Main content

Carl Darlington a Wrecsam

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Pan ddaw mis Ionawr yn y byd p锚l droed, mae sylw llawer o gefnogwyr yn troi tuag at ba chwaraewyr fydd yn newid clybiau a chryfhau timau.

Yr wythnos yma, mae sylw wedi cael ei roi i glwb Wrecsam yn y cyfryngau, am eu bod wedi arwyddo chwaraewr enwog, ac am gyfraniad eu hyfforddwr newydd, Carl Darlington at safon y t卯m ar y cae.

Ymunodd Darlington o glwb Y Seintiau Newydd yn Uwch gynghrair Cymru yn ystod mis Rhagfyr, a da ydi gweld fod hyfforddwyr o fewn uwch gynghrair Cymru yn cael eu cydnabod yn y modd yma!

Ers hynny, mae鈥檙 sylwebwyr wedi nodi fod gwelliant amlwg i'w weld yn null y Dreigiau o chwarae yn sgil eu buddugoliaeth dros Southport, ac yna yn y g锚m gyffrous draw yn Stoke yng nghwpan Loegr.

Dylid cofio hefyd fod Darlington yn rhan allweddol o drefn t卯m ieuenctid cenedlaethol Cymru, gyda gwybodaeth eang am gryfder chwaraewyr y dyfodol.

Gem gwpan arall yn nhlws p锚l droed Lloegr sydd yn wynebu Wrecsam ddydd Sadwrn, oddi cartref yn Stockport County, sydd wedi cwympo i lawr i Adran y Gogledd o鈥檙 Gyngres (hyn ar 么l blynyddoedd o fod yn aelodau o Gynghrair P锚l Droed Lloegr)

Cyfle felly i Wrecsam adeiladu ar yr hyn a welwyd yn Stoke, a gosod stamp newydd i'w safon am weddill y tymor.

Gyda Carl Darlington, sydd eisoes wedi profi llwyddiant gyda'r Seintiau Newydd yn ychwanegu ei brofiad a鈥檌 arbenigedd i'r t卯m hyfforddi, pwy a 诺yr na welwn Wrecsam yn nes谩u at frig y Gyngres, a hefyd hwyrach yn camu yn nes at ymddangos mewn ffeinal arall yn Wembley ar ddiwedd y tymor.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Ar y Marc: Golwr oeddwn i

Nesaf