Ö÷²¥´óÐã

Archifau Awst 2012

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr - 30 Awst 2012

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Pigion Pigion | 11:43, Dydd Iau, 30 Awst 2012

Sylwadau (0)

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Ìý

Darllen gweddill y cofnod

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr - 20 Awst 2012

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Pigion Pigion | 11:29, Dydd Mawrth, 21 Awst 2012

Sylwadau (0)

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Ìý

Darllen gweddill y cofnod

Dafydd, Caryl ag Alex Jones

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Dafydd a Caryl Criw Dafydd a Caryl | 09:28, Dydd Gwener, 17 Awst 2012

Sylwadau (0)

Alex Jones oedd westai arbennig Dafydd Du a Caryl Parry Jones ar y rhaglen ddoe yn trafodÌýThe One Show a'i phrofiad ar Strctly Come Dancing.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr - 13 Awst 2012

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Pigion Pigion | 09:21, Dydd Llun, 13 Awst 2012

Sylwadau (0)

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Ìý

Darllen gweddill y cofnod

Huw Yn Edrych Ymlaen At Ei Eisteddfod Genedlaethol Olaf Fel Cyflwynydd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Newyddion Newyddion | 09:51, Dydd Gwener, 3 Awst 2012

Sylwadau (0)

Wedi 33 o flynyddoedd fel un o gyflwynwyr yr Eisteddfod Genedlaethol i Ö÷²¥´óÐã Cymru, bydd y sylwebydd rygbi Huw Llywelyn Davies yn cyflwyno o'r brifwyl ym Mro Morgannwg am y tro olaf eleni.

Yn ystod yr wythnos gynhwysfawr o ddarlledu, Huw Llywelyn Davies (o Waun Cae Gurwen) fydd yn ein harwain drwy brif seremonïau'r dydd, gyda Caryl Parry Jones (o'r Rhyl) a Nia Roberts (o Benllech) yn cadw cwmni i'r gwylwyr yn ystod holl gystadlu'r dydd. Wrth i Iolo ap Dafydd (o Lanrwst) hel straeon drwy grwydro'r maes, bydd Rhun ap Iorwerth (o Landegfan) yn crynhoi uchafbwyntiau'r dydd bob nos.

"Rwy wedi bod yn ffodus iawn cael amrywiaeth eang o brofiadau yn ystod fy ngyrfa - yn darlledu mewn cymaint o feysydd gwahanol ar radio a theledu. Ond does yna'r un wythnos wedi rhoi mwy o foddhad a phleser i fi dros y blynyddoedd nag wythnos gyntaf mis Awst a'r Eisteddfod Genedlaethol," meddai Huw

"Anodd credu, ond rwy' wedi cyflwyno i Ö÷²¥´óÐã Cymru bob blwyddyn ers ymuno â'r Gorfforaeth ym 1979 - Dyffryn Lliw 1980 oedd y cyntaf. Chwith meddwl taw hon fydd yr olaf, ond rhaid gorffen rhywbryd a chaf gyfle i fwynhau'r Wyl fel Eisteddfodwr o hyn ymlaen."

Mae'r tîm cyflwyno yn ysu i gyrraedd y maes i ddarlledu wythnos lawn yng nghwmni'r gwylwyr a'u gwesteion arbennig. Dyma'r tro cyntaf i Nia gyflwyno o'r Brifwyl ers tua 10 mlynedd gydag Iolo yn ymuno â'r tîm am y tro cyntaf erioed.

"Yn rhan o dîm cyflwyno'r 'Steddfod ym Mro Morgannwg eleni, mi fydda i'n chwilio am bob math o bynciau difyr i'w trafod, a gwneud hynny yn fwy hamddenol nag ar ras wyllt i'r rhaglenni newyddion mae'n siwr!" meddai Iolo, sy'n ohebydd gyda Newyddion Ö÷²¥´óÐã Cymru.

Bydd bwrlwm o westeion arbennig yn ymweld â'r stiwdio a cheir sgyrsiau gyda'r Archdderwydd etholedig Christine James ac enillwyr y prif gystadlaethau. Bydd Dylan Foster Evans a Dylan Iorwerth yn cloriannu'r cyfansoddiad buddugol a chawn glywed sgyrsiau gyda'r bardd Gwyneth Lewis a'r Prifardd Meirion Macintyre Huws.

Bydd rhaglenni arbennig hefyd gyda'r nos yn bwrw golwg yn ôl dros ddigwyddiadau'r dydd yn Y Babell Lên.

Mae Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru yn rhan annatod o'r Eisteddfod hefyd a'r bartneriaeth fywiog arferol, Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis fydd yn cyflwyno'r cystadlu yn fyw, o 10.30am y bore bob dydd.

Bydd Nia Lloyd Jones ym mwrlwm cefn y pafiliwn, Stifyn Parri yn crwydro'r maes yn sgwrsio gyda'r Eisteddfotwyr a'r stondinwyr a bydd Caryl a Daf yng nghwmni carafanwyr brwd yr Eisteddfod bob bore hefyd am 8.30am. Ar ddydd Sul cynta'r Eisteddfod, darlledir Oedfa'r Eisteddfod a'r Gymanfa Ganu yn fyw o'r maes.

Ar y Sadwrn cyntaf bydd uchafbwynt y flwyddyn i lawer, sef ffeinal Y Talwrn, pan fydd cynulleidfa frwd yn y Babell Lên i gael clywed y cystadlu cyffrous. Ond os na allwch chi gyrraedd y Maes mewn pryd ar y Sadwrn cyntaf, bydd modd gwrando ar Radio Cymru am 7.30pm am yr hwyl i gyd.

Ac os collwch chi rywfaint o'r Eisteddfod yn ystod y dydd bydd rhaglen drafod ddyddiol Radio Cymru o'r Eisteddfod, Tocyn Wythnos gyda Beti George, yn cael ei darlledu Dydd Sadwrn, 6.45pm, Dydd Llun, Mawrth a Iau, 6.15pm, Dydd Mercher a Gwener, 6pm.

Bob amser cinio bydd Dylan Jones ar drywydd straeon mawr y maes yn Taro'r Post a bydd Ffion Dafis yn crynhoi digwyddiadau'r Babell Lên yn ddyddiol hefyd.

Bydd criw bywiog C2 sy'n cynnwys Huw Stephens, Magi Dodd, Daniel Glyn, Huw Evans a Lisa Gwilym yn dod â chyffro Maes B yn fyw bob nos, a bydd cyfle hefyd i weld rhai o'r cyfweliadau gorau ar y we ar bbc.co.uk/c2.

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr - 01 Awst 2012

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Pigion Pigion | 14:30, Dydd Mercher, 1 Awst 2012

Sylwadau (0)

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Ìý

Darllen gweddill y cofnod

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.