ar drothwy ei phenblwydd yn 50 oed. Fel un sydd wedi cael cyfleon newydd gyda phob degawd - yn eu 20au yn gyflwynwraig deledu yn cyflwyno Newyddion ac yna'r rhaglen Heno.

Heb redeg o gwbl cyn ei phenblwydd yn 30 oed erbyn ei bod yn 37 oed roedd yn athletwraig uchel ei pharch yn cynrychioli Prydain ym mhencampwriaethau'r byd.

Yn ei 40au rhoi'r gorau i redeg, a chael cyfrifoldebau gwahanol fel mam a gwraig fusnes.

Dyma'r cyfnod hefyd y daeth yn golofnwraig wythnosol i'r Wales on Sunday ac yna i gylchgrawn Golwg ac y bu iddi ystyried sefyll fel ymgeisydd Seneddol.

Ei hanrheg pen-blwydd delfrydol fyddai gweld sicrhau annibyniaeth i S4C.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.