Main content

Ewro 2016 - Bordeaux

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Wel! Roedd hi fel trip ysgol Sul! Llond maes awyr Manceinion o Gymry, i gyd ar y daith, yr hen, yr ifanc, teuluoedd, unigolion, cariadon, taid, nain , Anti Meri a phawb arall.

’Dwi’rioed wedi clywed gymaint Gymraeg ar awyren yn fy nydd erioed,; yna roedd cyrraedd Bordeaux fel cyrraedd canol stryd fawr Porthmadog neu Gaernarfon, gyda’r crysau cochion ym mhob man, mwy o Gymraeg ar y stryd nac mewn eisteddfod a lliw'r gwin lleol yn cyfuno'n berffaith gyda lliw'r crysau.

Wel, wir, roedd hi'n helo Bordeaux go iawn! Rownd pob cornel roedd hi’n gymanfa o ddathlu, dathlu cyrraedd Ffrainc, “Dont Take Me 主播大秀”, Calon Lan a Hen Wlad Fy Nhadau yn cael ei morio gan y miloedd ar filoedd a wnaeth y daith, ar y trên, ar awyrennau, yn y camper fans, mewn ceir, drwy sawl gwlad, dros y sianel, heibio’r gwinllannoedd, ac i’r Gymru newydd a sefydlwyd dros dro r lan afon y Gardonne.

Roedd y Ddraig ar daith, ac yn ein mysg , enwogion pêl droed y genedl yn crwydro'n hamddenol yng nghanol y bwrlwm. A phob un a welwyd yn ysgwyd llaw, dymuno’n dda ac yn gwenu mewn gobaith wrth gael tynnu eu lluniau yn y selfies diri . Ie, roedd awyrgylch dirdynnol, croesawgar , gorfoleddus Bordeaux yn brofiad bythgofiadwy.

Ni ellir byth anghofio chwaith ymddygiad, awch, brwdfrydedd a gobeithion yr holl gefnogwyr a deithiodd, yn gosod esiampl o frawdgarwch gyda’r Ffrancwyr lleol. Y Slofaciaid a ddaeth i wrthwynebu Cymru, yn dangos eu gwerthfawrogiad at gymorth helpwyr heddiw ( sef gwirfoddolwyr EURO 2016) a oedd mor barod eu cymwynas.

 


Yna, cyd ganu gyda chefnogwyr Slofacia ar y tram i'r stadiwm, (pwy sydd angen Llangollen?) a daeth ar awr, y funud a’r eiliad hir ddisgwyliedig pan gamodd tîm Cymru ar y cae mewn ffeinals am y tro cyntaf ers dyddiau fy magwraeth ym Mhorthmadog mor bell, bell yn ôl.

Mae dros hanner canrif ers i mi fynd i'r ysgol fel pob rhyw fachgen bach da, drwy niwl a glaw, boed aeaf neu boed ha’ . Ac yn yr ysgol mi ges lesuns history, geography ac ambell i lesyn am ymdrechion John Charles a’i dim yng Nghwpan y Byd yn Sweden am mai Cymro bach ydw’i.

Dwi’n dal i gofio Mr Williams a Mr Pritchard yn mynd i mewn ac allan o’r dosbarth i wrando ar y newyddion diweddaraf o gemau Cymru ar y radio, rhywle yn yr ysgol ( cwt Mr Thomas y gofalwr oedd rhywun yn ei amau!) ac yn dod a'r diweddara i ninnau yn y dosbarth.

Wn i ddim ble roeddwn i pan glywom fod 'na rhyw fachgen bochgoch bach difai o’r enw Pele wedi torri ein calonnau wrth grafu'r bel heibio Jack Kelsey yn y gôl, a sgorio’i gol gyntaf erioed i Frasil a oedd yn ddigon i guro Cymru yn yr wyth olaf cyn mynd ymlaen i gipio Cwpan y Byd a gwneud enw enfawr iddo’i hyn yn fyd eang .

Ond, Dydd Sadwrn diwethaf, Bordeaux a gafodd y " lesyns history, geograohy" a’r Welsh chwarae teg, am mai Cymry 'roeddem ni!

 

Rhyddhawyd rhwystredigaeth mynyddoedd o flynyddoedd mewn cymanfa côr y Cymry a lenwodd y Stade de Bordeaux i weld Gareth, Aaron, Joe, Ben, a’r gweddill yn croesi’r môr coch a choroni'r achlysur gyda buddugoliaeth fythgofiadwy gan ein harwain yn nes at wlad yr addewid a gwyrdroi holl ddelwedd Cymru ar hyd a lled y cyfandir. All geiriau byth grynhoi nac egluro'r Cymreictod a’r cyfeillgarwch a welwyd ym Mordeaux, na'r dathlu a’r llawenydd a rannwyd.

Ond mae un peth sicr, fe ddylai’r enw Bordeaux gael ei fabwysiadau a'i dderbyn gan eiriaduron swyddogol y Gymraeg fel gair sydd yn gyfystyr a chroeso, gwladgarwch a dathliadau bythgofiadwy. Ie, roedd hi'n Bordeaux o benwythnos!

Wel helo yn wir Bordeaux a merci, merci beaucoup am y croeso, a diolch i holl Gymry a wnaeth y daith, ac a wnaeth y gwaith ar y cae!

Pleser oedd bod yn eich mysg a bod cymaint y rhan o hanes a diwylliant newydd Cymru yma mewn cornel fechan o Ffrainc dros y dyddiau hir melyn tesog yna.

Ymlaen a Hogia ni! Plîs , plîs peidiwch â gadael i unrhyw un fynd adre eto, mae’n rhy fuan!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Mehefin 6ed-10fed

Nesaf

Cymru ar frig y grwp