Ö÷²¥´óÐã

Archifau Mehefin 2011

Peis Eisteddfodol!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Blas Criw Blas | 14:23, Dydd Iau, 30 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Ma criw Blas di bod yn recordio rhaglen yn ardal WrecsamÌý- ma hi am fod yn Steddfod dda IAWN am beis!

Cewch chi glywed y rhaglen o Wrecsam ymhen pythefnos.


Ìý

Geraint Lloyd a Tammy Jones

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Geraint Lloyd Criw Geraint Lloyd | 10:06, Dydd Iau, 30 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Dros wythnosau'r Haf mae Geraint Lloyd yn cael sgwrs am atgofion carnifalau'r gorffennol, a'r wythnos yma fe gafodd sgwrs gyda'r gantores Tammy Jones o Fethesda.

Roedd hi'n hel atgofion am fod yn Frenhines y Rhosyn yng Ngharnifal Bethesda yn y 50au.

Fe aeth yn ei blaen wedi i son am ei hatgofion wrth iddi ennill ar y rhaglen dalent Opportunity Knocks ym 1975.

Ìý

Ìý

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Ìý

Ìý

Taith y Goets Fawr

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Nia Criw Nia | 11:04, Dydd Mercher, 29 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Wrth i Radio Cymru ddilyn taith y Goets Fawr wythnos yma roedd Trebor Edwards yn cael ei gyfweld gan Lisa Gwilym ar raglen Nia bore dydd Llun yn son am y daith rhwng Groesoswallt i Gaergybi.

Ìý

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Ìý

Clywch hanes taith y Goets Fawr ar Radio Cymru trwy'r wythnos a dilynwch .

Dyfarnu yn Wimbledon

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Geraint Lloyd Criw Geraint Lloyd | 09:30, Dydd Mawrth, 28 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Ar ddiwedd wythnos gyntaf Pencampwriaeth Tennis Wimbledon eleni fe gafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Eirian Jones o Langeitho sydd wedi bod yn dyfarnu yn Wimbledon dros y blynyddoedd.

Gwrandewch hefyd ar bwy mae Eirian yn feddwl wnaiff ennill y Bencampwriaeth eleni.

Ìý

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Ìý

Ìý

Ìý

Ffrae diffoddwyr tân Llanelli

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Manylu Criw Manylu | 10:39, Dydd Llun, 27 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Mi fydd bywydau mewn perygl - dyna yw haeriad rai o ddiffoddwyr tân Llanelli, wrth ddadlau yn erbyn cynlluniau'r gwasanaeth tân i newid patrwm gweithio'r orsaf.

O dan y newidiadau bydd nifer diffoddwyr yr orsaf yn gostwng o wyth ar hugain i dri ar ddeg, gyda'r shifftiau yn ymestyn i gyfnodau o hyd at nawdeg chwe awr.

Ìý

Gorymdaith yn Llanelli

Ìý

Yn ôl gwasanaeth tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, ni fydd y newid yn effeithio ar amseroedd ymateb. Lleihau'r nifer o ddiffoddwyr sydd ddim ar ddyletswydd ar unrhyw adeg yw'r bwriad, gan arbed arian i'r trethdalwyr ar yr un pryd. Mae nhw yn mynnu y bydd na ddigon o amser i orffwys yn ystod shifftiau hir.

Ond mae Carwyn Thomas, sydd wedi bod yn ddiffoddwr tân yn Llanelli ers saith ar hugain o flynyddoedd, yn poeni y bydd y gwasanaeth i'r cyhoedd yn dioddef o dan y cynlluniau.

"Amser des i Lanelli gynta' ro'dd pedwar deg ohonom ni 'na a ni nawr lawr i wyth ar hugain a ma'i eitha' strygl i gadw'r shifft i fynd fel mae nawr i fod yn onest a ma nhw'n siarad nawr am dorri ni lawr i dri ar ddeg so fi ffili gweld fy hunan fel ma hwnna yn mynd i weithio. Fi'n dod i benni gwaith nawr a licien i gysgu'n dawel amser byddai'n ymddeol a gwybod bod fy mhlant i a finnau yn saff yn ein cartref, fel i fi wedi bod yn cadw pobl Llanelli yn saff fy hunan dros y blynydde."

