Main content

Pel-droed dros y 'Dolig

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Nadolig llawen i chi gyd.

 

Mae yna ryw awyrgylch arbennig i gemau pêl droed dros gyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd.

 

Pan oeddwn yn ifanc ac yn byw ym Mhorthmadog, roedd gemau darbi yn cael eu cynnal rhwng Port a Blaenau Ffestiniog. 

 

Roedd y gemau yma, fel gemau proffesiynol, yn cael eu chwarae ar ddydd y Nadolig, ac yna'r gêm ddilynol ar Ddydd Gŵyl Sant Steffan. Fodd bynnag, daethpwyd a'r gemau Nadolig yn y drefn yma i ben ar ddechrau'r chwedegau pan benderfynodd undebau llafur fod rhaid i yrrwyr bysus, fel pawb arall, gael gŵyl oddi wrth eu gwaith, a symudwyd gemau diwrnod 'Dolig i Ddydd Calan.

 

Ond yn hanesyddol, roedd cynnal gem bel droed wedi bod yn rhan o arferion a dathliadau gŵyl y Nadolig yng Nghymru ers blynyddoedd maith.

 

Ceir tystiolaeth o hyn yn y llyfr hanesyddol, clasurol  “A History of British Football “, gan y diweddar Percy M. Young, ble cyfeirir at y traddodiad ymysg y werin Gymreig, ac yn benodol yn Siroedd Aberteifi a Phenfro, lle'r oedd chwarae’r ‘cnapan’ yn rhan annatod o fywyd y Nadolig yn yr ail ganrif ar bymtheg.

 

Yn y llyfr, ceir dyfyniad o lythyr gan Anne Beynon o Fargoed, Llandysul, a anfonwyd  i’w chwaer Mary (a ymfudodd gyda’r Crynwyr i’r Unol Daleithiau) yn cyfeirio at gêm bêl-droed a gynhaliwyd rhwng meibion plwyfi Llandysul a Llanwenog ar ddydd Nadolig 1719.

 

Pêl-droed oedd y disgrifiad swyddogol o’r achlysur, ond brwydr waedlyd oedd yr hyn a ddigwyddodd!

 

Er hyn, dywed Anna fod yna egwyl am ryw awr, am ddeuddeg o’r gloch gyda’r chwaraewyr yn” bwyta bara, caws ac yfed cwrw, gyda phawb mor  llawen â’r gog”. Yna ar ôl ail gychwyn yn y prynhawn aeth pawb ati, yn ôl Anna , i “gweryla, rhegi a chicio’i gilydd... Roedd rhai wedi meddwi, a’r gweddill yn ymladd gan weld y genethod yn rhedeg a sgrechian wrth geisio achub eu brodyr”.

 

Aeth hyn ymlaen, yn ôl y llythyr am ryw awr arall, cyn i feibion plwyf Llanwenog benderfynu rhoi’r gorau i'r cystadlu. 

 

Mae’r disgrifiadau o'r gêm Nadoligaidd yma yn unigryw. Ceir hanes Ifan Bwlch Gwyn wedi meddwi'n ormodol i amddiffyn ei hun yn erbyn ymosodiadau brwnt y gwrthwynebwyr, cyn cael ei achub gan Sioned ei chwaer, ac Anna.

 

Yna ceir hanes am Twm Penddol o oedd hefyd, yn ôl Anna,  wedi meddwi cymaint nes cael ei gicio’n ddidrugaredd ac, fel Ifan Bwlch Gwyn,  yn methu edrych ar ôl ei hun yng nghanol yr ymrafael. Gorffen Anna’r llythyr drwy ddweud fod Mr Lewis Dinas Cerdin, y gweinidog, wedi cynnal cyfarfodydd gweddi yng nghapel Pant-y-creuddyn ar ôl y gêm.

 

Fodd bynnag, gofidia Anna fod y gweinidog a selogion y capel yn gwastraffu eu hamser, gan na fyddai unrhyw un o'r dynion ifanc  yn debygol o newid eu hagwedd er waethaf ôl yr holl weddïo!

 

Tipyn o achlysur felly yn yr hen Gymru a thystiolaeth unigryw ac sydd yn werth ei gadw sy’n dangos datblygiad y gêm yng Nghymru wledig. 

 

Mae’n debyg na fydd yna unrhyw gyfarfod gweddi yn cael eu cynnal i geisio achub yr hogia' rhag digwyddiadau tebyg mewn unrhyw gêm yr ewch i'w gweld yn eich ardal chi dros y Nadolig. Ond, mae’r arferiad o fynd i weld gem yn werth ei chadw a cheisiwch yr amser i fwynhau chwaraeon yr ŵyl, a chefnogi eich tîm lleol, ble bynnag y bo a beth bynnag fo'r safon .

