Main content

Ar Y Marc: Enillydd Tir Morfa

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Roedd dydd Mawrth diwethaf yn dipyn o achlysur i eneth pedair ar ddeg oed o Ysgol Gymunedol Arbennig Tir Morfa yn y Rhyl. Enillodd Amie Stafford, o Brestatyn, sy’n gefnogwr brwd o’r clwb lleol, gystadleuaeth i ddylunio tlws newydd ar gyfer Uwch Gynghrair Cymru Chwaraeon Corbett.

Roedd angen tlws newydd gan i glwb y Seintiau Newydd gael yr hawl i gadw'r gwpan wreiddiol gan eu bod wedi ei ennill tair blynedd yn olynol.

Yr wythnos diwethaf cafodd Amie gyfle i ymweld â Chanolfan Gwaith Haearn Prydeinig, Croesoswallt, i weld cynlluniau’r cwmni ar gyfer creu'r Tlws newydd wrth ddilyn eu dyluniad hi.

Cafodd Amie gwmni ei mam Julie Stafford, yn ogystal â swyddog cyswllt disgyblion yr ysgol Mandy Lewis ynghyd a Jack Lewis, aelod o dîm Tref Prestatyn, a fu'n cynorthwyo yn y gystadleuaeth yma ar ran y clwb.

Hefyd yn ymuno a hwy oedd Clive Knowles, Cadeirydd y Ganolfan Gwaith Haearn Prydeinig, Luke Barcud, dylunydd a cherflunydd yn y Ganolfan, Ian Williams, Prif Gyfarwyddwr Gweithrediadau Y Seintiau Newydd a'r Swyddog Hyrwyddo Uwch Gynghrair Cymru, Steve Lloyd.

Cafodd y Ganolfan Gwaith Haearn Prydeinig gomisiwn i greu tlws newydd Uwch Gynghrair yn unol â dyluniad enillydd y gystadleuaeth a mawr yw’r ganmoliaeth i Amie am ei llwyddiant.

Cafodd y cyfle i drafod ac egluro ei chynlluniau gyda Luke Barcud, cyn i'r cwmni gytuno ar fanylder y cynlluniau terfynol er mwyn cychwyn ar y gwaith.

Mwynhaodd Amie y daith o amgylch y ganolfan gan gael y cyfle i weld esiamplau gwych o waith creadigol nifer o ddylunwyr a cherflunwyr a hefyd cafodd gipolwg ar rai prosiectau gwleidyddol uchel eu proffil a fydd yn cael eu dadorchuddio yn ddiweddarach eleni.

Oherwydd ei llwyddiant, bydd yn cael ei gwahodd, fel gwestai VIP, ynghyd â ffrindiau a’i theulu i’r gêm bêl-droed allweddol a fyddai'n penderfynu pa dim fydd yn cipio’r tlws newydd yma fel pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru Chwaraeon Corbett ar gyfer tymor 2014/15.

Hefyd, bydd yn derbyn copi replica bach o'i thlws buddugol a thocynnau i un o gemau pêl-droed rhyngwladol Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn 2015.

Dwedodd Mrs Carol Edwards, pennaeth Ysgol Tir Morfa ei bod yn edmygu medrau creadigol Amie a bod hool aellodau o gymuned yr ysgol yn hynod falch o weld un o’u disgyblion yn dangos rhagoriaeth yn ei gallu fel dylunydd wrth gipio gwobr genedlaethol uchel ei barch.

Llongyfarchiadau calonnog i Amie Stafford ac i staff ysgol tir Morfa am ei chefnogi.

Tybed ai’r Seintiau Newydd fydd yn cipio'r tlws yma hefyd?

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geraint Lovgreen ar Enw'r G芒n

Nesaf