Main content

T卯m pel-droed GB

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yn sgil llwyddiannau athletwyr yn y Gemau Olympaidd, mae swyddogion Tîm Prydain yn barod wedi codi’r awgrym y dylai fod yna dîm pêl droed yn cynrychioli Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Tokyo mewn pedair blynedd.

Lleisiodd swyddogion Tîm Prydain eu siom ar ôl ennill 67 o fedalau yn Rio nad oedd pêl-droed yn cael cyfle i gystadlu er bod rheolwr newydd Lloegr, Sam Allardyce, wedi awgrymu y dylai'r tîm yma fodoli ar gyfer y gemau Olympaidd nesaf.

Fodd bynnag, mae cymdeithasau pêl droed Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon eisoes, ac yn ddiweddar,  wedi gwneud eu gwrthwynebiad yn glir at y math yma o ddatblygiad, gan ofni y byddai'n effeithio ar eu hannibyniaeth pêl-droed ar dwrnamentiau mawr eraill er gwaethaf nifer o sicrwydd gan FIFA i'r gwrthwyneb. Wedi’r cwbl, o wybod am ddigwyddiadau a gweithredoedd FIFA sy'n cael eu archwilio'n ddiweddar, pa sicrwydd sydd yna y gallant gadw at eu gair?

Syndod hefyd fod Sam Allardyce yn cefnogi’r syniad, gan y byddai ei dim ei hun, Lloegr, hefyd yn colli ei statws o annibyniaeth petai FIFA yn defnyddio Tim Prydenig fel sail i ddifodi bodolaeth Cymru, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr! Tybed a oedd y rheolwr yn ymwybodol o hyn pan wnaeth y cyhoeddiad?

Anfonodd Chris Coleman, rheolwr Cymru, neges ddigon clir yr wythnos yma, ei fod yn gwrthwynebu'r syniad gan ddweud na fyddai’n cefnogi unrhyw ddatblygiad a fyddai'n tanseilio llwyddiannau Cymru a welwyd dros yr haf. Mae Gogledd Iwerddon  a’r Alban yn gwrthwynebu'r syniad. Fodd bynnag, er i brif weithredwr yr Alban, Stewart Regan ddweud na fyddant byth yn cymeradwyo Tîm Prydeinig gan fod y cyhoedd yn yr Alban bob amser yn awyddus i gael ei gynrychioli gan yr Alban, petai unrhyw unigolion yn hoffi chwarae i dîm Prydeinig, yna ni fyddant yn ceisio eu rhwystro.

Nid yw Cymdeithasau Pêl Droed Cymru na Gogledd Iwerddon, yn dangos unrhyw arwydd o gwbl i newid eu safbwynt, yn enwedig ar ôl Gymru codi eu proffil Ewropeaidd trwy gyrraedd y rownd gynderfynol yn yr Ewros yn Ffrainc eleni.

Er waethaf lleisiau'r Cymdeithasau Pêl Droed, ymddengys y bydd prif weithredwr Cymdeithas Olympaidd Prydain, Bill Sweeney yn bwriadu i wneud yr hyn a all i gael dau dîm pêl-droed Tîm Prydain Fawr ar yr awyren i Dokyo, sef tîm y dynion a thîm y merched.

Tra mae Chris Coleman , yma yng Nghymru, wedi bod yn barod i ymateb, rwy’n siomedig nad ydi Llywydd Cymdeithas Pêl Droed Cymru, David Griffiths, heb godi ei lais i arwain y frwydr at sicrhau ein hannibyniaeth yn sgil y datblygiadau diweddar. Tawel yw ei ymateb i’r digwyddiadau diweddar yma, ac fel Llywydd, oni ddylwn ddisgwyl mwy ganddo, a chlywed rhyw fath o ymateb ac arweiniad a fyddai yn ein sicrhau fod y Gymdeithas gant y cant y tu ôl i unrhyw gynllun a fyddai'n bygwth ein hannibyniaeth. Siomedig yw ei ddistawrwydd.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Dilwyn Roberts Young Yn Ffrainc

Nesaf