 

Ond yn ôl at gemau darbi fy ieuenctid a’r gemau rhwng Porthmadog a Blaenau Ffestiniog.

 

 Yn aml iawn, cyn y gêm fawr ar ddydd Sant Steffan, roedd gemau yn y cynghreiriau is, a rheini hefyd yn gemau darbi gan ddechrau yn hwyr yn y bore er mwyn inni gyd fynd i weld y gêm fawr!

 

Felly oedd hi i mi ar fore oer a rhewllyd, mewn gem yng nghynghrair Dyffryn Conwy, wrth chwarae yn y gôl i’r Blaenau Colts,  yn Nolwyddelan, pan aeth popeth o'i le ac fe drodd y gêm yn rhywbeth a fyddai ‘n adlewyrchu brwydr y cnapan! 

 

Dathlu'r Nadolig a gormod o bwdin a gafodd y bai, wrth i bopeth a oedd yn symud cael ei gicio, a minnau fel golwr yn cael fy hyrddio i ganol tomen o faw gwartheg yng ngheg y gôl fwy nac unwaith.

 

Ond, yn dilyn un drosedd yn ormodol, fe gafodd y dyfarnwr ddigon ac fe agorwyd  llifddorau uffern wrth iddo fo, ag unrhyw un o’i berthnasau, gael eu cyfarch gan doreth ddi-stop o regi a dymuniadau tramgwyddus gwrth Nadoligaidd iawn pan benderfynodd anfon un o fy nghyd chwaraewr oddi ar y cae! 

 

Digon oedd digon, a thaith i dwb cynnar o ddŵr oer yn y cwt newid oedd y canlyniad. Ond, gwrthod yn bendant a wnaeth fy nghyfaill, am nad oedd y Nadolig yn amser priodol, yn sgil dymuniadau gorau i ddynion ewyllys dda, i’r dyfarnwr  anfon yr un chwaraewr oddi ar y cae, am beth bynnag rheswm! (“Hey ref don’t you know it’s Christmas oedd y geiriau” - ymysg toreth o regfeydd!).

 

Ac ie, dwi’n dal i’w clywed nhw rhyw hanner can mlynedd yn ddiweddarach wrth fynych unrhyw gêm dros gyfnod yr ŵyl! Ond i’r cwt newid digysur oedd rhaid mynd!  Ond nid dyna ddiwedd y stori.

 

Rhyw wythnos yn ddiweddarach, daeth llythyr i’r clwb, gan Gymdeithas Bel droed Arfordir Gogledd Cymru, yn cynnwys adroddiad y dyfarnwr o’r digwyddiadau yn Nolwyddelan ac yn rhoi'r rhesymau am anfon chwaraewr o’r cae, a pham y cymerwyd enw bron pawb arall a oedd ar y cae!

 

Ar ben yr amlen, oedd rhybudd clir - ‘Not to opened by a female!’ Dyna oedd agweddau bywyd pêl droed mewn gemau lleol yn y chwedegau.

 

Roedd adnoddau newid tîm y Colts wedi eu lleoli yng Nghae Clyd ym Manod, gerllaw Blaenau Ffestiniog.

 

Allai eich sicrhau nad oedd yna ddim byd yn glyd iawn am y lle yng nghanol y gaeaf. Beudy yng ngardd gefn un o’r tai gerllaw oedd y cwt newid, ac anferth o fath sinc metal ar y llawr i drochi ynddo ar ôl y gêm, heb fawr ynddo i gynhesu bodiau traed heb son am weddill y corff.

 

Ond dyna ni, dynion oedd dynion yr adeg hynny, medda 'nhw, ond os cawsoch eich taro mewn lle tyner gan bêl lledr gwlyb, a oedd yn pwyso tunnell, byddech yn lwcus iawn o gyrraedd y cwt newid yn dal i gredu mai dyn oeddech chi!

 

Tydi peldroedwyr heddiw ddim yn gwybod ei hanner hi, ac os ydynt yn meddwl mai deifio o gwmpas y lle a syrthio i’r llawr cynted ag y mae rhywun yn eu taro ydi bod yn ddyn, yna meddyliwch mewn difrif be’ fasa’n digwydd petaent yn chwarae ar Gae Clyd ac yn cael yr hen bêl ledr yna yn eu taro!

 

Mwynhewch yr ŵyl, a diolch am ddarllen fy ngholofnau yn ystod  y flwyddyn.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Camp y Seintiau Newydd