Mae'r system o weithio eisoes mewn bodolaeth yng ngorsaf dân Pontardawe. Yn ôl yr uwch swyddogion tân, mae'n llwyddiannus. Ond bydd Manylu yn clywed pryderon gan un dyn tan o'r orsaf bod blinder yn broblem yno, a bod dim cyfleusterau addas i orffwys yn gyfforddus.

A fydd hi'n argyfwng ar wasanaeth tân Llanelli?

Manylu, gyda Glesni Jones, nos Lun, 27ain o Fehefin. 18.03 Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru

Cyfweliad penblwydd Gwawr Edwards

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 13:42, Dydd Sul, 26 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Y gantores Gwawr Edwards sy'n dathlu ei phenblwydd yr wythnos hon oedd gwestai Dewi Llwyd fore Sul 26.06.11.

Yn ferch fferm o Geredigion, mae hi bellach yn canu yn Glyndebourne ac mae'r gwaith yno yn ei chadw'n brysur iawn.

Yn enillydd sawl cystadleuaeth bellach mae hi'n cydnabod bod cystadlu a dysgu colli yn bwysig iawn yn ei maes hi.

Yn ferch i'r tenor Dafydd Edwards, mae hi bellach wedi cael gwireddu breuddwyd gan mai canu yn broffesiynol oedd ei dymuniad ers pan oedd hi yn ifanc iawn.


Adolygiad o ddwy ffilm newydd gan Catrin Beard

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 13:37, Dydd Sul, 26 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Dwy ffilm newydd - Bridesmaids a Green Lantern gafodd sylw Catrin Beard yn ei hadolygiad celfyddydol ar raglen Dewi Llwyd ar fore Sul 26.06.11



Dot Davies Yn Wimbledon!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Gaynor Davies | 16:29, Dydd Sadwrn, 25 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Wedi cael sgwrs hefo Dot Davies sy'n gweithio yn Wimbeldon ar hyn o bryd - a wedi gosod her fach iddi!

Gofyn iddi ddanfon llun ohoni hi a rhywun enwog cyn diwedd y rhaglen heddiw.

Dot a Annabel Croft

Ìý

Dyma hi hefo Annabel Croft - o'n i wedi gobeithio fydda fo yn rhywun enwog go iawn fatha Jonh McEnroe.Ìý Dot you can not be serious!! Ond diolch am drio.

Gaynor

Ras rhwyfo mewn bath

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Geraint Lloyd Criw Geraint Lloyd | 09:13, Dydd Gwener, 24 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Be well i'w wneud ar ddydd Sul ym mis Mehefin na rhwyfo mewn twb bath. Dyna un gweithgaredd gwahanol sy'n digwydd yn Aberhonddu ar y 26ain o Fehefin.

Eifion Jones sy'n sgwrsio gyda Geraint Lloyd am ras rhwyfo mewn bath Aberhonddu.

Ìý

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Ìý

Chwarae'r cello ar gopa'r Wyddfa

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Geraint Lloyd Criw Geraint Lloyd | 15:28, Dydd Iau, 23 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Geraint Lloyd sydd yn sgwrsio hefo Catrin Tomos o Fangor. Mae Catrin yn un o 13 criw o Ganolfan Gerdd William Mathias fydd yn chwarae'r cello ar gopa'r Wyddfa ddydd Sadwrn yma er mwyn codi arian i elusen Ty Gobaith.

Ìý

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Ìý

Ìý

Ìý

Beti a'i Phobol: Dilys Jones

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Beti a'i Phobol Criw Beti a'i Phobol | 09:26, Dydd Iau, 23 Mehefin 2011

Sylwadau (1)

Dilys Jones o Fethesda yn wreiddiol yn westai Beti a'i Phobol. Aeth Dilys i fyw i Ghana fel cenhades yn y 1960au cyn symud i'r Amwythig yn fwy diweddar.
Ìý
Mae Dilys yn trafod byw yn Ghana gyda Beti George.

Ìý

Ìý

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Ìý

Ìý

Bwlio Homoffobig - profiadau'r dioddefwyr

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Manylu Criw Manylu | 13:38, Dydd Llun, 20 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Yn ôl mudiad sy'n ymgyrchu dros hawliau pobl hoyw mae bwlio homoffobig yn broblem sy' ar gynnydd yng Nghymru. Mae Stonewall Cymru yn honni fod disgyblion ysgol dair gwaith yn fwy tebygol o gael eu bwlio oherwydd eu rhywioldeb nag ydyn nhw ar sail hil neu grefydd.

