Main content

Ar y Marc: Golwr oeddwn i

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

"Jose, cymer fi鈥檔 dy g么l" - wel ar 么l i Thibaut Courtois argyhoeddi Jose Mourinho mai fo ddylai fod yn brif olwr i Chelsea, mae ei ragflaenydd Petr Cech wedi gweld ei hun yn cadw鈥檙 fainc yn gynnes ar Stamford Bridge heb fawr o ddim i'w wneud ond derbyn cyflog anhygoel chwaraewr p锚l droed yr uwch gynghrair!

Golwr oeddwn i pan oeddwn i'n ifanc - ond un bychan o gorff a oedd yn codi problemau ynddo鈥檌 hun, yn enwedig gyda chroesiadau a pheli uchel. Ac fel pob chwaraewr p锚l droed arall, roeddwn yn pwdu os nad oeddwn yn cael gem!

Un o'r problemau o fod yn olwr ydi鈥檙 ffaith nad ydach yn gallu cynnig am le arall yn y t卯m, yn anhebyg i鈥檙 chwaraewyr hynny sydd yn gallu cynnig mwy nag un safle wrth chwarae allan!

Fel bron pob golwr arall yn fy amser, mae鈥檔 debyg mai golwr oeddwn am fod gan fod ein ffrindiau o鈥檙 farn nad oeddem yn ddigon galluog i gynnig unrhyw beth i鈥檙 t卯m, (ac mewn rhai achosion gan eu bod yn credu nad ydym yn llawn llathen wrth daflu ein hunain yn fyrbwyll at draed ein gwrthwynebwyr) felly i鈥檙 g么l allan o鈥檙 ffordd a ni!

Ond yn y wasg yn ddiweddar, fe ddois ar draws erthygl a fyddai wedi rhoi cymaint o obaith i mi a channoedd o olwyr amheus eraill eu cyfnod, wrth ddarllen am r么l yr ail olwr mewn t卯m, neu yn benodol, mewn timau yn uwch gynghrair Lloegr.

Hwyrach i chi nodi fod Lerpwl wedi newid golwr yn ddiweddar (rhywbeth a awgrymwyd ar Ar y Marc rhai wythnosau yn 么l, - tybed a oedd rhywun yn Anfield yn gwrando?), ac mae Brad Jones, ar 么l blynyddoedd heb fawr o gyfle wedi dod i mewn am gyfnod "amhenodol" ( yn 么l Brendon Rodgers) i gymryd lle'r anffortunus simsan Simon Mignolet.

O leiaf mae Jones yn cael y cyfle nad yw ar gael i Anders Lindergaard yn Manchester United neu Joel Robles yn Everton, (doedd o ond yn ail olwr yn Wigan ac wedi chwarae ond tair gem ar ddeg cyn dod drosodd i Barc Goodison), ac fe symudodd Jack Butland i Stoke o Birmingham ar 么l denu sylw yn y gemau Olympaidd a chael ei awgrymu fel golwr nesaf Lloegr (ond faint o emau mae o wedi ei gael yn Stadiwm Britannia?).

Pan oeddwn ar wyliau yn ne Ffrainc yn y gwanwyn, cefais gyfle i weld OGC Nice yn chwarae yn erbyn Stade de Reims, gyda David Ospina yn disgleirio yn y g么l i Nice, ac yna hefyd i鈥榳 wlad Colombia yng nghwpan y Byd yn yr haf. Roedd o mor dda nes i Arsenal ei arwyddo, ond does dim hanes amdano byth ers hynny , heblaw cadw鈥檙 fainc yn gynnes yn yr Emirates!

Ie, cyflog mawr yr uwch gynghrair ond dim gem!

Wel wir, y pethau dwi wedi鈥檜 colli wrth gael fy ngeni ar yr adeg anghywir!

Petai鈥檙 uwch gynghrair yn ei wedd presennol wedi bodoli hanner can mlynedd yn 么l , fe fyddwn wedi cynnig fy hun i bob un clwb ar wyneb y ddaear os oeddynt am dalu crocbris i olwr ail radd a fyddai鈥檔 fodlon cadw sedd yr eilyddion yn gynnes!!!

Llwyddodd Pegguy Arphexad i ennill medal am eistedd ar fainc Caerl欧r yn ffeinal Cwpan y Gynghrair, cyn syndod i Lerpwl ble enillodd chwe medal arall fel eilydd na ddefnyddiwyd mewn chwe ffeinal.

Erbyn iddo ymddeol, roedd y golwr wedi chwarae tri deg a naw o gemau i saith o dimau gwahanol dros gyfnod o bymtheng mlynedd.

Mae gan Leeds golwr wrth gefn, Stuart Taylor, a chwaraeodd saith deg dau o weithiau i Arsenal dros bymtheng mlynedd, gan ennill medal y gynghrair, cwpan Lloegr, a dwy fedal yn nharian elusennol yr F.A.

Wel, petai rhywun wedi cynnig gyrfa fel yna i mi , am eistedd i lawr ar y job, fe fyddwn wedi symud i'w derbyn yn gynt na all David de Gea neidio i arbed holl gynigion blaenwyr blaenllaw'r uwch gynghrair.

Ond dyna ni, cyfnod arall, a chyfle arall yn enwedig i鈥檙 "dodgy keeper"!!!!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Tra Bo Dau: Nigel Owens a Tudur Owen

Nesaf

Carl Darlington a Wrecsam