Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Bore Cothi - Efeilliaid
efeilliaid - twins
yn debyg iawn - very similar
olion bysedd - fingerprints
cwmpo mas - falling out
yr un meysydd - the same type of work
bwys ein gilydd - next to each other
Rhydychen - Oxford
diniwed - innocent
gwahaniaeth - difference
dileu - to extinguish
...efeilliaid. Sut beth ydy bod yn efeilliad sydd yn debyg iawn i'w gilydd tybed? Dyna oedd cwestiwn Shan Cothi i'r efeilliaid Rhodri a Rhys ab Owen ar Bore Cothi ddydd Mawrth. Ond er bod Rhodri a Rhys yn edrych yn debyg iawn i'w gilydd ydy eu personoliaethau nhw'n debyg? Dyma oedd gan y ddau i'w ddweud...
Hywel Gwynfryn - Santes Dwynwen
chwantau - urges
colofn iâ - a column of ice
dymuniad - wish
toddi - to melt
bendithio - to bless
gwireddu - to fulfill
lleian - a nun
y lleddf a'r llon - the sadness and the joy
cymod - reconciliation
cyflwr - condition
Yr efeilliad Rhodri a Rhys yn fan'na yn siarad efo Shan Cothi. Sgwn i fuon nhw'n chwarae triciau ar bobl eraill; Rhodri yn smalio. neu'n esgus, bod yn Rhys falle? Dw i wedi clywed am ambell efaill yn chwarae'r math yna o dric efo'u cariadon hyd yn oed! Drwg ynde? Gobeithio'n wir bod neb wedi gwneud hynny ar Ionawr y pumed ar hugain! Dydd Santes Dwynwyn wrth gwrs- santes cariadon Cymru. Dyma i chi gerdd gan Fardd y Mis Radio Cymru, Christine James, sydd yn rhoi ychydig o hanes Dwynwen i ni. Mwynhewch a pheidiwch â phoeni os nad ydach chi'n deall bob gair...
Dan Yr Wyneb - Osi Rhys Osmond
mewn rheolaeth - in control
marwolaeth - death
tragwyddoldeb - eternity
cydymdeimlad - sympathy
mwy deniadol - more attractive
yn y pen draw - in the end
cadair olwyn - wheelchair
arddangosfeydd - exhibition
dychymyg - imagination
anadlu - breathing
Hanes Santes Dwynwen yn fan'na mewn cerdd gan Fardd y Mis Radio Cymru, Christine James. Mae cariad yn bwysig yn y stori nesa 'ma hefyd. Ddwy flynedd a hanner yn ôl, clywodd yr artist Osi Rhys Osmond gan ei ddoctoriaid, mai dim ond misoedd oedd ganddo ar ôl i fyw oherwydd cancr. Ers hynny, mae o wedi siarad yn agored iawn am y profiad, a dangos nad oes rhaid bod ofn y salwch hwn. Mae o wedi delio efo'r sefyllfa yn ei ffordd arbennig ei hun ond hefyd efo gofal cariadus ei wraig. Dyma fo'n dweud yr hanes wrth Dylan Iorwerth
Bore Cothi - Ffotograffiaeth
sgiliau angenrheidiol - necessary skills
y cant - percent
cydweithio efo chi - cooperate with you
diffwdan - without fuss
sylwi - to notice
anffurfiol - informal
wedi ei ystyried - considered
gwefannau cymdeithasol - social media
gwylltio - to become angry
gynnau - just now
...yr artist Osi Rhys Osmond yn fan'na ar Dan yr Wyneb yn siarad am y ffordd y mae o'n delio efo cancr. A dan ni'n gorffen yr wythnos hon yn ysbryd Santes Dwynwen drwy sôn am briodasau. Un o'r bobl bwysica mewn priodasau ydy'r ffotograffydd ynde? Dydd Mawrth ar Bore Cothi clywon ni Richard Jones o Glwb Ffotograffiaeth Caernarfon, yn esbonio wrth Shan be sy’n gwneud ffotograffydd priodas da, ac mi wnaeth o roi tips arbennig hefyd ar sut i dynnu lluniau proffesiynol yr olwg...