Bydd rhifyn yr wythnos o Manylu yn ymchwilio ymhellach i achosion o fwlio homoffobig ac yn clywed am brofiadau un bachgen ysgol o'r de.

Ac mae 'na ddigwyddiadau y tu allan i goridorau'r ysgolion hefyd. Bydd y dyfarnwr rygbi rhyngwladol, Nigel Owens, yn siarad am brofiad annifyr iawn gafodd e' tra'n dyfarnu mewn gêm yn Uwch Gynghrair Cymru y tymor yma.

A bydd sylw hefyd i achos cyn-filwr o ardal Rhydaman sy'n honni ei fod e' a'i bartner wedi cael eu bwlio gan gymydog oherwydd eu bod nhw'n hoyw.

Bwlio homoffobig - profiadau'r dioddefwyr, a beth sy'n cael ei wneud i'w daclo? Ioan Wyn Evans fydd yn holi ymhellach ar Manylu ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, ar nos Lun, Mehefin 20fed, am 6 o'r gloch.

Celfyddydau 19/06/2011

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 09:28, Dydd Llun, 20 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Dwy arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd aeth a bryd Sioned Williams ar raglen Dewi Llwyd fore Sul.

Arddangosfa sydd newydd agor yw Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn ac mae hon i’w gweld hyd Fedi’r 11ed eleni a’r Arddangosfa arall yw un o waith Graham Sutherland, bydd hon yn yr arddangosfa hyd Hydref 30ain.

Ìý



Cyfweliad Penblwydd Tim Rhys Evans

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 09:20, Dydd Llun, 20 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Ers pan oedd o’n 5 oed roedd Tim Rhys Evans a’i fryd ar wneud ei fywoliaeth ym maes cerddoriaeth.Ìý

Ìý

Tim Rhys Evans a Dewi Llwyd

Tim Rhys Evans a Dewi Llwyd

Fe aeth i’r coleg i astudio cyfansoddi cyn newid i astudio canu. Bu’n ganwr operatig am 5 mlynedd ond fe sylweddolodd ei fod yn cael mwy o wefrÌýwrth weithio gyda chantorion eraill.

Ìý

YnÌýsgil llwyddiant Only Men Aloud yn y gystadleuaeth Last Choir StandingÌý 3 blynedd yn ol,Ìý mae arwain y côr yn waith llawn amser i Tim bellach.

Mae hefyd yn falch iawn o’r gwaith gyda’r cor iau, Only Boys Aloud ond ei freuddwyd fyddai gweld Only Men Aloud yn gor cwbl broffesiynol.

Bu’n son am benblwyddi’r gorffennol yn ogystal a be hoffai gael yn anrheg penblwydd yr wythnos hon gyda Dewi Llwyd.

Ìý



Blas - Malwod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Blas Criw Blas | 16:45, Dydd Iau, 16 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Yn ystod rhaglen arbennig iawn i ddathlu 4 mlynedd o ddarlledu Blas fe fu Rhodri Williams a Nia Mair yn ne Ffrainc yn blasu Malwod ar y rhaglen. Cinio bach hamddenol dim brys ar lan y môr.Ìý

Ìý

Ìý

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Ìý

Ìý

Ar y ffordd i weld Take That

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Geraint Lloyd Criw Geraint Lloyd | 09:31, Dydd Mercher, 15 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Fe gafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda chriw o Dregaron oedd ar eu ffordd i fynd i weld Take That yng Nghaerdydd.

Ffion Medi sy'n edrych ymlaen at y cyngerdd.

Ìý

Ìý

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Ìý

Ìý

Cystadleuaeth Canwr y Byd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 08:50, Dydd Mawrth, 14 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Bob dwy flynedd mae hi'n cael ei chynnal , a bellach mae hi'n wythnos hollbwysig ar y calendr cerddorol.

Wrth i gystadleuaeth Canwr y Byd ddechrau unwaith eto yng Nghaerdydd bydd cyfle i ugain o gantorion ymgiprys am y wobr fawr allai drawsnewid eu bywydau nhw.

