Main content

Camp y Seintiau Newydd

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Pa mor bell all y Seintiau Newydd fynd wrth sefydlu llwyddiannau newydd ar y cae pêl droed?

Maent eisoes wedi torri record Bangor wrth sefydlu rhediad o ddeunaw gem wedi eu hennill yn olynol ers cychwyn y tymor (record Bangor oedd ennill pymtheg yn olynol yn 2010).

Daeth y fuddugoliaeth dros y Rhyl ganol wythnos a’r rhediad i ddeunaw sydd yn well na lwyddodd Barcelona eu cyflawni yn 2010/11 a hynny gydag un ar bymtheg

Llwyddodd Glasgow Rangers i ennill deunaw gem yn olynol o gychwyn y tymor ‘nol yn 1898 a llwyddodd Celtic i ennill 25 o gemau yn olynol rhwng mis Awst 2003 a Chwefror 2004 - ond nid o gychwyn y tymor gan iddynt gael gem gyfartal di-sgor yng ngem gyntaf y tymor yn erbyn Dunfermline.

Felly, mae yna saith gem arall i'r Seintiau eu ennill yn olynol i ddod yn gyfartal a champ Celtic.

Os gellir cyrraedd y garreg filltir yma, yna fe fyddai ennill y pedair gem ddilynol yn eu gweld yn cyflawni cystal â Benfica o Bortiwgal a enillodd 29 o gemau cynghrair yn olynol o ddiwedd tymor 1971/2 hyd at y tymor dilynol (er iddynt golli Derby County yng Nghwpan Ewrop yng nghanol y rhediad yn nhymor 1972/3)

O fewn yr un tymor, ymddengys mai gan Ajax Amsterdam mae’r record - sef 26 o gemau yn olynol.

O ystyried gemau'r Seintiau Newydd yn eu cyfanrwydd, maent wedi ennill 23 o gemau i gyd ers colli yng nghwpan Ewrop nol ym mis Gorffennaf yn APOEL Nicosia yng Nghiprys.

Yn ogystal, maent hefyd yn dangos eu medrau yng nghystadleuaeth Irn-Bru wrth guro Forfar Athletic ac yna Livingston, ac fe fyddant yn wynebu St Mirren yn rownd gyn derfynol y gystadleuaeth yma ym mis Chwefror.

Does dim amheuaeth fod y Seintiau yn gosod safonau newydd o fewn pêl droed Cymru, a does gen i ddim amheuaeth chwaith mai dyma dîm gorau Cymru ar wahân i Gaerdydd ac Abertawe.

Pa mor hir fydd y rhediad yma yn parhau? Cawn weld ond mae gem anodd o'u blaenau'r Sadwrn yma oddi cartref yng Nghei Conna gyda’r gic gyntaf am chwarter wedi pump.

Mwy o negeseuon

Nesaf

Pel-droed dros y 'Dolig