Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: Awst 20-26ain

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Bore Cothi - Ceri Jones

Yr Wyddfa - Snowdon
profiad - experience
llethr - slope
teclyn - implement
ymarfer - practice
disgyblu - to discipline
annibynnol - independent
cryfder breichiau - arm strength
yr her - the challenge
pwysau - weight

"sgwrs rhwng Shan Cothi a Ceri Jones sydd sy'n gweithio efo plant sy gydag anghenion arbennig. Mae Ceri wedi trefnu i griw gario cadair sgio neu 'sit ski' i ben yr Wyddfa. Be yn union ydy'r gadair sgio yma a pham bod nhw'n ei chario i ben mynydd? Dyma Ceri'n esbonio... "

Aled Hughes - Wyn Jones

cadair olwyn - wheel chair
rhoi cweir iddyn nhw - to give them a hiding
hwb bach - a little boost
ystod eang - a wide range
gwahanol anableddau - different disabilities
prin mae hi'n gweld - she can hardly see
sut gythraul? - how on the earth?
cecru a ffraeo - disagreeing and rowing
sylw haeddianol - deserved attention
gorchfygu anawsterau - to defeat difficulties

"...a phob lwc i'r criw ynde? Gobeithio bod y tywydd wedi bod yn braf iddyn nhw. Fuoch chi'n gwylio'r gêmau Olympaidd. Da oedden nhw ynde? Wel os oedech chi wedi mwynhau 'r gêmau hynny mae rhagor o am ddod efo'r gêmau paraolympaidd. Un o'r campau mwya poblogaidd y gêmau ydy pêl-fasged yn cael ei chwarae gan bobl mewn cadair olwyn. Aeth Aled Hughes am sesiwn ymarfer efo Wyn Jones sydd yn chwarae efo’r Anglesey Hawkes sef yr unig dîm pêl-fasged cadair olwyn ar Ynys Môn. Mae Wyn yn sôn am y gêm gyntaf gystadleuol chwaraeon nhw a hynny yn erbyn Rhyl Raptures..."


Stiwdio - Rob Piercy

oriel - gallery
brolio - to boast
pwnc - subject
y bwriad - the intention
coleg celf - art college
pwysau - pressure
troi eu trwynau - turning their noses
pregethu - preaching
dyfrlliw - water-colour
sgwrio - to scrub

"Wyn Jones yn fan'na yn sôn wrth Aled Hughes am y grefft o chwarae pêl-fasged mewn cadair olwyn. Crefft gwahanol sydd gynnon ni nesa, mewn rhaglen arbennig o Stiwdio ddydd Mercher cafodd Nia Roberts sgwrs efo'r arlunydd Rob Piercy. Mae Rob yn dathlu tri deg o flynyddoedd ers agor ei oriel ym Mhorthmadog. Wrth iddyn sgwrsio am yr adeg pan ddechreuodd Rob arlunio, gofynnodd Nia iddo fo sut wnaeth o sylwi bod y dalent arbennig hon ganddo fo... "


Marc Griffiths - Lyn Davies

Casgwent - Chepstow
mae'n amlwg - it's obvious
diwylliannol - cultural
cymdeithas - society
cwrdd lan - to meet up
gweithgareddau - activities
poblogrwydd - popularity
rhestr - list
yn ddiweddar - recently
adfywiad - revival

"Cofiwch alw i weld oriel Rob Piercy os dach chi'n mynd drwy Borthmadog. Mae hi'n werth ei gweld. Mi fuodd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngwent eleni a nos Fawrth buodd Marc Griffith yn sgwrsio efo Lyn Davies o Gasgwent. Ydy'r Eisteddfod wedi gadael ei marc ar yr ardal tybed? Dyma oedd gan Lyn i'w ddweud..."

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

T卯m pel-droed GB

Nesaf

Timau llawn amser