Y gantores Rhian Williams sy'n son mwy am y gystadleuaeth gyda Dewi Llwyd.

Cyfweliad Sulwyn Thomas

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 08:43, Dydd Mawrth, 14 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Darlledwr a fu'n llais cyfarwydd ar Radio Cymru am ugain mlynedd oedd gwestai arbennig Dewi fore Sul.

Dewi a Sulwyn Thomas

Dewi a Sulwyn Thomas

Perchennog ' Y Stondin' ar un adeg, ond ers iddo ymddeol mae Sulwyn Thomas mor brysur ag erioed, gyda llu o ddiddordebau amrywiol.

Yn berson swil a thawel yn ei ieuenctid (dyna mae'n ei honni!) mae'n ddiolchgar iawn am y profiadau a gafodd fel aelod o'r Urdd - profiadau a arweiniodd at yrfa ym maes darlledu.

Dros y blynyddoedd mae wedi mwynhau ymweld a sawl rhan o'r byd fel arweinydd gwyliau Cymraeg.

Gyda sawl atgof diddorol am benblwyddi'r gorffennol, fe fydd hefyd yn rhannu ei ddyhead am anrheg penblwydd arbennig eleni.

Buddugoliaeth yr SNP - be nesa?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Manylu Criw Manylu | 17:05, Dydd Llun, 13 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Ar Fai y pumed, mi enillodd plaid genedlaethol yr Alban, yr SNP, fuddugoliaeth ysgubol yn yr etholiad ar gyfer senedd y wlad. Nhw ydi'r blaid gyntaf erioed i ennill mwyafrif yn Holyrood. Ar Manylu heno, mae rhai o Gymry'r Alban yn trafod llwyddiant y blaid gydag Alwen Williams.

Mae y rhan fwya yn sicr bod personoliaeth gref yr arweinydd, Alex Salmond, a pherfformiad y blaid yn ystod eu cyfnod mewn llywodraeth leiafrifol wedi cyfrannu at hynny. Ond maen nhw'n dweud bod yr SNP hefyd wedi llwyddo ifanteisio ar y ffaith bod y pleidiau eraill mewn sefyllfa gymharol wan, gyda Llafur wedi cael ymgyrch etholiadol wael, a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn talu'r pris yng ngolwg nifer o Albanwyr, am fentro i glymblaid gyda'r Toriaid yn San Steffan.

A hwythau wedi ennill 69 o'r 129 o seddi yn Senedd yr Alban, does dim nawr i rwystro'r SNP rhag gweithredu rhai o'r addewidion na wnaethon nhw eu cyflawni yn ystod eu cyfnod mewn llywodraeth leiafrifol, am eu bod wedi methu cael cefnogaeth pleidiau eraill ar eu cyfer. Y mwyaf dadleuol ohonyn nhw yw refferendwm ar gyfer annibyniaeth i'r Alban. Ond maen nhw'n gwybod nad mater hawdd fydd cael pleidlais "ie". Mae arolwg ar ôl arolwg yn awgrymu mai rhyw 30% o bobol yr Alban sydd o blaid annibyniaeth. Os am gael cefnogaeth rhagor o bobol - fe fydd yn rhaid i Alex Salmond ei darbwyllo y bydd Alban annibynol yn gallu cynnal ei hun yn ariannol. Fe fydd llawer yn dibynnu hefyd sut y bydd y wlad yn perfformio yn economaidd yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Er bod rhai o aelodau yr SNP yn awyddus i ymwahanu oddi wrth Brydain yn syth, mae Alex Salmond wedi awgrymu mai gam wrth gam y bydd yn gweithredu. Fydd y refferendwm ddim yn cael ei chynnal am dair neu bedair blynedd. Mae'n bosib hefyd y bydd y papur pleidleisio yn cynnwys trydydd dewis - sef datganoli pellach, ble byddai Senedd yr Alban yn derbyn mwy o gyfrifoldebau gwleidyddol, ond yn rhannu rhai, fel amddiffyn a materion tramor gyda Llundain.

Yn ôl y Dr Peter Lynch o adran wleidyddiaeth Prifysgol Stirling, dydi annibyniaeth ddim yn anochel, ond mae teimladau pobol yr Alban tuag at hunan-reolaeth yn fwy cadarnhadol nag y buon nhw yn y gorffennol.

MANYLU gyda Alwen Williams ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, Mehefin 13eg am 6 o'r gloch.

Pafiliwn y Bobl neu Shed Berygl?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Manylu Criw Manylu | 09:05, Dydd Llun, 6 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Mae na rwyg yng Nghorwen ynglyn â thynged Pafiliwn y dre a godwyd union gan mlynedd yn ôl. Fe'i adeiladwyd gydag arian pobl cyffredin yr ardal, fel safle i gynnal digwyddiadau i hybu diwylliant Cymraeg ac fe gafodd ei drosglwyddo gan y gymuned i ddwylo'r awdurdod lleol toc wedi'r Ail Ryfel Byd, ond does na ddim gwariant sylweddol wedi bod arno ers degawdau.

Oherwydd hyn mae ei gyflwr wedi gwaethygu gymaint nes bu'n rhaid i Gyngor Sir Ddinbych ei gau flwyddyn yn ôl oherwydd ei fod yn beryg i'r cyhoedd.

Yn ôl yr Awdurdod lleol mi fysa'n costio mwy na hanner miliwn o bunoedd i'w adnewyddu i gyraedd safonnau adeiladu presennol, a does ganddyn nhw ddim yn arian i wneud hynny, felly mae nhw am ei ddymchwel a rhoi'r tir yn nôl yn nwylo'r gymuned.

Ond mae'r dref wedi ei rhannu. Mae na gnewyllyn wnaiff unrywbeth i'w achub ac mae na rhai sydd wedi diflasu ar yr holl drafodaeth am ei ddyfodol.

Pafiliwn Corwen - be fydd ei dynged? Clywch y dadleuon yn rhaglen materion cyfoes MANYLU gyda Anna-Marie Robinson ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, Mehefin 6ed am 6 o'r gloch.

Celfyddydau 05-06-2011

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 09:40, Dydd Sul, 5 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Sioned Williams yn adolygu Albwm newydd Cerys Mathews "Explorer" ac arddangosfa newydd yng Nghanolfan Dylan Thomas.

Sioned Williams

Ìý







Daniel Glyn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 09:27, Dydd Sul, 5 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Ar ddiwrnod ei ben-blwydd - y digrifwr a'r darlledwr Daniel Glyn oedd gwestai arbennig Dewi fore Sul 05.06.11

Daniel Glyn

Gan nad oedd llawer o gyfle i ddathlu pan yn 16, 18 a 21 oed oherwydd ei fod yn sefyll arholiadau pwysig ar y pryd, byth ers hynny mae Daniel wedi gwneud sbloets fawr o'i ben-blwydd!

Cafodd ei ysbrydoli i fentro i fyd y 'stand up' wedi gweld sioe gan Freddie Starr! Roedd wrth ei fodd fod un person gydag un meicroffon yn gallu gwneud i lond theatr o bobl chwerthin (yn ogystal â sylweddoli fod y diddanwr yn gallu gwneud ffortiwn!)

Mae Daniel yn cyfaddef teimlo'n sâl drwy'r dydd cyn gwneud gig 'stand up', gan boeni a fydd ei jôcs yn ddigon da.

Yn gydberchennog cwmni gyda'i frawd Mathew a Gethin Thomas, y prosiect diweddaraf ar y gweill yw 'antur clywedol' ar gyfer plant, 'drama radio' fydd i'w phrynu ar y we gyda Rhys Ifans yn lleisio'r holl gymeriadau.

Ei anrheg pen-blwydd delfrydol fyddai i Pad 2 neu'r gallu i hedfan!

Mae Daniel hefyd i'w glywed bob nos Iau ar C2 Radio Cymru rhwng 10 - 12.

Cân Babis Mis Mai

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Dafydd a Caryl Criw Dafydd a Caryl | 09:26, Dydd Iau, 2 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Dyma'r gân gan Caryl yn arbennig i fabanod Mis Mai. Cofiwch gysylltu â Dafydd a Caryl os am sicrhau fod enw aelod diweddara'r teulu neu fabi i ffrind yng nghan "Babis bach yr Haf!"

Ìý

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Ìý

Ìý

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.